Argymell symud arweinydd cwlt rhyw i garchar agored

Yn 2011, fe gafwyd Colin Batley, oedd yn 48 ar y pryd, yn euog o 35 o droseddau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Bwrdd Parôl wedi argymell y dylai arweinydd cwlt rhyw wnaeth gam-drin plant yn rhywiol yn Sir Gaerfyrddin gael ei symud i garchar agored.
Cafwyd Colin Batley, sydd bellach yn 62, yn euog o 35 o droseddau yn Llys y Goron Abertawe yn 2011.
Cafodd ei garcharu am gyfnod amhenodol gydag argymhelliad y dylai dreulio o leiaf 11 mlynedd dan glo.
Cafodd gwrandawiad parôl ei gynnal ar 7 Mawrth, ac mae'r Bwrdd Parôl bellach wedi cyhoeddi'r penderfyniad.
Mi fydd y penderfyniad terfynol yn nwylo'r Ysgrifennydd Cyfiawnder.
Puteindra gorfodol
Symudodd Colin Batley o Lundain i Gymru yn y 1990au, gan ffurfio cwlt yng Nghydweli.
Roedd y cwlt, a oedd yn gweithredu mewn clos tawel, Clos yr Onnen, yn gyfrifol am droseddau erchyll yn erbyn plant a phobl ifanc.
Cafodd tair menyw, gan gynnwys ei gyn-wraig, eu carcharu am eu rhan yn y troseddau hefyd.
Cafodd Jacqueline Marling, oedd yn 42 oed ar y pryd, ei charcharu am 12 mlynedd tra bod gwraig Batley, Elaine, oedd yn 47 oed, wedi'i charcharu am wyth mlynedd.
Cafodd Shelly Millar, oedd yn 35, ei dedfrydu i bum mlynedd o garchar a chafodd ei disgrifio fel "caethwas rhyw" i Batley.
Roedd y grŵp yn defnyddio credoau Ocwlt i gyfiawnhau'r gamdriniaeth ac i orfodi'r dioddefwyr i gymryd rhan. Fe orfodwyd rhai dioddefwyr i fod yn buteiniaid.
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas KC ar y pryd ei bod hi'n "bosib na fyddai byth yn cael ei ryddhau", gan gytuno fod disgrifiad pobl o Batley fel "person ffiaidd" yn gwbl addas.
Yn 2023, aeth Batley o flaen y Bwrdd Parôl ond cafodd ei gais ei wrthod.
Ar 7 Mawrth eleni, cafodd gwrandawiad arall ei gynnal trwy gyswllt fideo, gyda'r Bwrdd Parôl yn gorfod gwneud penderfyniad o fewn 14 diwrnod ynglŷn ag a ddylid rhyddhau Batley.
Wrth amlinellu'r penderfyniad, dywedodd y Bwrdd Parôl fod Mr Batley wedi dangos "gwelliant yn ei fewnwelediad i'w ymddygiad troseddol" a'i fod wedi "cynnal rhaglenni achrededig i fynd i'r afael â'i ymddygiad rhywiol".
Yn ystod y gwrandawiad, roedd Mr Batley wedi dweud na ddylai gael ei ryddhau a'i fod am gael ei symud i garchar agored.
'Ddim yn fodlon y byddai rhyddhau'n ddiogel'
Dywedodd y Bwrdd Parôl eu bod wedi ystyried difrifoldeb y troseddau a'r niwed difrifol a achoswyd i ddioddefwyr cyn dod i benderfyniad.
"Roedd Mr Batley wedi dangos ymrwymiad yn y carchar i fynd i'r afael â'i risg i eraill ac roedd wedi cwblhau'r holl waith argymhellwyd iddo.
"Ar ôl ystyried y cynnydd a wnaed a'r dystiolaeth a gyflwynwyd yn y gwrandawiad, nid oedd y panel yn fodlon y byddai rhyddhau ar hyn o bryd yn ddiogel er mwyn diogelu'r cyhoedd.
"Fodd bynnag, ar ôl ystyried y meini prawf ar gyfer symud Mr Batley i garchar agored, dyma oedd penderfyniad y Bwrdd Parôl.
"Mater i'r Ysgrifennydd Gwladol yn awr yw penderfynu a yw'n derbyn argymhelliad y Bwrdd Parôl. Bydd Mr Batley yn gymwys ar gyfer adolygiad parôl arall maes o law."