Parlys yr ymennydd: 'Dwi eisiau siarad am be dwi'n gallu 'neud'

Emily RobertsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emily Roberts bod byw â pharlys yr ymennydd yn "normal iddi hi"

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw sy'n byw â pharlys yr ymennydd (cerebral palsy) wedi dweud bod eisiau i bobl feddwl fod y cyflwr yn "normal", ac yn galw ar bobl i beidio â'i "underestimato".

Dywedodd Emily Roberts, 27 o Bontarddulais, bod angen newid agweddau at y cyflwr, a hithau'n fis codi ymwybyddiaeth o barlys yr ymennydd.

"Weithiau mae pobl yn teimlo yn sori drostai ac yn dweud 'Oh bless! Buasen i methu copo!'," meddai wrth siarad â Cymru Fyw.

"Mae rhywbeth fel hyn yn gwneud fi i deimlo yn passionate am newid barn pobl.

"Mae 'na bobl yn gweud bod CP [cerebral palsy] yn ofnadwy, bod rhaid i ti roi give up efo bywyd ond na!

"Dwi'n teimlo'n lwcus i allu dangos i bobl a dweud edrych arna i ac edrych be dwi'n gallu gwneud!"

Mae elusen Cerebral Palsy Cymru yn dweud eu bod yn wynebu cyfnod anodd, ond yn annog pobl i ddod atyn nhw am gymorth.

1,800 o blant yng Nghymru â'r cyflwr

Parlys yr ymennydd yw'r anabledd corfforol mwyaf cyffredin ymhlith plant.

Amcangyfrifir bod 6,000 o bobl yn byw gyda pharlys yr ymennydd yng Nghymru - 1,800 ohonynt yn blant.

Bob blwyddyn mae tua 70 o fabanod sy'n cael eu geni yn cael diagnosis o'r cyflwr.

Mae symptomau'n amrywio'r fawr, meddai'r GIG, dolen allanol, ond yn gallu cynnwys datblygiad araf o fewn plant, gwendidau corfforol neu ddiffyg rheolaeth dros symudiadau, neu anawsterau'n siarad.

EmilyFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Canolbwyntio ar y person nid y cyflwr sy'n bwysig, meddai Emily

Mae Emily Roberts wedi bod mewn cadair olwyn ers yn dair oed. Dyw hi ddim yn gallu cerdded ond "mae hynna yn teimlo yn normal iawn i fi achos dwi ddim yn gwybod any different," meddai.

"Dwi'n teimlo yn lwcus iawn achos mae llawer o bobl sydd yn byw efo cerebral palsy ddim yn gallu siarad a ddim yn gallu gwneud unrhyw beth ond dwi'n gallu gwneud llawer," ychwanegodd.

"Dwi'n byw yn annibynnol, dwi'n teimlo yn lwcus iawn achos er bod fi methu cerdded, dwi'n gallu mynd i'r gwaith, cael llawer o hwyl a bwyta efo ffrindiau.

"Pan o'n i yn ifanc, doeddwn ni ddim yn gallu gweld profiadau o CP ond nawr mae llawer o bobl ar-lein wedi bod yn siarad am fywyd efo cerebral palsy.

"Mae agwedd fi wedi newid achos ma' cerebral palsy mor normal nawr, ma' pobl ar TikTok ac Instagram a just yn gweud 'ma CP efo fi!'"

'Pwysig siarad am CP'

Dywed Emily bod profiad pawb o barlys yr ymennydd yn wahanol, ond yr hyn sy'n bwysig yw fod pobl yn canolbwyntio ar y person nid y cyflwr.

Mae hi hefyd yn dweud ei bod hi'n hollbwysig codi ymwybyddiaeth.

"Ma' mor bwysig siarad am CP, arddangos beth ma' CP amdan achos pan o'n i yn ifanc, roedd pobl yn nerfus am anableddau a chadair olwyn.

"Mae ddim yn rywbeth scary, just tipyn bach yn wahanol. Mae just yn really pwysig siarad a dangos bo' fi yn berson hefyd.

"Mae pobl ofn dweud a gwneud pethau anghywir ond os ti'n trio helpu dyw e ddim yn wrong i wneud unrhyw beth."

Tomi yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r GymanwladFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tomi wedi iddo ennill y Fedal Aur yng Ngemau'r Gymanwlad

Un arall sydd yn byw â pharlys yr ymennydd yw Tomi Roberts-Jones o Gaerdydd.

Yn bum mis cafodd ddiagnosis o congenital hemiplegia - math o barlys yr ymennydd. Roedd meddygon yn ansicr a fyddai fyth yn gallu cerdded neu siarad.

Yn 19 oed, mae bellach yn athletwr sydd wedi cynrychioli Cymru a Phrydain ar y lefel rhyngwladol gan arbenigo yn y ras 100m a'r naid hir.

Tomi oedd y Cymro cyntaf i ennill medal aur paralympaidd yng Ngemau Ieuenctid y Gymanwlad yn 2023 wrth iddo redeg 100m mewn 13.27 eiliad.

TomiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tomi yn cystadlu yn y naid hir yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2023

"Fi wastad wedi meddwl bod 'na ffordd rownd e, falle fydd e bach yn anoddach ond ma 'na ffordd o gwmpas [y cyflwr]," meddai Tomi.

"Ma'n teimlo'n wych cynrychioli Cymru a Phrydain. Odd e'n brofiad bythgofiadwy cerdded mas yn vest GB fi ac efo Cymru.

"Fi just mor ddiolchgar o gael rhedeg dros fy ngwlad."

Mae Tomi yn hyfforddi bum gwaith yr wythnos a'i obaith yw mynd i Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2026 a chynrychioli Prydain yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles yn 2028.

Ei gyngor i unrhyw un arall â pharlys yr ymennydd yw: "Peidiwch rhoi lan, ma' wastad ffordd o gwmpas stwff, os dyw e ddim yn gweithio ma 'na bobl allan yna i dy helpu di!"

Mae elusen Cerebral Palsy Cymru yn darparu therapi arbenigol a chymorth i dros 300 o deuluoedd y flwyddyn.

"Gafon ni ein sefydlu gan deuluoedd a ni'n anelu i gadw teuluoedd wrth galon popeth ni yn ei wneud," meddai Carwyn Williams, un o'r penaethiaid.

"Mae 'na blentyn yn cael ei eni efo parlys yr ymennydd bob pum diwrnod a hwnna yw'r anabledd mwya' cyffredin mewn plant ar draws y byd.

"Dyw lot o bobl ddim yn sylweddoli hynny ond ni yma i bob un yng Nghymru sydd efo plentyn neu sydd yn blentyn sy'n cael ei effeithio gan barlys yr ymennydd."

Yn sgil costau uchel mae'n gyfnod anodd i'r elusen.

Mae 80% o'r incwm yn dod drwy ymdrechion codi arian ac elw yn eu siopau, medd Carwyn Williams, ac yn sgil galw cynyddol am y gwasanaethau mae angen mwy o arian.

Ond a hithau yn fis codi ymwybyddiaeth o barlys yr ymennydd mae'r elusen yn ceisio "gwneud cymaint o sŵn â phosib fel bo' pawb yn gwybod bod ni yma i gynnig cymorth," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig