Dyn yn gwadu lladd babi chwe mis oed mewn maes parcio

Cafodd Sophia ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar 2 Ionawr ond bu farw o'i hanafiadau
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi gwadu lladd merch chwe mis oed fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar mewn maes parcio yn Sir Benfro.
Plediodd Flaviu Naghi, 34, yn ddieuog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth Sophia Kelemen drwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal dan ddylanwad cyffuriau.
Siaradodd Naghi, o Rondini Avenue, Luton, Swydd Bedford, i gadarnhau ei enw a nodi ei ble yn ystod gwrandawiad byr yn Llys y Goron Abertawe.
Fe wnaeth y Barnwr Catherine Richards ohirio'r achos a rhyddhau Naghi ar fechnïaeth amodol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Ninbych-y-pysgod
Cafodd Sophia Kelemen, o Leigh ger Manceinion, ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar 2 Ionawr, ond bu farw o'i hanafiadau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 16:00 ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr (multi-storey) yn Ninbych-y-pysgod.
Cafodd Sophia ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru lle derbyniodd driniaeth frys.
Bu farw'r diwrnod canlynol.
Clywodd agoriad ei chwest ei bod wedi marw o ganlyniad i waedu ar yr ymennydd, wedi gwrthdrawiad ffordd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd6 Ionawr