Cadarnhau achosion ffliw adar 'pathogenig iawn' yn y gogledd a'r de

Mae'r ffliw adar wedi'i achosi gan yr un straen H5N1 yn y ddau leoliad
- Cyhoeddwyd
Mae achosion o ffliw adar "pathogenig iawn" wedi cael eu cadarnhau yng ngogledd a de Cymru, meddai'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).
Cafodd yr achos cyntaf ei gadarnhau ar fferm gyda 120 o ieir yn ardal Hwlffordd, Sir Benfro, ddydd Llun.
Cafodd yr ail achos ei ddarganfod ar safle adar hela yng Nglyn Ceiriog, Wrecsam ddydd Mawrth ac mae'r ffliw wedi'i achosi gan yr un straen yn y ddau le - H5N1.
Mae parthau gwarchod bellach mewn grym o amgylch y lleoliadau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi disgrifio'r achosion fel rhai "anghysylltiedig ac ar wahân".
Dywedodd NFU Cymru bod y newyddion yn "hynod bryderus", ac yn ychwanegu at y pwysau y mae ffermwyr yn ei deimlo.

Cafodd yr achosion eu cadarnhau yn ardaloedd Glyn Ceiriog a Hwlffordd
Mae ffliw adar yn effeithio ar systemau anadlu, treulio a nerfol llawer o rywogaethau adar.
Y cyngor gan yr APHA i bobl sy'n cadw adar ydy i fod yn wyliadwrus a "dilyn mesurau bioddiogelwch llym i atal achosion yn y dyfodol".
Dywedodd Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wrth bobl am beidio â chyffwrdd adar meirw, ond yn hytrach i'w hadrodd i'r awdurdodau.
Dadansoddiad
Mae ffliw adar wedi bod yn broblem sylweddol i'r diwydiant dofednod drwy'r DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r feirws wedi lledu'n helaeth hefyd drwy adar gwyllt - gan ladd adar morol prin ar hyd arfordir Cymru, yn ogystal ag adar dwr ac adar ysglyfaethus.
Roedd 'na saib byr y llynedd - a dathlu yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd wrth i arddangoswyr ieir a thwrcwn gael dychwelyd am y tro cynta' ers blynyddoedd.
Ond mewn ymateb i gyfres o achosion yn Lloegr, cafodd Parth Atal Ffliw Adar ei sefydlu ar draws Cymru ddiwedd Ionawr, gan arwain at fesurau bioddiogelwch llym i bawb sy'n cadw adar.
Mae 'na waharddiad hefyd ar ddod a dofednod ynghyd mewn digwyddiadau ers mis Chwefror.
Gall dderbyn cadarnhad o ffliw adar gael oblygiadau ariannol ac emosiynol dybryd i ffermydd - gyda'r angen i ddifa'u hadar.
Yn draddodiadol mae wedi bod yn fwy o broblem yn ystod misoedd oerach y gaeaf, er bod milfeddygon yn annog pobl i fod ar eu gwyliadwraeth drwy'r flwyddyn erbyn hyn.
Mae'r achosion yma wedi dod yng nghanol cyfnod o bryder i'r diwydiant dros fygythiad posib feirws arall - y tafod glas - sy'n taro gwartheg a defaid.

Mae ffliw adar yn aml yn gallu pasio o adar gwyllt i adar sy'n cael eu cadw ar ffermydd
Dywedodd y milfeddyg Phil Thomas o Geredigion ar Dros Frecwast fore Iau ei bod yn "bach o sioc i gael dau achos yn troi lan fel hyn".
Esboniodd fod hynny'n dilyn cyfnod lle "ar y cyfan da ni wedi bod yn hynod o ffodus yng Nghymru".
Dywedodd bod ardaloedd yn nwyrain a gogledd Lloegr wedi gweld llawer mwy o achosion yn ddiweddar.
Ychwanegodd Mr Thomas bod patrwm ffliw adar wedi newid dros flynyddoedd diweddar.
"Mae'r wlad yn wyliadwrus trwy'r flwyddyn nawr yn hytrach na dim ond yn ystod y gaeaf fel o'n i'n arfer bod.
"Yn wreiddiol hwyaid a gwyddau oedd yn dueddol o'i gario fe, ond mae feirwses yn newid fel 'da ni'n gwybod ac yn anffodus mi ddechreuodd e effeithio ar adar y glannau - gwylanod a guillemots ac ati."
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2024
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod APHA, ar y ddau safle, yn "parhau i weithio ar weithredu mesurau rheoli clefydau yn unol â'n strategaeth rheoli clefydau".
"Mae awdurdodau iechyd cyhoeddus hefyd wedi cael gwybod fel rhan o'r mesurau a gymerir yn rheolaidd.
"Hoffem ddiolch i geidwaid dofednod ac adar caeth ledled Cymru am roi mesurau ar waith i gadw eu heidiau'n ddiogel rhag y feirws heintus iawn hwn."
Ychwanegodd y llefarydd ei bod hi'n hanfodol bod ceidwaid adar yn "cymryd camau i wirio ac atgyfnerthu mesurau hylendid a bioddiogelwch".
Dywedodd NFU Cymru bod y newyddion yn "hynod bryderus".
"Mae'n ychwanegu at y pwysau sy'n cael ei deimlo gan ffermwyr, sydd eisoes yn brwydro yn erbyn bygythiadau clefydau anifeiliaid ar sawl ffrynt."
Ychwanegodd y llefarydd fod y ffaith fod y ffliw wedi cael ei ddarganfod mewn dwy ardal ar wahân o Gymru yn "arbennig o bryderus".
"Dylai ymwelwyr diangen gael eu cadw i ffwrdd o'r fferm pryd bynnag y bo modd," meddai.