Plismon yn honni iddo ef a'i gi gael eu hanafu yn nherfysg Trelái

Cafodd ceir eu rhoi ar dân yn ystod digwyddiadau 22 a 23 Mai 2023
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas wedi disgrifio sut y cafodd ef a'i gi eu hanafu yn ystod terfysg yng Nghaerdydd ddwy flynedd yn ôl.
Mae wyth o bobl yn gwadu cyhuddiad o derfysg yn dilyn anhrefn yn Nhrelái ym mis Mai 2023.
Yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Llun clywodd y rheithgor gan y Cwnstabl Paul Ellery, a ddisgrifiodd sut y cafodd y ci ei daro gan goncrit yn ystod yr aflonyddwch a dywedodd ei fod ef wedi cael anafiadau i'w goesau.
Fe gyrhaeddodd y Cwnstabl Ellery, o adran gŵn Heddlu'r De, y lleoliad am 18:29 ar y noson dan sylw - gan gadw'r ci, Koba, yn y fan i ddechrau.
Wrth gael ei gwestiynu gan yr erlynydd, Matthew Cobb, cytunodd y Cwnstabl Ellery "mai dynion ifanc yn bennaf oedd yn gyfrifol am yr atgasedd".
- Cyhoeddwyd23 Medi
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Clywodd y llys fod Koba wedi cael ei dynnu allan o'r fan yn y pendraw, gyda'r Cwnstabl Ellery yn dweud iddo gofio "clywed gwydr yn malu a bod pethau'n dechrau cael eu taflu at y swyddogion".
"Roedd hynny i amddiffyn y swyddogion," meddai wrth y llys a gan fod "dau fachgen yn dal i gael eu trin gan barafeddygon - er mwyn atal y dorf rhag cyrraedd atynt".
Mae deunydd camera eisoes wedi cael ei ddangos yn Llys y Goron Casnewydd lle mae'n ymddangos bod un o'r diffynyddion, Lee Robinson, yn targedu a bygwth PC Ellery.
"Gofynnodd i chi ymladd ac awgrymodd eich bod yn gachgi am guddio y tu ôl i'ch ci a'r swyddogion benywaidd oedd yn ymyl.
"Fe wnaeth eich galw chi'n llofrudd. Dywedodd eich bod wedi lladd plant," meddai Mr Cobbe.
"Do," atebodd PC Ellery.

Wrth gael ei groesholi gan fargyfreithiwr amddiffyn Mr Robinson, Harry Baker, dywedodd y Cwnstabl Ellery ei fod wedi cael gwybod bod Mr Robinson "yn credu fy mod wedi delio ag ef o'r blaen", fel rhan o fater cysylltiedig â'r heddlu.
Ond ychwanegodd y Cwnstabl Ellery nad oedd yn credu bod hynny'n wir, oherwydd mai dim ond ychydig fisoedd ynghynt yr oedd wedi cael ei drosglwyddo i Heddlu'r De.
Cafodd PC Ellery ei gwestiynu am pam na chafodd Lee Robinson ei arestio yn y fan a'r lle.
Atebodd y PC Ellery: "Rydym yn ceisio cadw'r heddwch ar hyn o bryd. Os byddech chi'n cyffwrdd â rhywun, rydych chi'n mynd i gynhyrfu'r dorf."

Clywodd rheithgor gan y Cwnstabl Paul Ellery ddydd Llun, yn Llys y Goron Casnewydd
Fe gafodd datganiad ei ddarllen i'r llys hefyd gan y PS Gareth Phillips, oedd ar ddyletswydd y noson dan sylw, ac oedd yn gomander trefn gyhoeddus cŵn Heddlu De Cymru.
Ar ôl cyrraedd am 19:50 roedd yn cofio gweld torf o bobl ar Snowden Road a oedd yn "gweiddi iaith sarhaus" ac a oedd â "wynebau blin a dyrnau wedi cau".
Dywedodd fod y defnydd o gŵn heddlu yn "gymesur" oherwydd torf "anghyfeillgar".
"Roeddwn i wedi gweld taflegrau'n cael eu taflu at swyddogion," meddai ac "roedd ymdrechion wedi'u gwneud i dorri cordon yr heddlu".
Dywedodd iddo gael ei daro gan wrthrych ar ei ysgwydd, ac yn fuan dychwelodd i'r faniau oedd wedi'u parcio.
Ychwanegodd yn y datganiad: "O'r sŵn a nifer y swyddogion a gafodd eu hanafu, roedd yr ymddygiad wedi cynyddu i anhrefn treisgar difrifol."
Clywyd hefyd bod swyddogion cyn belled ag Abertawe wedi dod i helpu ar y noson, ar ôl i'r terfysg waethygu.
Mae Lee Robinson, 38 oed o Gaerau, McKenzie Danks, 22 oed o Gaerau, Michaela Gonzales, 37 oed o Drelái, Zayne Farrugia, 25 oed o Gaerau, Jordan Bratcher, 27 oed o Lanisien, Jaydan Baston, 21 oed o Gaerau, Connor O'Sullivan, 26 oed o Drelái a Luke Williams, 31 oed o Gaerau, yn gwadu'r cyhuddiad o derfysg.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.