Ailhyfforddi staff hosbis i droi gwastraff yn elw i elusen

Gweithwyr Menter Môn, Cyngor Môn a phrosiect Cylchol yn dal deunyddiau i ail-gylchu
Disgrifiad o’r llun,

Pwrpas prosiect 'Cylchol' yw rhoi bywyd newydd i eitemau diangen a hwb ariannol i hosbis ar yr un pryd

  • Cyhoeddwyd

Mae staff hosbis yng ngogledd Cymru'n cael eu hailhyfforddi i weithio mewn canolfannau ailgylchu i geisio canfod eitemau i'w trwsio a gwerthu er budd yr elusen.

Bydd staff Hosbis Dewi Sant ar Ynys Môn yn gweithio am dridiau'r wythnos yn chwilio am eitemau diangen, gyda'r nod o roi bywyd newydd i wastraff a hwb ariannol i'r hosbis.

Ymhlith yr eitemau maent yn chwilio amdanynt mae dodrefn, nwyddau trydanol, tecstilau a beiciau.

Wrth i fwy o bobl werthu eu dillad diangen ar-lein yn hytrach na'u rhoi i siopau elusen, mae'r fenter newydd rhwng yr hosbis, Menter Môn a Chyngor Môn yn gobeithio creu economi gylchol leol.

Y bwriad yw y bydd hefyd yn helpu i godi'r £6.7m y flwyddyn i'r brif hosbis yn Llandudno, a'r ddwy ganolfan arall yng Nghaergybi a Bangor, barhau i ddarparu eu gwasanaethau.

Mae'r hosbis wedi trawsnewid ei chanolfan cyfrannu ger archfarchnad Morrisons ar Stad Ddiwydiannol Penrhos yng Nghaergybi, ac wedi rhannu'r warws yn ofodau gwneud.

Yn rhan o'r prosiect peilot, bydd staff yn dod o hyd i eitemau i adfer a'u huwchgylchu gyda thîm o dechnegwyr arbenigol Menter Môn, cyn cael eu gwerthu yn siopau'r hosbis.

Dywedodd y trefnwyr y bydd y prosiect yn creu economi gylchol, ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw ar yr un pryd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i chomisiynu gan Gyngor Môn

Yn ôl Nathan Recourt, Cynorthwyydd Trwsio, mae "galw mawr" am y prosiect gyda chymaint o bethau yn mynd i safleoedd gwastraff sydd yn gallu cael eu trwsio, a'u hail-werthu.

"Cynaliadwyedd yw gair y funud oherwydd bod ein cymdeithas yn gwastraffu a thaflu cymaint o bethau da.

"Byddwn yn treulio deuddydd yr wythnos yn y ganolfan ailgylchu ym Mhenysgyrn ger Porthaethwy ac un diwrnod yn y ganolfan yng Ngwalchmai.

"Pan edrychwch chi ar yr eitemau rydan ni wedi'u cael yma'n barod, byddai'n bechod iddyn nhw gael eu taflu pan fydd modd eu defnyddio eto."

'Gwneud gwahaniaeth i gleifion a theuluoedd'

I Carol Morley, Pennaeth Manwerthu Hosbis Dewi Sant, mae'r elusen yn gwneud "gwahaniaeth go iawn" i gleifion a'u teuluoedd.

Dywedodd iddi gael profiad personol o "werth yr hosbis" pan fu farw ei thad.

"Roedd y gefnogaeth nid yn unig iddo fo ond hefyd i ni fel teulu yn anhygoel.

"Gyda'r hosbis, oni bai eich bod chi neu eich anwylyd angen gofal hosbis, dydych chi ddim wir yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud."

Esboniodd bod y gwasanaethau yn costio tua £6.7m y flwyddyn i'w rhedeg, sy'n golygu bod rhaid codi mwy na 75% o hynny eu hunain, meddai.

"Mae'r hyn rydyn ni'n ei wneud yn gwneud gwahaniaeth go iawn, nid yn unig i'r cleifion ond i'r teulu cyfan."

Dywedodd Lois Jones, Prif Swyddog Rheoli Gwastraff gyda Chyngor Môn: "Mae'n gwneud synnwyr perffaith yn yr oes rydyn ni'n byw ynddi oherwydd ein bod ni'n lladd dau dderyn ag un garreg.

"Gan arbed deunyddiau sy'n hollol iawn rhag cael eu taflu, helpu i wneud pethau'n fwy fforddiadwy yn ystod yr argyfwng costau byw a chodi arian hanfodol yn y broses."

Mae'r prosiect wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i chomisiynu gan Gyngor Môn.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Menter Môn, Elen Parry, eu bod hefyd yn agored i gydweithio ag elusennau eraill ar yr ynys, neu unrhyw fentrau sy'n cyd-fynd â nodau Cylchol.

Pynciau cysylltiedig