Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth yn y Swistir

Y gred yw bod Anne, 51 oed, wedi teithio i glinig ger Basel fis Ionawr - er mwyn rhoi terfyn ar ei bywyd yn gyfrinachol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal ymchwiliad i farwolaeth dynes o Gymru a fu farw yn y Swistir ddechrau'r flwyddyn.
Credir bod Anne, 51, wedi teithio i glinig Pegasos ger Basel fis Ionawr er mwyn rhoi terfyn ar ei bywyd yn gyfrinachol.
Roedd hi wedi dweud wrth ei theulu mai mynd ar ei gwyliau oedd hi, a bu farw, yn ôl honiadau, heb iddynt gael gwybod.
Dywedodd clinig Pegasos eu bod wedi ceisio ffonio a gyrru neges at ei brawd, John, ond mae e'n mynnu nad yw wedi derbyn yr un neges ganddyn nhw.
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2024
Doedd gan Ann ddim salwch terfynol, meddai ei theulu wrth ITV - ond maen nhw'n credu iddi ddewis terfynu ei bywyd yn dilyn marwolaeth ei mab. O ganlyniad fe aeth i deimlo'n isel.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod yn ymchwilio i'w marwolaeth, a'u bod wedi bod mewn cysylltiad gyda'r awdurdodau yn y Swistir, sydd wedi cadarnhau ei bod wedi marw ar 6 Ionawr.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu na allent "gadarnhau na gwadu os oes person yn cael ei amau, neu o ddiddordeb" yn yr achos.
Mae derbyn cymorth i farw yn gyfreithiol yn y Swistir, a gall unigolion gael cymorth i ddod â'u bywydau i ben am unrhyw reswm, cyn belled nad ydynt yn cael eu gorfodi.
Ni ddaeth teulu Anne i wybod am ei bwriad i farw, nes iddynt dderbyn llythyrau ffarwel ganddi o'r Swistir drwy'r post.
Gweithredu yn unol â chyfraith y Swistir
Dywedodd ei chwaer ei bod wedi dechrau cysylltu gyda chlinigau ar ôl darllen y llythyr, ond ei bod wedi cymryd nifer o ddyddiau ac e-byst i Pegasos ymateb.
Dywedodd llefarydd ar ran Pegasos wrth newyddion ITV eu bod yn gwneud eu gorau i sicrhau "bod y bobl rydyn ni'n eu cynorthwyo wedi dweud wrth eu hanwyliaid am eu cynlluniau i farw".
"Pe bai gennym reswm i dybio nad oes unrhyw wybodaeth wedi'i ddarparu i deulu agos, byddwn yn ymatal rhag parhau.
"Mae'n ddrwg iawn gennym os yw gweithredoedd neu gyfathrebiadau Pegasos wedi achosi trallod pellach i unrhyw aelod o'r teulu yr effeithiwyd arno ar unrhyw adeg ac ry'n yn ystyried yr holl bryderon yn drylwyr.
"Yn olaf, hoffem bwysleisio bod ein holl weithredoedd - ers ein sefydlu yn 2019 - wedi bod yn unol â chyfraith y Swistir."