Dechrau achos wyth o bobl wedi'u cyhuddo o derfysg yng Nghaerdydd

Car ar dânFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y gwrandawiad fod nifer o bobl eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau yn gysylltiedig â digwyddiadau 22 a 23 Mai 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae achos llys yn erbyn wyth o bobl, sydd wedi'u cyhuddo o derfysg a achosodd "anhrefn" yng Nghaerdydd ddwy flynedd yn ôl, wedi dechrau.

Clywodd Llys y Goron Casnewydd fod y trais wedi'i sbarduno gan farwolaethau dau fachgen yn eu harddegau - Kyrees Sullivan, 16, a Harvey Evans, 15.

Bu farw'r ddau mewn gwrthdrawiad ar eu beic trydan ar Ffordd Snowden yn ardal Trelái'r brifddinas ar 22 Mai 2023.

Mae Lee Robinson, 38 o Gaerau, Caerdydd, McKenzie Danks, 22 o Gaerau, Michalea Gonzales, 37 o Drelái, Zayne Farrugia, 25 o Gaerau, Jordan Bratcher, 27 o Lanisien, Jaydon Baston, 21 o Gaerau, Connor O'Sullivan, 26 o Drelái, a Luke Williams, 31 o Gaerau, yn gwadu cyhuddiad o derfysg.

Mae disgwyl i'r achos bara am chwe wythnos.

Clywodd y llys fod y terfysg honedig wedi dechrau yn ardal Trelái, yn dilyn si fod yr heddlu'n dilyn y ddau fachgen a fu farw yn y gwrthdrawiad.

Clywodd y rheithgor i Kyrees Sullivan a Harvey Evans golli rheolaeth o'u beic trydan ar Ffordd Snowden, gan ddioddef anafiadau catastroffig a marw yn y fan a'r lle.

Dywedodd Matthew Cobbe ar ran yr erlyniad bod si wedi dechrau ynglŷn ag achos y gwrthdrawiad.

"Fe arweiniodd y si fod yr heddlu yn dilyn y bechgyn at ddicter," meddai Mr Cobbe.

"Trodd y dicter hwnnw yn fygythiadau a thrais tuag at yr heddlu.

"Fe gymerodd eraill fantais o'r cyfle i wawdio'r heddlu, a hynny mewn gwrthgyferbyniad llwyr i'r bobl oedd yn mewn gwewyr a galar."

Car heddlu wedi ei ddifrodiFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Mr Cobbe y byddai'r achos yn dangos y rhan chwaraeodd y diffynyddion yn y terfysg, gyda rhai'n bygwth trais a rhai'n annog trais.

"Fe chwaraeon nhw rannau gwahanol, ond roedden nhw'n unedig yn eu nod a'u hymddygiad anghyfreithlon," meddai.

Eglurodd fod nifer o bobl eisoes wedi pledio'n euog i gyhuddiadau yn gysylltiedig â digwyddiadau 22 a 23 Mai 2023.

Doedd hynny ddim yn golygu bod y diffynyddion yma yn euog, meddai Mr Cobbe, "ond roedd e'n cadarnhau bod terfysg wedi digwydd".

"Fe fydd rhaid i chi benderfynu a fu gan y diffynyddion yma ran yn y terfysg hwnnw," meddai.

'Anhrefn llwyr'

Clywodd y gwrandawiad fod anhrefn llwyr yno, gyda photeli, brics a deunyddiau adeiladu fel plastr-fwrdd yn cael eu taflu at yr heddlu.

Cafodd bom petrol ei daflu at un swyddog, gan gynnau ei dillad ar dân.

Clywodd y llys nad oedd gan yr heddlu oedd yno, i ddechrau, wisg i'w hamddiffyn, na thariannau.

"Gwnaeth yr heddlu ddim ymladd gyda'r dorf, er iddyn nhw gael eu hannog i wneud hynny gan y gwawdio a'r brics a'r poteli," meddai Matthew Cobbe.

