Dyn yn cyfaddef ceisio lladd heddwas mewn ymosodiad 'gwrth-lywodraeth'

Plediodd Alexander Stephen Dighton yn euog i 10 cyhuddiad
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 28 oed o Lantrisant wedi cyfaddef ceisio llofruddio heddwas gyda chyllell mewn ymosodiad y mae'r erlyniad yn dweud oedd wedi'i ysgogi gan ideoleg gwrth-lywodraeth.
Mae'r achos yn ymwneud â digwyddiad y tu allan i orsaf heddlu Tonysguboriau, Rhondda Cynon Taf, ar nos Wener 31 Ionawr.
Fe wnaeth Alexander Stephen Dighton hefyd gyfaddef ceisio cynnau tanau bwriadol, ymosod ar ddau swyddog heddlu arall, a bygwth trydydd.
Yn sefyll yn y doc yn gwisgo crys chwys llwyd, plediodd Dighton yn euog i 10 cyhuddiad.
Fe wnaeth Dighton ddewis cynrychioli ei hun yn llys yr Old Bailey yn Llundain.
Pan awgrymodd Mrs Ustus Cheema Grubb fod ganddo broblem gydag awdurdod, dywedodd wrthi: "Nid awdurdod yw fy mhroblem, ond y defnydd o awdurdod rydw i wedi'i weld ers yn 15 oed, dyna fy mhroblem."
Daeth adroddiad seiciatrig i'r canlyniad ei fod yn addas i bledio i'r cyhuddiadau.

Fe fydd Dighton yn cael ei ddedfrydu fis nesaf
Dechreuodd ymosod ar yr orsaf wrth daflu coctel molotov at fan yr heddlu. Yna fe wnaeth arllwys petrol o ail botel dros y fan a'i roi ar dân.
Defnyddiodd bolyn pren hir gyda metel wedi'i glymu wrth y pen i dorri ffenestri'r fan ac i ddechrau ymosod ar gar yr heddlu.
Roedd yna wedi mynd i mewn i'r orsaf ac ymosod ar y swyddogion, gan drywanu un yn ei goes.
Ar ôl cael Dighton dan reolaeth, fe welodd swyddogion bod ganddo fwyell yn ei fag.
Fe fydd Dighton yn cael ei ddedfrydu yn Llys yr Old Bailey ar 13 Mai.
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Andrew Williams o Heddlu Gwrthderfysgaeth Cymru bod y "digwyddiad brawychus" ym mis Ionawr yn ein "hatgoffa o'r peryglon sy'n wynebu swyddogion heddlu bob dydd".
Roedd y swyddogion yn "ffodus i osgoi anafiadau mwy difrifol", meddai.
"Daeth Dighton i orsaf Tonysguboriau gyda'r bwriad o achosi niwed difrifol i swyddogion heddlu o ganlyniad i'w feddylfryd gwrth-lywodraeth.
"Gwelodd yr heddlu fel estyniad o'r llywodraeth ac roedd yn barod i achosi gymaint o niwed a difrod â phosib."