'Beth yw Llambed heb ei phrifysgol?'
- Cyhoeddwyd
Mae 'na bryder y gallai Llanbedr Pont Steffan "ddiflannu off y map" yn sgil cynllun i symud cyrsiau o gampws prifysgol y dref.
Ddydd Llun cyhoeddodd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant eu bwriad i symud cyrsiau o'u campws yn Llambed i'w safle yng Nghaerfyrddin o fis Medi 2025.
Yn ôl Sarah Ward o'r Stiwdio Brint yn Llambed, mae 'na "ddirywiad" yn nifer y myfyrwyr ar y campws ers "blynyddoedd" ond bod y brifysgol yn rhan bwysig o'r dref.
Wrth gyhoeddi eu cynlluniau ddydd Llun, dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol eu bod "wedi gweld dirywiad cynyddol yn nifer y myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu wyneb-yn-wyneb" yn Llambed.
Mae'r brifysgol wedi cadarnhau "y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon".
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2019
Ychwanegodd llefarydd "nad yw'r sefyllfa yn gynaliadwy" a bod "yn rhaid inni weithredu" drwy ystyried symud eu darpariaeth dyniaethau i Gaerfyrddin.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad, dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake bod angen "trafodaeth clir a thryloyw o ran beth yw'r cynlluniau ar gyfer y dyfodol" ond croesawodd y ffaith "y bydd 'na barhad o ryw fath ar y campws".
'Lle i gysgu yw Llambed i lot o fyfyrwyr'
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Sarah Ward o'r Stiwdio Brint: “Mae mor siomedig... ddim o ran y siop, mae cyn lleied o fyfyrwyr yma erbyn hyn beth bynnag bydd dim effaith o ran cwsmeriaid, ond o ran yr effaith ar y dref.
“Mae'n gyflogwr mawr ac mae’r brifysgol yn rhan o identity y dref.
"Beth yw Llambed heb ei phrifysgol? Beth ydyn ni hebddo fo?"
“Roedd gyda ni fyfyriwr yn gweithio gyda ni ond roedd yn gorfod mynd ar fws i Abertawe bob dydd i wneud ei gwrs.
"Dyma mae lot wedi gorfod neud dros y blynyddoedd. Lle i gysgu yw Llambed i lot o fyfyrwyr erbyn hyn."
“Mae gennai bryderon am y safle, beth fydd yn digwydd iddo nawr?
"Mi fydd personoliaeth y dref yn newid. Dyna yw’n ofnau i, achos pobl sy’n byw yma’n barhaol sy’n mynd i ddioddef - y gymuned fydd yn gweld yr effaith - dim o reidrwydd y myfyrwyr.”
Mae Sarah yn honni fod "pobl [yn y brifysgol] wedi bod yn byw gyda’i pen yn y tywod".
"Mae'n llanast yna a gallai pethau fod wedi bod yn wahanol petai rywun wedi gweithredu yn gynt."
Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol: "Gan fod y brifysgol yn cychwyn ar drafodaethau gyda’i staff a’i myfyrwyr, a bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon, byddai’n anaddas inni rannu mwy o wybodaeth nes ein bod wedi siarad gyda nhw."
Mae siop ddillad Lan Lofft gyferbyn ag adeilad y brifysgol yn Llambed.
Yn enedigol o Lambed, dywedodd rheolwraig y siop, Angharad Williams, eu bod nhw'n "siomedig iawn fel tre".
Mae'n dweud bod ganddi hi a'r siop gysylltiad agos â'r campws a'r myfyrwyr.
Dywedodd: "Drwy fy oes yn yr ysgol, mae 'na gysylltiad drwy'r ysgol gan bo ni'n cael defnyddio'r llyfrgell ac ers agor y busnes mae myfyrwyr wedi bod yn siopa 'ma a ma' rhai hyd yn oed wedi bod yn gweithio 'ma."
Mae'n dweud nad yw'r cyhoeddiad wedi ei synnu hi.
"Be' ni di gweld dros y blynydde' yw ma nhw di mynd â cyrsiau draw i Gaerfyrddin, draw i Abertawe... mae'n dorcalonnus."
Dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake ar Dros Frecwast: "Mae 'na fyfyrwyr ôl-raddedig o hyd yn Llambed, sydd yn gysur i raddau, ond wrth gwrs, mae'r drafodaeth yma nawr am ddyfodol y campws yn un fydd yn codi tipyn o bryderon, nid yn unig i'r myfyrwyr a'r gymuned academaidd ond hefyd tu hwnt i hynny, i'r gymuned ehangach.
"Fel aelod seneddol Ceredigion Preseli a hefyd fel brodor o Lambed, mae hyn yn gyfnod digon pryderus... mae'n rhan o'n treftadaeth ni a'n hunaniaeth ni."
'Rhaid i ni sicrhau parhad ar y campws'
Mae Ben Lake hefyd yn cydnabod "bod gostyngiad wedi bod dros y blynyddoedd diwetha' 'ma o ran nifer y myfyrwyr sydd yn Llambed felly wrth reswm, mae'r cyfraniad economaidd wedi gwyro rhywfaint".
"Ond wedi dweud hynny, mae'n cynnig dipyn o gyflogaeth i bobl lleol a hefyd o ran y digwyddiadau ac mae'n denu pobl i'r dre'."
Mae'n croesawu'r ffaith y bydd y brifysgol "yn sicrhau y bydd 'na barhad o rhyw fath ar y campws".
"Yr hyn ni angen ei weld nawr yw beth yn union yw'r cynlluniau hynny a sut y gallwn ni fel cymuned ehangach gyfrannu at y drafodaeth hynny oherwydd does dim dwywaith, mae'n rhaid i ni sicrhau parhad ar y campws am resymau economaidd a'r cyfraniad mae'n wneud i'r gymuned ehangach."
Dywedodd Jamie Fitter, myfyriwr trydedd flwyddyn yn astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar gampws Llambed, ei fod yn "siomedig ond ddim yn synnu" gyda'r penderfyniad.
"Y myfyrwyr ydy calon y dref. Mae'r brifysgol yn gefnogaeth anferth i'r gweithlu lleol - siopau, trafnidiaeth," meddai.
"Fe fyddai hi'n benderfyniad hollol anghyfrifol i dynnu enaid y dref oddi yma, yn enwedig ar hyn o bryd.
"Mae'r peth tu hwnt i syniad drwg."
Wrth gadarnhau'r cynnig i symud y cyrsiau o Lambed, dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bod nifer y myfyrwyr sydd gan y brifysgol "yn gyffredinol yn tyfu" ond "nid ydynt wedi’u dosbarthu’n gymesur ar draws ein campysau gwahanol".
Ychwanegodd llefarydd mai bwriad y cynnig i symud cyrsiau i Gaerfyrddin yw sicrhau "parhad yr addysg a ddarperir i’n holl fyfyrwyr gyda’r bwriad o wella profiad y myfyrwyr yn gyffredinol a grymuso cyflwyniad ac ansawdd ein rhaglenni".
“Mae’r brifysgol wedi ymrwymo i gadw prif ystâd y campws yn Llambed a chanfod dulliau amgen o gynnig gweithgareddau sy’n ymwneud ag addysg a fydd yn rhoi bywyd newydd a dyfodol mwy diogel i’r campws," meddai'r llefarydd.
“Bydd ein trafodaethau yn cymryd i ystyriaeth sut i wasanaethu lles gorau ein myfyrwyr, staff a’r gymuned yn Llambed tra hefyd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy’r sefydliad."