Arglwydd Wigley: 'Etholaethau newydd yn rhy fawr'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru wedi dweud ei fod "wedi dychryn" o weld maint yr etholaethau newydd sydd wedi eu hargymell.
Mae etholaeth sy'n ymestyn o ben pellaf Pen Llŷn yr holl ffordd i'r ffin â Lloegr ymhlith yr awgrymiadau gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru ar gyfer etholaethau newydd Senedd Cymru.
Wrth siarad ar raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru fe gwestiynodd yr Arglwydd Dafydd Wigley sut y gallai un aelod gynrychioli ardal mor fawr.
"Sut goblyn mae un aelod am gynrychioli ardal o Ynys Enlli i ffin Lloegr? Dwi ddim yn gwybod," meddai.
Ychwanegodd Mr Wigley ei fod yn cefnogi'r cynnydd mewn Aelodau i'r Senedd, ond bod maint yr etholaethau newydd yn bryder.
'Cefn gwlad fydd yn dioddef fwyaf'
Dywedodd: "Dwi'n argyhoeddedig bod lles a dyfodol Senedd Cymru yn dibynnu ar gael etholaethau ac unigolion o fewn eu cymunedau i deimlo eu bod yn cael cynrychiolaeth yno, ac os ydi'r enwau yn ddiarth ac yn byw 70-80 milltir i ffwrdd, sut goblyn mae hynny yn mynd i weithio?"
Ychwanegodd ei fod "wedi dychryn o weld maint yr etholaethau sy'n cael eu hargymell - yn arbennig yr un sy'n cymryd i fewn fy hen ardal i, Caernarfon. Etholaeth fysa'n rhedeg trwodd i Faldwyn ac i dde Clwyd i ardal Glyndŵr".
"Os ydi ardal mor fawr ac efo gwahaniaethau mor enbyd yn ei diwydiant, yn ei hiaith, yn ei diwylliant, yn ei ffurf o fyw, be sy'n mynd i ddioddef fwyaf ydi cefn gwlad a dwi'n credu fod hynny yn gwbl annerbyniol.
"Mae'n llawer haws gwneud gwaith fel aelod yn cynrychioli pobl yng nghanol dinas ble mae pobman o fewn dwy neu dair milltir i chi, ble mae etholwyr yn gallu dod atoch chi'n rhwydd, nag ydi o os oes gennych chi ardal wledig eithriadol ble mae amgylchiadau mor wahanol o un ardal i'r llall a ble yn aml iawn mae'n anodd i etholwyr deithio i gael cyfarfod eu haelod," ychwanegodd.
Dywedodd yr arbenigwr cyfansoddiadol Keith Bush, oedd rhwng 2007 a 2012 yn brif ymgynghorydd cyfreithiol i'r Cynulliad Cenedlaethol - fel yr oedd ar y pryd - nad oedd llawer o opsiynau gan y Comisiwn.
"O'dd dwylo'r comisiynwyr wedi cael eu clymu'n dynn iawn, oherwydd y dasg oedd gyda nhw oedd efeillio etholaethau sydd wedi cael eu pennu'n barod.
"Felly doedd dim dewis ganddyn nhw o ran ffiniau'r etholaethau hynny."
Ychwanegodd bod y ffaith fod angen rhwydwaith ffordd rhwng etholaethau yn golygu bod yr "opsiynau yn lleihau yn fawr iawn".
Ond dywedodd ei fod yn rhagweld mai'r de-ddwyrain - ble mae llawer o etholaethau llai - yw'r man ble mae hi'n fwyaf tebygol y bydd newidiadau.
Ymateb y gwrthbleidiau
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y cyfansoddiad, Darren Millar fod ehangu'r Senedd yn "flaenoriaeth anghywir, a bydd mwy o newidiadau i ffiniau yn achosi mwy fyth o ddryswch i’r rhai sydd eisoes wedi gorfod ymgodymu â newidiadau ffiniau yn etholiadau’r cyngor a San Steffan.
“Rydym angen Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â phroblemau yn ein GIG, ein system addysg a’n heconomi - nid un sydd ag obsesiwn â mwy o wleidyddion a newid cyfansoddiadol."
Ond dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru ei bod hi'n "hen bryd cryfhau democratiaeth Cymru".
"O 2026, bydd pobl Cymru yn cael eu cynrychioli’n well, a bydd modd craffu’n fwy effeithiol ar Lywodraeth Cymru.
"Byddwn yn ystyried y cynigion a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ffiniau yn ofalus ac yn edrych ymlaen at ymgysylltu â’r Comisiwn i sicrhau bod etholaethau newydd y Senedd yn rhoi ystyriaeth lawn i nifer o ffactorau perthnasol, gan gynnwys ystyriaethau daearyddol, hanesyddol ac ieithyddol."