'Dwi ddim ar goll dim mwy': Agor canolfan ganser newydd yn y gogledd

Disgrifiad,

Kevin Owen fu'n rhannu ei brofiad ef, a'r cymorth gwerthfawr a gafodd yng nghanolfan Maggie's yng Nghilgwri

  • Cyhoeddwyd

Bydd canolfan ganser newydd yn agor ar safle ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ddydd Iau.

Bwriad canolfannau Maggie's ydi cynnig cefnogaeth am ddim i unrhyw un sydd â chanser, ynghyd â'u teuluoedd.

Cyn agor y ganolfan newydd ym Modelwyddan, roedd rhaid i drigolion y gogledd deithio i'r ganolfan Maggie's agosaf yng Nghilgwri.

Yn ôl Kevin Owen, sy'n wreiddiol o Fethesda, mae'r gefnogaeth mae wedi'i chael gan yr elusen wedi rhoi "pwrpas" i'w fywyd.

'O'n i ddim cweit yn iawn'

Mae elusen Maggie's yn cefnogi unrhyw un sydd â chanser a'u teulu a'u ffrindiau, beth bynnag fo'r math o ganser, a pha bynnag gam o'r broses maen nhw ynddi.

Yn cynnig cefnogaeth am ddim, mae modd i unrhyw un gael ei dderbyn heb gael apwyntiad na'u cyfeirio at y gwasanaeth.

Cafodd Kevin Owen, 61 o Fethesda yng Ngwynedd, gefnogaeth gan Maggie's.

Bellach yn byw yng Nghaer, cafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn yn 2021.

"Ges i driniaeth yn [Ysbyty] Clatterbridge, pum wythnos o radiotherapi a chemotherapi," meddai.

"Ges i'r llawdriniaeth yn Rhagfyr 2021, a gafodd hynny wared ar y canser i gyd.

"Wedyn o'n i'n dechrau ffeindio mod i ddim cweit yn iawn.

"Yn naturiol oedd pawb yn hapus fod o [y canser] wedi mynd, ond doeddwn i ddim yn teimlo yn iawn."

Ar ôl y teimlad yma, aeth Mr Owen i ganolfan Maggie's yng Nghilgwri.

Dyluniad o sut y bydd y ganolfan newydd yn edrych.Ffynhonnell y llun, MAGGIE'S
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd caniatâd cynllunio ei roi ar gyfer y ganolfan newydd nôl yn 2023

"Doeddwn i methu canolbwyntio, methu cofio geiriau, doeddwn i methu sefyll am hir, methu eistedd am hir," meddai.

"Ddois i mewn i Maggie's yn fa'ma, i gael help efo benefits ac ati a ges i'r help yna.

"Ar ddiwedd y sgwrs yna, mi 'naeth y ddynes ofyn i fi 'Kev are you ok?' a 'naeth petha' jest ddod allan - o hynny, mi 'naeth petha jest snowballio 'lly."

'Dwi'n gallu byw fy mywyd rŵan'

Yn dilyn y cyfarfod yno, mi wnaeth Mr Owen ddechrau mynychu sesiynau yng nghanolfan Maggie's.

"Nes i ddechrau dod i grŵp colorectal, lle o'n i'n cyfarfod pobl oedd yn yr union yr un sefyllfa â fi

"Ddois i i grŵp yn delio gyda blinder am bod o'n i'n meddwl mai fi oedd yn bod yn ddiog, ond na.

"Wedyn ddois i i grŵp drum along lle oni'n gallu cael lot o stresses allan yn waldio dryms.

"O'n i'n jest ffeindio mod i'n gallu mynegi fy hun lot gwell efo pobl oedd yn deall be' o'n i'n mynd drwyddo.

"Mae'n anodd rhoi gair i ddisgrifio sut mae'n teimlo i ddod mewn i Maggie's.

"Mae o fath â rhywbeth mae Disney wedi'i roi at ei gilydd, dwi'n cerdded i mewn a gwybod mod i'n oce yn fa'ma.

"Dwi'n gallu byw fy mywyd rŵan, dwi ddim ar goll dim mwy... maen nhw wedi rhoi'r pwrpas yna i fi."

Disgrifiad,

'Amhrisiadwy': Ymateb Rhys Meirion i Ganolfan Ganser newydd i ogledd Cymru

Bydd y ganolfan newydd ar dir Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn agor ddydd Iau.

Fe fydd yn cael ei rhedeg gan staff arbenigol, gyda Maggie's yn darparu math gwahanol o ofal a chefnogaeth i bawb sydd â chanser yng ngogledd Cymru.

Mae'r ganolfan newydd wedi'i dylunio, ei chomisiynu a'i hariannu gan Sefydliad Steve Morgan.

Yn ôl y Fonesig Laura Lee, prif weithredwr Maggie's: "Gyda nifer cynyddol o bobl yn byw gyda chanser, mae'n hanfodol bod y gefnogaeth yma ar gael i bobl yn yr ardal leol.

"Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid sy'n gweithio ar y prosiect, gan gynnwys Sefydliad Steve Morgan a'r GIG, am ein helpu i wireddu Maggie's yng ngogledd Cymru."

'Gwneud gwahaniaeth i lot o bobl'

Eglurodd Mr Owen ei fod yn cael croeso bob amser yng nghanolfan Maggie's.

"Y peth cyntaf pan mae rhywun yn cerdded i mewn ydi'r croeso - mae 'na rywun bob tro yno efo gwên... cynnig bisged, cacen, te a choffi a phethau fel'na.

"Wedyn mi 'neith nhw ffeindio allan be'n union 'da chi ei angen ac mae'r help yno wedyn.

"Os dydyn nhw ddim yn gallu helpu, maen nhw'n gwybod lle i fynd am yr help yna.

"Dwi ddim yn gallu canmol y lle ddigon i fod yn onest.

"Bob dim dwi wedi gofyn amdano gan Maggie's, maen nhw wedi gallu helpu."

Yn siarad cyn agoriad y ganolfan newydd yng Nglan Clwyd, dywedodd Mr Owen y bydd yn "gwneud gwahaniaeth".

"Dwi wedi bod yn siarad efo lot o bobl," meddai.

"Yn enwedig rownd Bethesda a Bangor a ballu, rhai wedi bod efo canser ac yn gorfod trafeilio i Fanceinion ac ati i gael triniaeth, a dim Maggie's yn agos atyn nhw.

"Mae cael un mor agos yn mynd i wneud gwahaniaeth i lot o bobl, ond hefyd i fi, fel siaradwr Cymraeg - dwi'n meddwl yn y Gymraeg a be' dwi wedi sylwi ydi, dwi'n teimlo yn Gymraeg.

"Weithiau dwi'n cael trafferth egluro sut dwi'n teimlo yn Saesneg... mae'n mynd i helpu pobl fel fi efo pethau fel'na, yn enwedig dynion, oherwydd dydan ni ddim yn rhai da i egluro sut 'da ni'n teimlo.

"'Di o'm jest i Gymry Cymraeg, mae o i unrhyw un sydd wedi'u heffeithio gan ganser."

Mae Mr Owen yn dweud ei fod eisoes wedi dangos diddordeb mewn gwirfoddoli yn y ganolfan newydd, gan wneud ychydig o waith cyfieithu ar eu cyfer.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.