Cyfarfod i drafod pryderon am gynllun i ddatblygu hen chwarel Caernarfon
![Aelodau o'r grŵp Caernarfon Lân, gyda Siân Gwenllian AS, sy'n ymgyrchu yn erbyn cynlluniau ar safle hen chwarel Seiont](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/9697/live/54205050-ea28-11ef-a819-277e390a7a08.jpg)
Aelodau o'r grŵp Caernarfon Lân, gyda Siân Gwenllian AS, sy'n ymgyrchu yn erbyn cynlluniau ar safle hen chwarel Seiont
- Cyhoeddwyd
Cafodd cyfarfod cymunedol ei gynnal yng Nghaernarfon nos Iau i drafod pryderon trigolion am gynlluniau i ddatblygu hen safle Chwarel Seiont yn y dref.
Yn ogystal â gwaith malu concrit, mae'r datblygwyr Jones Bros o Ruthun eisiau creu gorsaf nwy 20MW ar y safle.
Y bwriad fyddai cyflenwi'r Grid Cenedlaethol ar gyfnodau o alw mawr.
Ond mae nifer yn gwrthwynebu yn lleol, gan boeni am lygredd aer, sŵn a thraffig, ynghyd â'r effaith amgylcheddol.
Yn ôl cwmni Jones Bros, mae yna gamau i leddfu ofnau gwrthwynebwyr a tharfu "cyn lleied â phosibl" ar drigolion lleol.
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2024
Fe gaeodd hen waith brics Seiont yn 2008 ond cafodd y chwarel ei hailagor fel compownd yn ystod gwaith adeiladu ffordd osgoi Caernarfon.
Mae'r datblygwyr yn honni byddai'r cynlluniau diweddaraf yn creu hyd at 15 o swyddi newydd, ac yn cefnogi rhagor o waith anuniongyrchol yn lleol.
Ond gyda'r safle yn agos at dai, parc cymunedol ac Ysbyty Eryri, mae nifer yn bryderus am yr effaith ar les a diogelwch y gymuned a'r amgylchedd.
![Mari Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3b05/live/e1353740-ea27-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Mae Mari Williams yn aelod o grŵp ymgyrchu Caernarfon Lân
Mae Mari Williams yn aelod o grŵp ymgyrchu Caernarfon Lân ac yn un o drefnwyr y cyfarfod nos Iau.
Meddai: "Wnaethon ni drefnu'r cyfarfod cyn y sesiynau gwrandawiad cyhoeddus er mwyn diweddaru'r gymuned am broses y cais a'r sesiynau gwrandawiad, y risgiau i ein hiechyd a lles, ac i bobl gael y cyfle i rannu pryderon a meddwl gyda'n gilydd sut fedrwn ni weithio i amddiffyn Caernarfon rhag y prosiect niweidiol hwn.
"Mae 'na bryderon mawr am y ceisiadau yma oherwydd y risg sylweddol i iechyd a lles pobl, a hefyd i'r amgylchedd naturiol. Mae ffatrïoedd brig nwy yn allyrru nifer o nwyon niweidiol, yn ogystal â'r llwch tocsig fydd yn codi o'r gwaith malu concrit. Mae llygredd sŵn yn bryder mawr hefyd, a'r cynnydd mawr mewn traffig - 120 lori pob diwrnod!
"Mae'r syniad o adeiladu gorsaf nwy yn 2025 yn hollol warthus. Mae tanwydd ffosil yn rhan enfawr tu ôl i'r argyfwng hinsawdd mae'r byd yn wynebu. Os buddsoddi mewn cynlluniau ynni, dylai pob buddsoddiad y dyddiau hyn fod mewn ynni adnewyddol - nid tanwydd ffosil."
![Cyfarfod nos Iau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/db78/live/885e1d80-ea4f-11ef-bc49-67f493a63bc5.jpg)
Mae Jones Bros yn adeiladu mynedfa newydd i'r safle oddi ar y brif lon i geisio lleddfu pryderon am draffig, ond dydy Mari Williams ddim yn credu y bydd yn gwneud gwahaniaeth.
