Dyn yn y llys ar gyhuddiad o feddu ar sylwedd ffrwydrol

Heol Doc Newydd, Llanelli
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r ardal o amgylch Heol Doc Newydd yn Llanelli ar gau am gyfnod er mwyn diogelu'r cyhoedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o feddu ar sylwedd ffrwydrol at ddiben anghyfreithlon yn dilyn digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod arbenigwyr gwaredu ffrwydron wedi cael eu galw i Heol Doc Newydd yn Llanelli ar 11 Mehefin, lle cafodd dyfais ei "gwneud yn ddiogel".

Bu'n rhaid i drigolion cyfagos adael eu cartrefi am gyfnod byr, rhag ofn, a gosodwyd cordon 100m o amgylch yr ardal er diogelwch y cyhoedd.

Ymddangosodd Timothy Jones, 57 o Lanelli, yn llys ynadon y dref ddydd Iau.

Doedd dim ple ffurfiol ganddo, ond awgrymodd y bydd yn pledio'n ddieuog.

Mae hefyd wedi'i gyhuddo o feddu ar ddryll tra ei fod wedi'i wahardd.

Cafodd Mr Jones ei gadw yn y ddalfa tan ei ymddangosiad nesaf yn Llys y Goron Abertawe fis Gorffennaf.