'Blwyddyn anhygoel o galed yn byw gyda TB'

- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Gaerdydd wedi disgrifio'r cyfnod o fynd yn sâl gyda be oedd hi'n amau oedd haint ar ei brest yn "anhygoel o galed".
Fe wnaeth Lizzy Willmington, 38 oed, wynebu misoedd o flinder eithafol, peswch parhaus ac anhawster anadlu cyn cael diagnosis o dwbercwlosis (TB).
Bu'n rhaid i'r darlithydd prifysgol hunanynysu a threulio tua saith mis i ffwrdd o'r gwaith gyda'r clefyd, sy'n cael ei ddisgrifio gan Sefydliad Iechyd y Byd TB, fel y "clefyd heintus mwyaf marwol y byd".
Wrth dderbyn ei thriniaeth, a oedd yn goctel o feddyginiaeth meddai, roedd yn treulio llawer o'i hamser yn "cysgu neu'n chwydu".
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod TB yn "bryder iechyd cyhoeddus difrifol", gydag achosion i fyny o 84 yn 2023 i 95 yn 2024.
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn nodi Diwrnod TB y Byd gyda digwyddiad i godi ymwybyddiaeth am ei "effaith yng Nghymru".
Mae'n dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, llunwyr polisi, ymchwilwyr a chleifion ynghyd i rannu mewnwelediadau yn ei Symposiwm Diwrnod TB y Byd Cymru yng Nghaerdydd ddydd Llun.
Mae cyfradd yr achosion yng Nghymru wedi cynyddu o 2.7 fesul 100,000 yn 2023 i 3.0 yn 2024.
Dywedodd ICC fod angen gweithredu i atal achosion o TB rhag cynyddu yng Nghymru, er ei fod yn parhau i fod â'r gyfradd isaf yn y DU – o'i gymharu â chyfartaledd y DU cyfan o 7.8 achos fesul 100,000.
Yn ôl ICC mae diagnosis cynnar a thriniaeth brydlon yn hanfodol i gyfyngu ar yr effaith ar gleifion a lledaeniad yr haint yn y gymuned ehangach.
Beth yw symptomau TB?
Peswch sy'n para mwy na thair wythnos
Teimlo'n flinedig neu wedi blino'n lân
Tymheredd uchel neu chwysu yn y nos
Ddim eisiau bwyta
Colli pwysau
Teimlo'n sâl yn gyffredinol
Gall cleifion gael eu trin â nifer o wrthfiotigau dros sawl mis
Ffynhonnell: 111 GIG Cymru
'Cysgu am 15-16 awr y dydd'
Dywedodd Ms Willmington fod yr haint wedi effeithio ar ei bywyd personol a phroffesiynol yn ogystal â'i hiechyd.
Treuliodd lawer o amser ar ei phen ei hun, yn cysgu hyd at 16 awr y dydd ac yn gorfod ynysu i osgoi lledaenu'r haint.
Roedd angen iddi hefyd reoli ei meddyginiaeth am flwyddyn i osgoi effaith andwyol ar ei iau.
"Roedd y driniaeth yn anhygoel o galed," meddai Ms Willmington.
"Mae'n debyg chi ddim yn gweld pa mor anodd yw e tra mae'n digwydd, ond yn enwedig yn yr wythnosau cyntaf, roeddwn i naill ai'n cysgu neu'n chwydu."
"Roeddwn i'n cysgu am 15-16 awr y dydd... O'n i'n deffro'n eithaf cynnar, cael brecwast, cymryd meddyginiaeth, gwneud rhywbeth am ryw awr neu ddwy ac yna yn ôl i'r gwely."
Dywedodd bod y gofal gan feddygon teulu a staff yng nghlinig TB Caerdydd yn "hynod o ofalgar, wastad ar gael, ac yn gefnogol iawn".

Cafodd Lizzy Willmington "goctêl neu ddau" gyda'i ffrindiau ar ôl cwblhau ei thriniaeth y llynedd
Dywedodd Ms Willmington nad yw hi'n gwybod sut y cafodd yr haint ond ei bod hi'n amau ei bod wedi ei ddal pan aeth i deithio rhai blynyddoedd yn ôl - a'i fod wedi bod yn segur yn ei system ers hynny.
Gan ei bod wedi cael y brechlyn TB, BCG, fel plentyn, mae hi hefyd wedi cwestiynu oes ganddi glefyd hunanimiwn - cyflwr a achosir gan wrthgyrff yn ymosod ar gelloedd iach yn y corff.
Ers gwella o symptomau TB, dywedodd ei bod yn ceisio "canolbwyntio ychydig yn fwy ar sut rydw i'n treulio fy amser" ond ychwanegodd "na allwch chi wneud yn iawn am amser coll".
"Roedd gorffen y driniaeth yn anhygoel," meddai.
"Fe es i allan gyda rhai ffrindiau a chael coctêl neu ddau y noson honno."
Fe wnaeth 14 mis fynd heibio rhwng dechrau ei salwch i phan wnaeth hi gwblhau ei thriniaeth fis Gorffennaf y llynedd.