Enwau uniaith Gymraeg ar etholaethau'r Senedd 'ble mae modd'

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd nifer yr Aelodau o Senedd Cymru yn cynyddu o 60 i 96 yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Bydd enw uniaith Gymraeg yn cael ei ddefnyddio ar gyfer etholaethau Senedd Cymru yn etholiad 2026 “ble mae modd”, meddai llefarydd ar ran Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Ond ychwanegodd y bydd penderfyniadau'r comisiynwyr yn "dibynnu'n fawr ar yr ymatebion i'r ymgynghoriad”.

Tan ddiwedd mis Medi bydd cyfle i'r cyhoedd, pleidiau gwleidyddol a sefydliadau fynegi barn ar gynlluniau'r Comisiwn, dolen allanol.

Mae Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones a Chymdeithas yr Iaith o blaid enwau uniaith Gymraeg.

Dywedodd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, a gyhoeddoedd yr awgrymiadau cyntaf ar gyfer yr etholaethau newydd yn gynharach yr wythnos hon, eu bod "yn edrych ymlaen at glywed barn y cyhoedd ar yr enwau etholaethau arfaethedig".

"Pobl leol sydd yn y sefyllfa orau i roi cyngor ar yr enwau ar gyfer eu hardal ac mae'r Comisiwn yn parhau i fod yn agored iawn i ddiwygio'r enwau arfaethedig," meddai llefarydd.

Y Comisiynwyr yw Bev Smith (cadeirydd), Frank Cuthbert, Michael Imperato, Dianne Bevan a Ginger Wiegand.

Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddwyd yr awgrymiadau cyntaf ar gyfer yr etholaethau newydd yn gynharach yr wythnos hon

Daeth Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), dolen allanol yn gyfraith ar 24 Mehefin 2024.

Mae'r ddeddf yn dweud bod “rhaid i bob etholaeth Senedd gael enw unigol at ddibenion adnabod yr etholaeth mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg, oni bai bod y Comisiwn yn ystyried y byddai hyn yn annerbyniol".

"Os felly caniateir i’r etholaeth gael enwau gwahanol at ddibenion ei hadnabod mewn cyfathrebiad drwy’r Gymraeg a’r Saesneg."

Yn gynharach eleni fe wnaeth pwyllgor biliau diwygio Senedd Cymru alw am "enw uniaith ar bob un o etholaethau'r Senedd" ac "mai yn Gymraeg yn unig y caiff enw etholaeth fod os rhoddir enw uniaith iddi".

Bydd 16 etholaeth, gyda chwe Aelod o'r Senedd yn cynrychioli pob un.

Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru wrth y BBC: "Ble mae modd, byddwn yn defnyddio enw uniaith, ond os bod y Comisiwn yn teimlo bod angen enw Cymraeg a Saesneg bydd yna gyfieithiad.

"Byddwn yn defnyddio enwau sydd yn naturiol ar gyfer ardal (e.e. Clwyd) os yn bosib, ac yn cyfuno enwau'r etholaethau San Steffan fel arall (e.e. Dwyfor Meirionnydd, Maldwyn a Glyndŵr)."

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd y Gymraeg
Disgrifiad o’r llun,

"Buasai mabwysiadu enw Cymraeg yn unig yn arwydd grymus o statws y Gymraeg," meddai Efa Gruffudd Jones

Mae Comisiynydd y Gymraeg Efa Gruffudd Jones o'r farn y "byddai polisi cadarn o blaid enw uniaith - a'r rheini'n enwau Cymraeg - yn fodd o osgoi trafodaethau hirfaith am enwau ac yn fodd o hyrwyddo a phoblogeiddio'r defnydd o enwau Cymraeg yn unig fel sydd wedi dod yn arfer poblogaidd yn ddiweddar ymhlith ein parciau cenedlaethol".

"Buasai mabwysiadu enw Cymraeg yn unig yn arwydd grymus o statws y Gymraeg yng Nghymru."

Amlinellodd Cymdeithas yr Iaith safbwynt tebyg.

"Yn unol â'n cred yn y Gymraeg fel priod iaith Cymru, rydym yn cefnogi'r angen i roi enwau uniaith Gymraeg ar etholaethau ac eisiau bod hynny'n cael ei weld fel y ffordd arferol o enwi etholaethau a bod y Gymraeg bob tro yn cael ei weld fel norm".

Bydd Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yn cynnal ymgynghoriad pellach yn y flwyddyn newydd, cyn i'r map terfynol gael ei gyhoeddi yn y gwanwyn yn barod ar gyfer etholiad 2026.