Galw ar gynllun 10 mlynedd i bobl ag anableddau gael mwy o rym

Mae Gethin wedi elwa o gael cefnogaeth arbenigol mewn gwersi nofio
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i gynllun newydd sydd am wella hawliau pobl ag anableddau "fod â dannedd" os yw am fod yn effeithiol, yn ôl ymgyrchwyr.
Bydd gweinidogion Cymru yn ei gyhoeddi'n fuan, ar ôl i dasglu lunio argymhellion.
Mae'r cynllun wedi ystyried sawl agwedd ar fywyd pobl anabl - o fyw'n annibynnol i deithio.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd eu cynllun 10 mlynedd yn "canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau a chreu gwelliannau parhaol i bobl anabl".
Caru nofio
Un maes y mae ymgyrchwyr yn dweud bod y system yn methu ar hyn o bryd yw cynnig gwersi nofio i blant anabl.
I'r plant sy'n cael eu haddysgu i nofio yng Nghanolfan Serennu Casnewydd, y gwersi - sy'n cael eu rhedeg gan elusen Sparkle - yw un o uchafbwyntiau'r wythnos.
Mae'r plant yn cael y cymorth a'r gefnogaeth arbenigol sydd eu hangen arnyn nhw.
Gallai hynny fod yn ddwys; weithiau mae angen mwy nag un hyfforddwr i bob plentyn.
Y llynedd cynhaliodd Sparkle arolwg o deuluoedd y bobl ifanc sy'n mynychu'r dosbarth yma.
Dywedodd 81% eu bod wedi dechrau mynd ar ôl cael trafferth cael gwersi priodol yn eu canolfannau hamdden lleol.

Yn ôl Ross, mae angen y gefnogaeth ar ei fab Gethin mewn gwersi nofio
Mae gan fab 10 oed Ross, Gethin, awtistiaeth. Dyw Gethin ddim yn siarad ac mae ganddo Anhwylder Prosesu Synhwyraidd.
Mae ei dad yn dweud ei fod yn caru'r dosbarth nofio yn Serennu.
"Ni wedi mynd o Gethin ddim yn fodlon rhoi ei wyneb yn y dŵr i Gethin nawr yn fodlon neidio i mewn i ben dwfn y pwll, gyda chefnogaeth," meddai.
"Felly, mae angen y gefnogaeth yna arno fe."
'Dim lot o groeso'
Mae Jamie, mab saith oed Hannah, hefyd ag awtistiaeth, yn ddi-eiriau, ac mae ganddo anghenion gofal a chymorth uchel.
Fe gofrestrodd Jamie ar gyfer gwersi i blant ag anghenion ychwanegol yn eu pwll lleol.
Ond pan gyrhaeddon nhw, mae Hannah'n dweud nad oedd y pwll yn barod.
"Esboniais ei anghenion yn fanwl wrth archebu a chyn ei wers gyntaf, ond doedd yr hyfforddwr ddim yn ymwybodol ohonynt pan ddaethon ni i'r wers," meddai.
"O'n i'n teimlo bod dim lot o groeso. Roedd yn ddrws arall yn cael ei gau arnom ni fel teulu."

"Y cyfan 'wy moyn yw bod Jamie, a phlant gydag anghenion tebyg yn cael yr un sgiliau a phrofiadau bywyd," meddai Hannah
Mae Tasglu Hawliau Anabledd wedi bod yn edrych ar ystod eang o faterion yn ymwneud â bywydau pobl ag anableddau yng Nghymru.
Ymhlith y rhain mae mynediad at wasanaethau, byw'n annibynnol, gofal cymdeithasol, iechyd, teithio, cyflogaeth, a thai, yn ogystal â hawliau plant.
Bydd yr adroddiad yn sail i'r Cynllun Gweithredu Hawliau Anabledd a fydd yn cael ei gyhoeddi gan weinidogion yn yr wythnosau nesaf.

Mae Jamie, sy'n saith oed, wrth ei fodd yng ngwersi nofio Canolfan Serennu
Ond dyw'r AS Ceidwadol Mark Isherwood, sy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol y Senedd ar anableddau, ddim yn argyhoeddedig y bydd y cynllun yn arwain at newid gwirioneddol a pharhaol.
"Fel bob amser, y broblem yw sut y caiff hyn ei fonitro? Sut y caiff ei werthuso?
"A fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd pan gaiff ei gamddeall neu pan na chaiff ei weithredu, fel sy'n digwydd gyda chymaint o bethau eraill sy'n effeithio, fel yn y cyd-destun hwn, plant anabl?
"Mae'n rhaid bod gan y cynllun ddannedd," meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer hawliau pobl anabl yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ystod yr wythnosau nesaf, gan ganolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau a chreu gwelliannau parhaol i bobl anabl yng Nghymru.
"Byddwn yn sefydlu bwrdd cynghori annibynnol newydd i fonitro a gwerthuso ei gynnydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd14 Mawrth
- Cyhoeddwyd12 Mawrth