Cais dadleuol i ddatblygu hen chwarel Caernarfon wedi'i wrthod

Mae Llywdoraeth Cymru wedi gwrthod cais gan y cwmni Jones Brothers i ddatblygu Chwarel Seiont
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais cynllunio dadleuol i ddatblygu Chwarel Seiont yng Nghaernarfon yn bwerdy nwy.
Roedd y cwmni Jones Brothers yn ceisio cael caniatâd cynllunio i godi gorsaf nwy 20 MegaWatt yn hen chwarel Seiont, a fyddai'n gallu cyflenwi'r Grid Cenedlaethol ar gyfnodau o alw mawr.
Ond mae adran cynllunio Llywodraeth Cymru wedi gwrthod y cais ar ôl ystyried effaith y safle arfaethedig ar yr amgylchedd ac ar drigolion yr ardal.
Ar ôl gwrthwynebu'r cynlluniau am dros flwyddyn, mae ymgyrchwyr o grŵp Caernarfon Lân wedi croesawu'r penderfyniad, gan ddweud bod "hwn yn ddiwrnod gwych i Gaernarfon ac i'n hamgylchedd lleol".
- Cyhoeddwyd13 Chwefror
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024
Fe gaeodd hen waith brics Seiont yn 2008 ond cafodd y chwarel ei hailagor fel compownd yn ystod gwaith adeiladu ffordd osgoi Caernarfon.
Roedd y datblygwyr o Ruthun yn honni y byddai'r cynlluniau diweddaraf yn creu hyd at 15 o swyddi newydd, ac yn cefnogi rhagor o waith anuniongyrchol yn lleol.
Ond gyda'r safle yn agos at dai, parc cymunedol ac Ysbyty Eryri, roedd nifer yn bryderus am yr effaith ar les a diogelwch y gymuned a'r amgylchedd.
Roedd llygredd aer, sŵn a thraffig, ynghyd â'r effaith amgylcheddol yn enwedig yn destun pryder yn lleol.

Aelodau o'r grŵp Caernarfon Lân, gyda Siân Gwenllian AS, sydd wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn cynlluniau ar safle hen chwarel Seiont
Dywedodd Caernarfon Lân mewn datganiad ar gyfrwng Facebook: "Newyddion anhygoel. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cais Jones Brothers i adeiladu gorsaf bŵer nwy yng Nghaernarfon oherwydd yr effaith y byddai'n ei chael ar bobl sy'n byw yn agos ac ar yr amgylchedd!
"Diolch i bawb a lofnododd y ddeiseb, a gefnogodd ein hymgyrch ac a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad.
"Mae hwn yn ddiwrnod gwych i Gaernarfon ac i'n hamgylchedd lleol!"