Cymru'n colli yn erbyn Seland Newydd yng Nghyfres yr Hydref

26-52 oedd y sgôr yn Stadiwm Principality ar brynhawn Sadwrn
- Cyhoeddwyd
Colli a wnaeth tîm rygbi Cymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn, yng Nghyfres yr Hydref.
26-52 oedd y sgôr terfynol yn Stadiwm Principality, gyda Tom Rogers a Louis Rees-Zammit yn sgorio'r ceisiau i Gymru.
Fe chwaraeodd Cymru yn well nag yr oedd nifer yn ei ddisgwyl cyn y gêm, gan gystadlu'n galed ac roedd hi'n gymharol agos am gyfnodau.
Yn ystod yr hanner cyntaf roedd pum cais rhwng y ddau dîm, gan gynnwys dwy i Rogers a chwech ohonyn nhw yn dod ar ôl yr egwyl.
Bydd Cymru yn chwarae yn erbyn De Affrica adref nesaf, ar ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.

Tom Rogers ydy'r Cymro cyntaf erioed i sgorio tair cais yn erbyn y Crysau Duon
Cafodd Cymru ddechrau hunllefus i'r gêm, gyda Seland Newydd yn sgorio cais o fewn y pum munud cyntaf, wedi i'r asgellwr Caleb Clarke gosbi Cymru.
Ond daeth ymateb gan y cochion bron iawn yn syth, wedi i Tom Rogers groesi'r llinell yn dilyn gwaith da a phas wych gan Dan Edwards.
Ildiodd Cymru gic gosb ar ôl i Taine Plumtree gael ei ddal oddi ar ei draed a Damian McKenzie yn cicio i roi'r Crysau Duon ar y blaen o drwch blewyn.

Sevu Reece yn sgorio cais i Seland Newydd
Amddiffynnodd Cymru yn gadarn ar ôl cais gyntaf y gêm, ond roedden nhw'n ildio nifer o giciau cosb hefyd.
Ond, ildio cais arall a wnaeth y Cymry, wrth i Wallace Sititi gario'r bêl am bellter maith, cyn iddi gael ei phasio i lawr at Ruben Love, i groesi. 7-17.
Ond unwaith eto, fe ymatebodd Cymru yn wych, trwy wneud defnydd o'r fantais gyda Rogers yn sgorio ei ail o'r dydd a Dan Edwards yn trosi i'w gwneud hi'n 14-17.
Yna, daeth cais arall i Seland Newydd trwy ffurf y prop, Tamaiti Williams, gyda Damian McKenzie yn trosi eto i adael bwlch o 10 pwynt rhwng y timau ar yr hanner.

Cafodd cais gan Caleb Clarke ei gwrthdroi yn yr ail hanner
Cychwynnodd Cymru'r ail hanner ar dân gan sgorio cais ar ôl dau funud, wedi i Tom Rogers sgorio ei drydedd o'r dydd yn dilyn pas dda gan Joe Hawkins.
Rogers ydy'r Cymro cyntaf erioed i sgorio tair cais yn erbyn y Crysau Duon.
Roedd Seland Newydd yn meddwl eu bod wedi sgorio eu hunain ychydig yn ddiweddarach, ond cafodd dwy o'u ceisiau eu canslo - ar ôl edrych ar y camerâu.
O'r diwedd fe gafodd Seland Newydd gais wrth i Rieko Ioane osod y bêl i lawr yn dilyn cic i ochr dde'r cae, i adael sgôr o 21-31 wedi'r trosiad.
Cafodd Gareth Thomas gerdyn melyn ychydig ar ôl dod ar y cae, wedi iddo daclo heb ddefnyddio ei freichiau.

Sgoriodd Louis Rees-Zammit gydag un llaw wedi 75 munud
Cafodd Cymru eu cosbi bron yn syth am eu diffyg dynion, gyda Sevu Reece yn sgorio cais i lawr y dde.
Yn fuan iawn, aeth coesau cyflym Reece dros y llinell wen eto, gan adael sgôr o 21-45 - ar ôl trosiad McKenzie.
Roedd y cerdyn melyn yn profi'n gostus i Gymru erbyn hyn, gyda bwlch o 24 pwynt rhwng y ddwy ochr.
Doedd Cymru heb roi'r ffidil yn y to, wrth i Louis Rees-Zammit orffen yn daclus gydag un llaw yn y gornel wedi 75 munud.
Ond y Crysau Duon gafodd y gair olaf, wrth i Caleb Clarke sgorio a sgôr o 26-52 ar y chwiban olaf.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd15 Tachwedd

- Cyhoeddwyd9 Tachwedd
