'Gormod o waith papur' wrth drosglwyddo cleifion i Loegr

nyrsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 13,300 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr

  • Cyhoeddwyd

Mae lefel y fiwrocratiaeth sy'n gysylltiedig â chyfeirio cleifion i ofal arbenigol yn Lloegr "yn ormod i ddelio ag ef", medd meddygon.

Ar hyn o bryd mae gwleidyddion yn San Steffan yn archwilio cyflwr gofal iechyd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr i weld a oes modd dysgu gwersi ar y ddwy ochr.

Y llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens, a Phrif Weinidog Cymru Eluned Morgan gynlluniau ar gyfer mwy o gydweithrediad rhwng y GIG er mwyn lleihau amseroedd aros.

Dangosodd tystiolaeth ysgrifenedig gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yng Nghymru i'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig cymaint o rwystredigaethau a'r anawsterau y mae meddygon ymgynghorol yn eu hwynebu wrth gyfeirio cleifion i wasanaethau dros y ffin.

Dywed y corff meddygol nad oes gan Gymru "lawer o wasanaethau arbenigol sydd ar gael yn Lloegr, a bod cael mynediad rhwydd iddyn nhw yn gallu bod yn hynod amrywiol".

Ychwanegodd y gall y fiwrocratiaeth gymryd llawer iawn o amser ac mae rhai meddygon ymgynghorol wedi derbyn ceisiadau am ail farn, ond "y rheswm am gyfeirio claf i wasanaeth arbenigol yn Lloegr yw oherwydd nad yw'r farn/arbenigedd lleol yn bodoli".

Bydd y pwyllgor yn clywed tystiolaeth ddydd Mercher gan Dr David Bailey, cyn-gadeirydd cyngor Cymru yn y BMA, a Dr Stephen Kelly, cadeirydd pwyllgor meddygon ymgynghorol Cymru - mae disgwyl iddyn nhw dynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng yr ansawdd ac amseru gofal wrth gyfeirio cleifion i ofal eilaidd.

Gall hynny hyd yn oed ddod i'r amlwg yn y ffordd mae data'n cael ei gasglu, gan fod cleifion sy'n cael eu cyfeirio at ymddiriedolaethau yn Lloegr "yn gallu cael eu hanwybyddu" o fewn ffigyrau rhestrau aros oherwydd bod gan Loegr dargedau gwahanol.

Dywed y BMA yng Nghymru nad yw'n glir "os yw cleifion yn cael eu cyfrif ar restrau aros Cymru chwaith, oherwydd eu bod wedi cael eu cyfeirio i Loegr".

Oedi gofal i gleifion o Gymru

Yn ddiweddar bu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn trafod gofyn i ysbytai yn Lloegr ohirio'r gofal sy'n cael ei roi i gleifion o Gymru er mwyn arbed arian.

Nid oes gan y sir ysbyty cyffredinol ac mae'n dibynnu ar rai dros y ffin.

Yn aml mae cael mynediad i gofnodion cleifion yn anodd wrth i systemau TG gwahanol gael eu defnyddio.

Mae'r dystiolaeth sy'n cael ei chyflwyno ddydd Mercher yn cynnwys profiad claf a arferai fod yn ymgynghorydd ac felly wedi arfer delio â gwahanol wasanaethau iechyd.

Er mwyn cael triniaeth dros y ffin roedd angen cais cyllido cleifion annibynnol (IPFR), a oedd yn golygu bod meddygon ymgynghorol yn Lloegr yn ysgrifennu at y bwrdd iechyd yng Nghymru.

"Oherwydd aneffeithlonrwydd yn y system mae'r unigolyn wedi teimlo nad oedd ganddo ddewis ond talu am rywfaint o'i driniaeth yn breifat," meddai'r dystiolaeth.

"Byddai rhywun nad yw'n feddyg neu rywun sy'n gweithio y tu allan i'r GIG wedi cael trafferth ymdopi â'r system."

Yn ogystal â gwasanaethau arbenigol, dywedodd y BMA yng Nghymru fod y ffigyrau diweddaraf yn awgrymu bod 13,300 o drigolion Cymru wedi cofrestru gyda meddygon teulu yn Lloegr, a 21,100 o drigolion Lloegr wedi cofrestru gyda meddygon yng Nghymru.

Roedd bron i 27,000 o drigolion Cymru ar restrau aros am ofal yn Lloegr ym mis Mawrth y llynedd – mwy na dwbl y nifer yn 2011.

Pynciau cysylltiedig