Cyhuddo dyn, 57, o feddu ar sylwedd ffrwydrol

Bu'r ardal o amgylch Heol Doc Newydd ar gau er mwyn diogelu'r cyhoedd ddydd Mercher
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Lanelli wedi'i gyhuddo o feddu ar sylwedd ffrwydrol at ddiben anghyfreithlon a meddu ar ddryll (firearm).
Cafodd Timothy Jones, 57, ei gyhuddo ar ôl i heddlu gael gwarant i fynd i eiddo ar Heol Doc Newydd yn y dref ddydd Mercher.
Bu pum ffordd ar gau yn rhannol yn y dref am gyfnod a bu'n rhaid i rai pobl adael eu cartrefi ar ôl i arbenigwyr gwaredu ffrwydron gael eu hanfon yno.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi diolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'u hamynedd.
Bydd Timothy Jones yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Sadwrn.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl