3 Llun: Lluniau pwysicaf Angharad Elen

Angharad ElenFfynhonnell y llun, Angharad Elen
  • Cyhoeddwyd

Os fyddai'n rhaid i chi ddewis tri llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?

Yr awdur a chynhyrchydd, Angharad Elen, sy'n trafod rhai o'i hoff luniau gyda Cymru Fyw.

Llun o Mam a Rhian a fi - 1982

Angharad ElenFfynhonnell y llun, Angharad Elen

Er nad oes gen i gof o'r digwyddiad yma yng Nghaerdydd yn Chwefror 1982 - sef fi yn cyfarfod fy chwaer fach newydd [yr actores Rhian Blythe] - mae'n cynrychioli trobwynt arwyddocaol yn fy mywyd. Nes i fyth ddiolch i Mam [yr actores Iola Gregory] am roi chwaer fach imi gael rhannu fy atgofion efo hi, cyd-alaru efo hi, a meddwi'n dwll ar margaritas efo hi - ond am rodd!

Ma Rhian a fi wedi colli'n dau riant erbyn hyn - ynghyd ag un ffrind bore oes, oedd fel brawd bach inni'n dwy. Dwi ddim yn siŵr sut faswn i wedi goroesi'r ergydion hynny heb Rhian wrth fy ochor.

Llun ohonaf i yn y môr

Angharad ElenFfynhonnell y llun, Angharad Elen

Ma 'na rwbath yn digwydd imi pan dwi'n plymio i'r môr - mae o fatha rhyw switsh sy'n mynd â fi nôl i'r factory settings. Mae'r profiad o gael dy hyrddio i bob cyfeiriad ar drugaredd y tonna fel cyffur - ac mae o'n 'molchi enaid rhywun.

Fy merch, Syfi, dynnodd y llun yma ohona'i o dan y dŵr yn Abersoch, ar ôl i'r Saeson hel eu pac am adra yn ystod haf bach Mihangel rai blynyddoedd yn ôl.

Nefoedd ar y ddaear ydi Abersoch, ond mae 'na gysgod dros y lle erbyn hyn. Meddylia cael dy fagu a dy feithrin rhwng y twyni tywod, a gwead y lle'n dod yn rhan ohonat ti - dim ond i gael dy alltudio rai blynyddoedd yn ddiweddarach am nad wyt ti'n filionêr. Mae'n digwydd ledled Cymru, wrth gwrs - a'r byd. Mae 'na leiafrifoedd bychain yn cael eu sathru a'u dinistrio bob dydd ac mae hynny'n fy nychryn i.

Er bod y cyfnod clo dipyn yn niwlog imi erbyn hyn, yr hyn sy'n aros yn y cof fwyaf ydi haul tanbaid mis Mai, a'r traeth yn Ninas Dinlle yn eiddo i neb ond ni, a blas be fasa o i fod yn wlad rydd yn gymysg efo'r heli.

Llun ohonaf i yn braslunio

Angharad ElenFfynhonnell y llun, Angharad Elen

Fy mhartner, Daf Palfrey, dynnodd y llun yma ohona'i tra roedd y ddau ohonan ni'n braslunio cyfres gyntaf y gyfres deledu Stad yn ystod y cyfnod clo. Mae edefyn pob stori wedi eu sgwennu a'u gosod ar gardiau indecs ar wal y gegin y tu ôl imi - fel ein bod ni'n medru newid petha o gwmpas a gweld yr holl beth fel cyfanwaith.

Mi fuo bron i'r gyfres honno fy lladd i - yn enwedig pan laniodd fy nhrydydd plentyn, Miri Iola, i ganol y gyflafan, a finna'n trio addysgu'r plant yn ystod y dydd a sgriptio a bronfwydo drwy'r nos. Dim rhyfadd mai'r adeg honno y dechreuodd fy ngwallt i droi'n wyn!

Ond mae'n rhaid 'mod i wedi cael rhyw fwynhad wydroëdig o'r artaith honno achos mi gytunodd y ddau ohonan ni i fraslunio'r ail gyfres o Stad hefyd. Mi fydd hi'n cael ei darlledu ar S4C cyn bo hir.

Mae sgwennu yn artaith, ond mi fydda i'n meddwl am y broses fel cloddio am rwbath sy'n bodoli'n barod - boed yn syniad, yn stori neu'n ddarn o ddeialog. Er, yn amlach na heb, y cwbwl sydd i'w ganfod yno ydi ogla ffish ffingars yn llosgi a rhywun yn gweiddi 'Mam!'