Rhybudd ar ôl cadarnhau ffliw adar ger arfordir Ceredigion

GwylogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyngor yn dweud bod rhagor o adroddiadau o adar gwyllt wedi marw yn yr ardal

  • Cyhoeddwyd

Mae rhybudd i bobl fod yn wyliadwrus yng Ngheredigion ar ôl i ffliw adar gael ei gadarnhau mewn aderyn gwyllt ger yr arfordir.

Daw'r neges gan y cyngor sir sy'n dweud bod angen gofal ychwanegol mewn ardaloedd rhwng Aberaeron a Cheinewydd.

Cafodd ffliw adar ei gadarnhau mewn aderyn ar draeth Ceinewydd meddai'r cyngor, yn ogystal â rhagor o adroddiadau o adar môr marw ar hyd yr arfordir.

Mae'r cyngor yn annog pobl leol ac ymwelwyr i'r ardal i gadw draw rhag unrhyw adar gwyllt sydd wedi marw neu sy'n edrych yn sâl.

Dylai pobl hefyd gadw cŵn ar dennyn, osgoi cysylltiad gyda charthion neu blu adar, a sicrhau eu bod yn glanhau dwylo ac esgidiau os yn cadw ieir neu adar eraill.

Mae ffliw adar wedi lledu'n helaeth hefyd drwy adar gwyllt - ac mae wedi bod yn broblem sylweddol i'r diwydiant dofednod drwy'r DU mewn achosion o drosglwyddiad i adar caeth.

Fis diwethaf cafodd achosion o ffliw adar "pathogenig iawn" eu cadarnhau yn siroedd Penfro a Wrecsam.

Cafodd parthau gwarchod eu gweithredu o amgylch yr achosion er mwyn ceisio atal lledaeniad.

Yng Ngheredigion, mae'r cyngor yn gofyn i'r cyhoedd roi gwybod am unrhyw adar gwyllt sydd wedi marw - gan gynnwys adar fel elyrch, gwyddau, hwyaid, neu adar ysglyfaethus.

Mae gwybodaeth am sut i adrodd achosion ar gael ar wefan y llywodraeth, dolen allanol.

Pynciau cysylltiedig