Etholaeth o Ben Llŷn i'r ffin â Lloegr yn rhan o gynlluniau newydd y Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae etholaeth sy'n ymestyn o ben pellaf Pen Llŷn yr holl ffordd i'r ffin â Lloegr ymhlith yr awgrymiadau ar gyfer etholaethau newydd Senedd Cymru.
Yn rhan o'r newidiadau fydd yn gweld cynnydd yn nifer y gwleidyddion ym Mae Caerdydd yn 2026, mae'n rhaid ail-lunio'r map etholaethol.
Lle bo 40 etholaeth a phum rhanbarth yn cael eu cynrychioli yn y Senedd ar hyn o bryd, dim ond 16 etholaeth fydd yna adeg yr etholiad nesaf.
Mae Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru bellach wedi cyhoeddi'r awgrymiadau cyntaf ar gyfer yr etholaethau newydd.
Beth yw'r awgrymiadau?
Gyda'r cloc yn tician cyn yr etholiad nesaf, mae'r Comisiwn wedi defnyddio'r 32 o etholaethau oedd mewn lle yng Nghymru ar gyfer yr etholiad cyffredinol diweddar fel sail i'w gwaith.
Maen nhw wedi cyplu'r etholaethau hynny er mwyn ffurfio 16 etholaeth newydd dros dro.
Wrth benderfynu pa etholaethau i'w paru, fe benderfynodd y Comisiwn bod angen cyswllt ffordd uniongyrchol rhwng y ddwy etholaeth.
O ganlyniad, doedd hi ond yn bosib uno Ynys Môn gyda Bangor Aberconwy.
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd8 Mai
Mae Dwyfor Meirionnydd wedi ei pharu ag etholaeth Maldwyn a Glyndŵr i greu etholaeth enfawr sy'n 4,992km sgwâr mewn maint.
Mae Ceredigion Preseli wedi ei chysylltu â Canol a De Sir Benfro i ffurfio etholaeth newydd o'r enw Ceredigion a Sir Benfro, sy'n 3,444km sgwâr mewn maint.
Awgrym arall ydy creu un etholaeth o'r enw Sir Gaerfyrddin drwy baru Caerfyrddin a Llanelli.
Pam fod hyn yn digwydd?
Yn rhan o'u cytundeb gyda Phlaid Cymru yn y Senedd, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth i ehangu maint y Senedd o 60 aelod i 96.
Yn rhan o'r un ddeddfwriaeth, mae newid mawr i'r drefn ar gyfer ethol aelodau.
Mewn etholiadau blaenorol mae pobl Cymru wedi ethol gwleidydd lleol i gynrychioli eu hardal nhw, gyda'r ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau ym mhob un o'r 40 etholaeth yn ennill y sedd honno.
Mae'r 20 aelod arall yn aelodau rhanbarthol sydd wedi eu hethol gan ddefnyddio system gyfrannol.
Mae pedwar aelod ar gyfer pob un o'r pum rhanbarth.
Ond o 2026 ni fydd yna unrhyw ranbarthau, a dim ond 16 o etholaethau fydd yna.
Bydd pob etholaeth yn cael ei chynrychioli gan chwe Aelod o'r Senedd, fydd i gyd wedi eu hethol drwy drefn gyfrannol.
Beth fydd yn digwydd nesaf?
Rhwng nawr a diwedd mis Medi bydd cyfle i'r cyhoedd a phleidiau gwleidyddol fynegi barn ar gynlluniau'r Comisiwn.
Bydd ymgynghoriad pellach yn y flwyddyn newydd, cyn bod y map terfynol yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn yn barod ar gyfer etholiad 2026.
Ond map dros dro fydd hwnnw - bydd yn rhaid i'r Comisiwn greu etholaethau newydd sbon ar gyfer etholiad 2030.
Dadansoddiad
Golygydd materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick
Y dewis mawr oedd yn wynebu'r comisiynwyr oedd y canolbarth.
Fyddai Dwyfor Meirionnydd yn cael ei huno gyda Cheredigion Preseli i greu ardal sy'n cynnwys y rhan fwyaf o'r fro Gymraeg?
Neu a fyddai'n cael ei ymestyn draw i uno â Sir Drefaldwyn a Glyndŵr, mewn etholaeth enfawr yn ymestyn o Ben Llŷn draw at y ffin â Lloegr? A dyna'r dewis mae'r comisiynwyr wedi gwneud.
Dyna lle dwi'n meddwl y bydd pwysau ar y comisiynwyr efallai i ailfeddwl, ond doedd dim lot o ddewisiadau ganddyn nhw.
Oherwydd ei bod hi'n fater o frys cyn etholiadau nesaf Senedd Cymru, roedd hi'n fater o gymryd ffiniau oedd eisoes yn drwsgl ar gyfer etholiadau San Steffan, ac wedyn eu huno â'i gilydd i greu etholaethau hyd yn oed yn fwy trwsgl.
Ond dyw'r ffiniau yma ddim yn mynd i barhau tu hwnt i'r etholiad nesaf i Senedd Cymru.
Wrth siarad ar Dros Frecwast eglurodd Tom Jenkins - pennaeth polisi a rhaglenni i'r Comisiwn Ffiniau i Gymru - beth yw'r broses dros y misoedd nesaf.
"Y cam cyntaf yw heddiw, a chyhoeddi'r cynigion cychwynnol.
"Mae pedair wythnos nawr i bobl ysgrifennu aton ni yn dweud os maen nhw gydag awgrymiadau eraill, neu os maen nhw'n cefnogi be' ni 'di gwneud.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n clywed popeth, fel bod ni ddim yn newid pethau os yw pobl yn hoffi nhw.
"Wedyn bydd y Comisiwn yn ystyried popeth sydd wedi dod mewn.
"Byddwn ni'n rhoi cynigion arfaethedig mas wedyn yn Rhagfyr, a wedyn bydd pedair wythnos arall o ymgynghori cyn i ni gyhoeddi'r cynigion terfynol erbyn diwedd mis Mawrth," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd6 Mai
- Cyhoeddwyd6 Chwefror