Meddai: "Gyda'r lon newydd, fysa'r lorïau yn mynd trwy Gaeathro - lle mae nifer o bobl yn byw, a fysa'n rhaid defnyddio rhan o'r lon sydd yn barod yn beryg iawn."
![Margaret Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/bb2f/live/535e4e20-ea4f-11ef-bc49-67f493a63bc5.jpg)
"Mae'r safle yn anaddas," meddai Margaret Jones, sy'n byw ger safle'r hen chwarel
Un arall oedd yn y cyfarfod nos Iau oedd Margaret Jones, sy'n byw ger safle'r hen chwarel.
Meddai: "Mae'n mynd i achosi pryderon mawr, yn enwedig efo'r orsaf nwy brig efo'r nwyon gwenwynig fydd yn dod allan o fanno.
"Oherwydd bod y safle mewn pant, dydy'r flues ddim yn ddigon uchel i fynd a'r gwastraff i ffwrdd – fydda nhw i gyd yn aros o gwmpas yr ardal. Fydd hyn yn wenwynig i bobl, yn enwedig i blant ac i rai sy'n ymarfer yn y clwb rygbi.
"Mae'r safle hefyd drws nesa i ysbyty lle mae 'na bobl fregus a pobl wael. Mae'r safle yn anaddas."
Er bod cwmni Jones Bros yn dweud bod "diogelwch a lles y cyhoedd yn flaenoriaeth" wrth iddyn nhw fwrw ymlaen gyda'u cais, dydy hynny ddim yn tawelu ofnau rhai fel Margaret Jones.
Meddai: "Dydy'r archwiliadau maen nhw 'di gael gan arbenigwyr ddim yn sefyll i fyny i'r prawf ac felly does ganddon ni ddim hyder o gwbl yn eu ffigyrau na'r dogfennau maen nhw wedi'u cyflwyno."
![Caernarfon Lân](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2048/cpsprodpb/09dc/live/5f592b50-ea4f-11ef-bc49-67f493a63bc5.jpg)
Mewn datganiad i BBC Cymru, dywedodd llefarydd ar ran Jones Bros y byddai'r orsaf nwy yn "sicrhau bod gan drigolion a busnesau yn yr ardal leol gyflenwad trydan ar adegau pan na fydd gweithfeydd pŵer adnewyddadwy a nwy yn gallu ymdopi â'r galw".
Ychwanegodd y llefarydd "mai ond am gyfnodau byr - pan fydd allbwn solar a gwynt yn isel - y bydd y safle'n weithredol".
Ychwanegon nhw fod hyn yn "cynnig mwy o hyblygrwydd ac yn osgoi'r angen i redeg gweithfeydd cynhyrchu mawr yn gyson ar lwyth llai, rhag ofn y bydd eu hangen."
Maen nhw'n dweud na fyddai "unrhyw newid arwyddocaol i elfennau gweledol safle Chwarel Seiont, ac ni fyddai'r sŵn wrth weithredu yn fwy na'r sŵn 'cefndir' presennol, gydag effaith fach neu ddibwys ar yr ardal leol."
![Cyn-weithfeydd brics Seiont](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5ef8/live/276cfc20-ea28-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Mae modd gweld cyn-weithfeydd brics Seiont o'r ffordd osgoi newydd
Maen nhw hefyd yn ychwanegu na fyddai'r gwaith yn effeithio ar fioamrywiaeth yr ardal, gan y byddai "allyriadau yn cyfrif am lai nag 1% o'r terfyn o ocsidau nitrogen yn yr aer a nodir yn rheoliadau'r llywodraeth".
Nod y cyfarfod cymunedol nos Iau oedd rhoi cyfle i drigolion drafod eu pryderon cyn cyfres o wrandawiadau cyhoeddus rhwng 18-20 Chwefror, fydd yn edrych yn fanylach ar faterion yn ymwneud â sŵn, llygredd ac amodau cynllunio.
Bydd y gwrandawiadau'n cael eu cyhoeddi ar blatfform Microsoft Teams o 10:00 bob bore.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024