Anhrefn Trelái: Mamau dau fu farw 'wedi eu hatal rhag gweld eu cyrff'

Cafodd car ei roi ar dân yn ystod y terfysg a chafodd nifer o swyddogion heddlu eu hanafu
- Cyhoeddwyd
Mae achos llys yn ymwneud â'r terfysg yn Nhrelái yng Nghaerdydd wedi clywed bod mamau dau fachgen a fu farw yno, wedi cael eu hatal gan yr heddlu rhag gweld cyrff eu meibion cyn i'r terfysg ddechrau.
Mae wyth o bobl yn gwadu cyhuddiad o derfysg yn dilyn anhrefn yn yr ardal ym mis Mai 2023.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod yna 200 awr o luniau fideo oddi ar gamerâu sy'n cael eu gwisgo gan yr heddlu, yn dechrau o'r adeg y cyrhaeddodd swyddogion safle'r gwrthdrawiad a laddodd Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15.
Dywedodd swyddog heddlu wrth y rheithgor fod y lluniau yn cynnwys rhai yn dangos mamau'r bechgyn yn cael gwybod na fyddai modd iddyn nhw weld eu cyrff.

Fe wnaeth marwolaethau Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15, arwain at derfysg yn Nhrelai ym mis Mai 2023
Mae ail ddiwrnod yr achos wedi dechrau clywed am ymddygiad y diffynyddion ar y noson dan sylw.
Fe welodd y llys ddelweddau o un o'r diffynyddion, Lee Robinson, 38, yn ymddwyn yn fygythiol wrth i'r heddlu geisio rheoli'r dorf oedd wedi ymgasglu yn dilyn marwolaeth y ddau lanc lleol mewn gwrthdrawiad.
Mae modd clywed Lee Robinson yn dweud wrth yr heddlu: "Roeddech chi'n cwrso nhw, chi laddodd nhw."
Clywodd y gwrandawiad iddo ddechrau ymosod yn eiriol ar un plismon yn benodol gan bwyntio tuag ato a gweiddi arno.
"Stopia cuddio tu ôl i dy gi, fe ladda i di fan hyn nawr."
Clywodd y llys iddo hefyd gyhuddo'r heddlu o fod "y gang troseddol mwyaf sy'n bod."
Clywodd y gwrandawiad iddo ddweud mewn neges destun fore trannoeth: "Fe droion ni'r car ar ei ben a chwythu nhw lan."
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd14 Ebrill
- Cyhoeddwyd11 Chwefror
Roedd y dystiolaeth fideo wedi ei baratoi gan swyddog heddlu o'r enw Fiona Haggerty James.
Fe gafodd hi ei chroesholi gan Harry Baker sy'n amddiffyn Mr Robinson.
Gofynnodd iddi pam nad oedd hi wedi cynnwys clip sain o blismon yn dweud wrth Mr Robinson fod ei sylwadau "yn dechrau mynd yn ddiflas (boring)."
Fe ofynnodd iddi gadarnhau hefyd bod yna ddelweddau yn dangos yr heddlu yn atal mamau Kyrees Sullivan a Harvey Evans rhag mynd at gyrff eu plant yn dilyn y gwrthdrawiad.
Fe gadarnhaodd hi fod yna ddelweddau sy'n dangos hynny.

Clywodd y llys fod yna ddelweddau o Mr Robinson yn gadael yr ardal, ac yn ôl pob tebyg, yn mynd adre am gyfnod.
"Dyma'r gŵr mae'r erlyniad yn awgrymu ddechreuodd y terfysg, yn gadael. Pam nad y'n ni wedi cael gweld hynny?", holodd.
Fe welodd y llys ddelweddau o Mr Robinson yn ymateb yn gwrtais i gais plismon i symud o ardd flaen tŷ yn hwyrach y noson honno.
Mae modd ei glywed yn cytuno i gais y plismon a dweud ei fod yn ceisio cymell eraill i ddilyn ei gyfarwyddiadau.
"Pam nad oedd hyn wedi ei gynnwys yn y delweddau gafodd eu paratoi?", Gofynnodd Mr Baker.
"Am fy mod i wedi cael cais i baratoi deunydd oedd yn cynnwys achosion posibl o droseddu", meddai Ms Haggerty James.

Mae'r diffynyddion (o'r chwith uchaf) Lee Robinson, 38; McKenzie Danks, 22; Michaela Gonzales, 37; Zayne Farrugia, 25; Luke Williams, 31; Connor O'Sullivan, 26; Jaydan Baston, 21; a Jordan Bratcher, 27, yn gwadu cyhuddiad o derfysg
Fe welodd y llys ddelweddau o Mckenzie Danks, 22, yn gwthio un plismon ac yn taflu ei esgidiau at un arall.
Yn ôl yr erlyniad, roedd Mr Danks yn gwrthod symud 'nôl, yn dadlau gyda'r heddlu ac roedd hi'n ymddangos iddo boeri tuag atyn nhw.
Wrth groesholi'r swyddog oedd wedi paratoi'r delweddau fe ofynnodd bargyfreithiwr Mr Danks, Hannah Friedman a oedd Mr Danks wedi cydweithredu gyda'r heddlu wrth i bobl gael eu symud 'nôl. Fe gadarnhaodd Fiona Haggerty James ei fod wedi cydweithredu.
Fe welodd y gwrandawiad ddelweddau o Mr Danks yn cael ei wthio gan PC Attwell ac yn syrthio ac yn cael cic i'w wyneb gan berson arall oedd wedi syrthio dros feic.
Fe gododd ar ei draed a gwthio PC Attwell yn ei frest.
"Dyma'r tro cyntaf i ni weld Mr Danks yn ymateb yn dreisgar," meddai Ms Friedman.
Yn ddiweddarach mae plismon arall, PC Rogers yn tynnu ei faton ac yn ceisio taro Mr Danks.
Mae Mr Danks yn ymateb trwy dynnu ei esgidiau ac yna eu taflu tuag at PC Rogers.
"Does dim delweddau o Mr Danks yn ymddwyn yn dreisgar tuag at yr heddlu," meddai Ms Friedman, "dim ond tuag at PC Attwell a PC Rogers"
Wrth ymateb i hynny fe bwysleisiodd Matthew Cobbe ar ran yr erlyniad nad oedd y baton wedi taro Mr Danks.
Mae Lee Robinson, 38 o Gaerau, Caerdydd, McKenzie Danks, 22 o Gaerau, Michaela Gonzales, 37 o Drelái, Zayne Farrugia, 25 o Gaerau, Jordan Bratcher, 27 o Lanisien, Jaydon Baston, 21 o Gaerau, Connor O'Sullivan, 26 o Drelái, a Luke Williams, 31 o Gaerau, yn gwadu cyhuddiad o derfysg.
Mae'r achos yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.