Dywedodd hefyd fod rhai o'r swyddogion yn dal i deimlo effaith niwed seicolegol y terfysg, a soniodd hefyd am yr effaith ar bobl oedd yn byw gerllaw.

"Doedd y gymuned gyfan ddim yn cymeradwyo'r trais," meddai.

"Roedden nhw wedi eu brawychu a'u drysu gan yr hyn oedd yn digwydd o'u cwmpas a gan bobl yn cael mwynhad o'r trais.

"Dychmygwch gysgodi yn eich cartref tra bod anhrefn llwyr yn digwydd y tu allan."

Car ar dânFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ddiweddarach fe wnaeth yr erlyniad fanylu ar rôl honedig pob diffynnydd yn y digwyddiad.

Clywodd y llys fod Lee Robinson, 38, wedi ymddwyn yn ymosodol tuag at yr heddlu o'r dechrau, ac mai fe oedd canolbwynt yr ymddygiad hwnnw - gan weiddi bygythiadau at blismyn unigol a'r heddlu yn gyffredinol.

Mae'n cyfaddef gweiddi ar blismon, ond yn dweud iddo fynd adref i newid ac nad oedd yn rhan o'r terfysg wedyn.

Clywodd y llys fod Mckenzie Danks, 22, wedi gweiddi ar yr heddlu ac wedi taflu ei esgidiau atyn nhw - ar ôl syrthio tra'n cael ei wthio yn ôl.

Mae'n dweud ei fod yn credu i blismon ei daro yn ei wyneb ac iddo ymateb i hynny, ond mae'r erlyniad yn dadlau fod ei ymateb chwyrn yn rhan o batrwm ymddygiad drwy'r nos.

Llys y Goron Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwrandawiad ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd

Taflu potel tuag at yr heddlu oedd rhan Michalea Gonzales, 37, yn y terfysg, meddai'r erlyniad.

Mae hi'n dweud mai gweithred unigol o rwystredigaeth oedd hi, ond mae'r erlyniad yn dadlau ei bod hi wedi ymuno yn y trais ac iddi geisio cuddio wrth daflu'r botel.

Clywodd y llys fod Zayne Farrugia, 25, yn bresennol o'r dechrau ac iddo gasglu cerrig o ardd gyfagos i'w taflu at yr heddlu.

Mae'n gwadu bod y terfysg wedi dechrau ar y pryd, ond mae'r erlyniad yn gwrthod hynny.

Roedd Jordan Bratcher, 27, yn un o nifer fu'n taflu cerrig mân at yr heddlu, ac mae'r erlyniad yn dweud iddo ymuno gydag eraill i wneud hynny.

Roedd Jaydan Baston, 21, yn gwadu iddo daflu teilsen i ddechrau, cyn cydnabod hynny'n ddiweddarach.

Mynnodd ei fod yn gweithredu fel unigolyn ond mae'r erlyniad yn dweud ei fod ef a sawl un arall i'w gweld yn casglu deunydd i'w daflu at yr heddlu o bentwr gerllaw.

Heddlu yn ystod y digwyddiadFfynhonnell y llun, Getty Images

Defnyddiodd Connor O'Sullivan, 26, fest fel mwgwd i guddio ei wyneb.

Dywedodd ei fod yn teimlo dan bwysau i fod yno, ond yn ôl yr erlyniad mae'n bosib ei weld yn dathlu ar ôl i wrthrych daro plismon.

Mae'r erlyniad yn dweud i Luke Williams, 31, ffilmio'r digwyddiad a'i ddarlledu'n fyw gan ymfalchïo mewn gweld plismon yn cael ei anafu ac annog pobl i ddod i ymuno.

Mynnodd Mr Williams ei fod yn ffilmio ar gyfer ei ddiogelwch ei hun.

Mae'r erlyniad yn dadlau bod pob un o'r rhain wedi cyfrannu at y terfysg ar y noson dan sylw.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.