Ymgyrch i brynu adeilad £650,000 ym Môn i roi gofal diwedd oes
- Cyhoeddwyd
Mae tair menyw wedi ffurfio menter gymunedol i geisio prynu rheithordy ar Ynys Môn a'i droi yn fan sy'n rhoi gofal diwedd oes.
Gan ddefnyddio crowdfunding a cheisio am grantiau, mae menter 'Hafan Ddaear' yn gobeithio codi £650,000 er mwyn prynu'r eiddo yn Llanallgo.
"Mae yna drafodaethau helaeth ar gyfer geni babi ond does yna ddim digon o drafod ar lle a sut 'dan ni am farw," meddai un o'r cyfarwyddwyr, y Parchedig Sara Roberts o Fethesda.
Os yw'r fenter yn llwyddo, y nod yn y pen draw yw prynu adeiladau eraill ar draws Cymru.
'Trawsnewid y sgwrs am farwolaeth'
"Y gobaith yw sefydlu lle diogel i bobl dreulio eu diwrnodau olaf neu eu hwythnosau olaf," medd y Parchedig Roberts wrth siarad â Cymru Fyw.
"Mae'n hanner ffordd rhwng bod adref a bod mewn ysbyty ac fe fydd yna gefnogaeth feddygol os oes angen.
"Fydd o ddim yn sefydliad meddygol. Mae o fwy fath â cartref ond yn cynnwys y gefnogaeth yna sydd ei angen ar bobl i'w gwneud nhw'n gysurus ac yn ddi-boen."
Ychwanegodd: "Megis cychwyn yw hyn - mae'r weledigaeth yn lot ehangach nag un lle a 'dan ni'n ceisio trawsnewid y sgwrs o gwmpas marwolaeth, angau a diwedd oes.
"Ar hyn o bryd 'dan ni'n teimlo nad oes llawer o ddewis ar gael - un ai 'dach chi adre, neu mewn ysbyty, neu hosbis sefydliadol - mae lot o bobl ddim yn gwybod bod ganddyn nhw opsiwn arall y tu hwnt i hynny.
"Fydd o ddim yn addas i bawb ond 'dan ni'n awyddus i roi'r dewis i bobl."
Y ddwy gyfarwyddwraig arall sy'n rhan o'r fenter yw Alexandra Derwen - sydd wedi ysgrifennu cyfrolau ar faterion diwedd oes - ac Angharad Owen, wyres y teulu a oedd yn arfer byw yn rheithordy Llanallgo.
Mae'r rheithordy, wedi cynnig cymorth a gofal bugeiliol ar hyd y blynyddoedd, medd y cyfarwyddwyr - gan gynnwys cysur i deuluoedd pobl fu farw yn llongddrylliad y Royal Charter yn 1859.
"O ran cyrraedd y nod ariannol rhaid i ni fod yn obeithiol ac mae diddordeb lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yn y syniad," medd Sara Roberts.
"Dwi'n cwrdd â phobl yn aml sy'n dweud wrtha'i y byddai y math yma o ofal wedi bod yn dda i anwyliaid. Yn syml does dim digon o ddewis i bobl sy'n dod at ddiwedd eu hoes.
"Mae'r hosbis sydd ar Ynys Môn yn gwneud gwaith gwych ond dyw pawb ddim isio landio mewn hosbis sy'n debyg i ysbyty - er yn gartrefol mae nifer o hosbisau yn fodelau meddygol."
'Yn eiddo i bawb yn y gymuned'
Y nod yw cyflogi person i edrych ar ôl y lle a dibynnu ar y cymorth meddygol sy'n bodoli eisoes yn yr ardal.
Dywedodd Sara Roberts fod y syniad yn "arloesol" a bod galw am wasanaethau o'r fath.
"Mae'r Caffi Colled - caffi i bobl sydd wedi colli anwyliaid - sydd gen i ym Methesda yn mynd o nerth wrth i bobl ddod i wybod amdano," meddai.
"Mae'n ffordd o gefnogi ein gilydd - mae hynny'n bwysig a dyna sydd wrth wraidd y fenter yma."
Ar hyn bryd mae cyfle i bobl addo arian i'r fenter tan ddiwedd Ionawr a bydd y dyddiad yn cael ei ymestyn os nad ydyn nhw wedi cyrraedd y nod. Bydd y cyfarwyddwyr hefyd yn gwneud cais am amrywiol grantiau.
"Yr hyn sy'n bwysig yw na fydd neb yn colli arian. Os yw'n amhosib i ni brynu'r adeilad fe fydd pobl yn cael eu harian yn ôl ond byddai'n braf prynu'r rheithordy a theimlo ei fod yn berchen i bawb yn y gymuned."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2024