Cyfres yr Hydref: Pum newid i'r tîm fydd yn wynebu'r Crysau Duon

Fe enillodd Cymru o 24-23 yn erbyn Japan ddydd Sadwrn - eu buddugoliaeth gyntaf yng Nghaerdydd ers dros ddwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Bydd blaenasgellwr y Gweilch, Harri Deaves yn ennill ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn.
Bydd Deaves yn cymryd lle Olly Cracknell yn y rheng ôl - un o bum newid i'r tîm a drechodd Japan 24-23 dros y penwythnos.
Fe fydd canolwr y Scarlets, Joe Hawkins, yn ennill ei gap cyntaf ers y Chwe Gwlad yn 2023 wrth iddo gymryd lle Ben Thomas, tra bod Tom Rogers yn dechrau ar yr asgell oherwydd bod Josh Adams wedi ei wahardd.
Rhys Carre a Keiron Assiratti fydd yn dechrau yn y rheng flaen gyda'r capten Dewi Lake - wedi i'r ddau brop ddechrau ar y fainc yn y fuddugoliaeth yn erbyn Japan.
Harri Deaves: O osod toeau i herio'r Crysau Duon
Ymunodd Harri Deaves, y chwaraewr 24 oed, ag Academi'r Gweilch o'i glwb lleol Pont-y-clun, gan ddilyn ei freuddwyd o chwarae rygbi ar ôl gwneud cwrs peirianneg sifil byr yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr.
Yn ystod dyddiau cynnar Deaves gyda'r Gweilch - pan oedd yn chwarae ochr yn ochr â rai o gyn-chwaraewyr y Llewod, fel Alex Cuthbert, Justin Tipuric a Rhys Webb - roedd yn mynd i sesiynau hyfforddi yn y bore yn ei fan, cyn gweithio yn y prynhawn fel töwr.
Dywedodd prif hyfforddwr Cymru, Steve Tandy, ei fod yn edrych ymlaen at weld Harri Deaves yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf:
"Mae ei berfformiadau i'r Gweilch wedi bod yn rhagorol.
"Dwi'n caru sut mae'n chwarae'r gêm... mae ei ffordd o chwarae yn gorfforol iawn ac mae ei gyflymder a'i ddawn ymosodol yn amlwg i bawb."

Bydd Seland Newydd yn gobeithio taro'n ôl wedi eu colled yn erbyn Lloegr dros y penwythnos
Mi fydd Deaves yn dechrau yn safle'r blaenasgellwr, gan wisgo'r crys rhif 7, gyda'r capten Jac Morgan wedi'i anafu.
Alex Mann ac Aaron Wainwright fydd yn ymuno ag ef yn y rheng ôl, gyda Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn cadw eu lle yn yr ail reng.
Max Llewellyn fydd yng nghanol gyda Joe Hawkins yn camu mewn yn lle Ben Thomas - sy'n colli ei le yn y garfan yn gyfan gwbl.
Mae Jarrod Evans, a ddaeth oddi ar y fainc yn erbyn Japan a throsi'r gic gosb dyngedfennol, ymhlith yr eilyddion eto.
Mae Blair Murray'n cadw ei le fel cefnwr tra bod Lewis Rees-Zammit wedi ei ddewis i ddechrau ar yr asgell am yr ail gêm yn olynol.
Ychwanegodd Steve Tandy: "O'n i'n meddwl bod ni 'di cael rhai cyfnodau rhagorol yn erbyn yr Ariannin, ond bydden ni 'di hoffi gwella mwy y penwythnos diwethaf.
"Roedd yn amlwg yn dda i gael buddugoliaeth, ond ni eisiau gwella ein perfformiadau yn erbyn gwrthwynebwyr o'r safon uchaf."
12 newid i'r Crysau Duon
Dyw Cyfres yr Hydref heb fod yn llwyddiant ysgubol i Seland Newydd hyd yn hyn, gyda'r crysau duon yn colli o 33-19 yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf, a hynny wedi brwydr agos iawn yn erbyn Yr Alban yn Murrayfield.
Mae eu rheolwr, Scott Robertson wedi gwneud 12 newid i'r tîm a gollodd i'r Saeson.
Dim ond y capten, Scott Barrett, y blaenasgellwr Simon Parker, a Will Jordan - sy'n newid o fod yn gefnwr i asgellwr - sy'n cadw eu lle yn y 15.
Mae'r maswr, Beauden Barrett, y blaenasgellwr Ardie Savea, a'r bachwr Codie Taylor ymhlith yr enwau mawr fydd yn cael hoe ddydd Sadwrn.
Y chwaraewr cyffrous, Damian McKenzie, fydd yn dechrau fel maswr ddydd Sadwrn gyda dau chwaraewr profiadol iawn yn ymuno ag ef yng nghanol cae - Anton Lienert-Brown a Rieko Ioane.
Carfan Cymru yn llawn
Tîm Cymru: B Murray (Sgarlets), L Rees-Zammit (Bryste), M Llewellyn (Caerloyw), J Hawkins (Scarlets), T Rogers (Sgarlets), D Edwards (Y Gweilch), T Williams (Caerloyw); R Carre (Saracens), D Lake (Y Gweilch, capt), K Assiratti (Caerdydd), D Jenkins (Caerwysg), A Beard (Montpellier), A Mann (Caerdydd), H Deaves (Y Gweilch), A Wainwright (Y Dreigiau).
Eilyddion: B Coghlan (Y Dreigiau), Gareth Thomas (Y Gweilch), A Griffin (Caerfaddon), F Thomas (Caerloyw), T Plumtree (Sgarlets), K Hardy (Y Gweilch), J Evans (Harlequins), N Tompkins (Saracens).
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.