Babi wedi marw ar ôl 'gwrthdrawiad rhwng cerbyd a phram' - cwest

Cafodd Sophia ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ond bu farw o'i hanafiadau
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi cael ei agor a'i ohirio i farwolaeth merch chwe mis oed yn dilyn gwrthdrawiad mewn maes parcio aml-lawr yn Sir Benfro.
Cafodd Sophia Kelemen, o Leigh ger Manceinion, ei chludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad ar 2 Ionawr, ond bu farw o'i hanafiadau ddiwrnod yn ddiweddarach.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 16:00 ar lawr gwaelod maes parcio yn Ninbych-y-pysgod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Roedd Sophia Kelemen yn dod o Leigh yn ardal Manceinion
Dywedodd swyddog y crwner ar gyfer Sir Benfro, Carrie Sheridan, am tua 16:04 ar 2 Ionawr, cafodd yr heddlu wybod gan y gwasanaeth ambiwlans am wrthdrawiad rhwng cerbyd a phram plentyn.
Cafodd Sophia ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Cymru lle derbyniodd driniaeth frys.
Bu farw'r diwrnod canlynol.
Clywodd y cwest ei bod wedi marw o ganlyniad i waedu ar yr ymennydd, wedi gwrthdrawiad ffordd.
Dyn wedi'i gyhuddo
Mae Flaviu Naghi, 33 oed o Wigan, wedi cael ei gyhuddo o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru heb drwydded nac yswiriant mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 7 Chwefror.
Cafodd hefyd ei arestio ar amheuaeth o yfed a gyrru a gyrru dan ddylanwad cyffuriau, ac mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth am y troseddau hynny.

Digwyddodd y gwrthdrawiad mewn maes parcio yn Ninbych-y-pysgod
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd tad Sophia eu bod fel teulu wedi eu "llorio" gan ei marwolaeth.
Roedd Alex Kelemen, 27, ei wraig Betty, 26, a'u plant, Lucas a Sophia, ar wyliau yn Ninbych-y-pysgod pan gafodd Sophia ei hanafu.
Yn wreiddiol o Rwmania, mae'r teulu'n gobeithio rhoi eu merch i orffwys yn eu mamwlad cyn gynted ag y bydd ei chorff yn cael ei ryddhau.
Estynnodd y crwner cynorthwyol Gareth Lewis ei gydymdeimlad dwysaf gyda'r teulu.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr
- Cyhoeddwyd6 Ionawr
- Cyhoeddwyd3 Ionawr