Cleifion Powys i aros hyd at 11 wythnos yn hirach am driniaeth?

- Cyhoeddwyd
Gallai rhai cleifion ym Mhowys aros hyd at 11 wythnos yn hirach am driniaeth, a hynny yn fwriadol er mwyn arbed arian.
Mae'n golygu y gallai pobl sy'n byw ym Mhowys, sy'n derbyn triniaeth yn Lloegr, gael eu gorfodi i aros yn hirach am ofal.
Daw hyn wrth i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ystyried "cam gweithredu eithriadol" i sicrhau bron i £10m o arbedion.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dweud na fyddai newidiadau arfaethedig yn effeithio ar dargedau amseroedd aros y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Mae'n nod gan Lywodraeth Cymru, erbyn mis Mawrth 2025, i bob claf gael eu gweld o fewn 104 wythnos.
Ni wnaeth y bwrdd iechyd benderfyniad terfynol wrth iddyn nhw gyfarfod ddydd Gwener i drafod y newidiadau.
'Mae'r effaith yn enfawr'
Yn ogystal â'r cynnydd posibl o ran amseroedd aros am driniaeth, mae Powys hefyd wedi atal prosesau recriwtio a gwariant ar asiantaethau.
Fe ddaw rhai misoedd ar ôl i faint rhestrau aros am driniaethau yng Nghymru godi i dros 800,000 am y tro cyntaf erioed.
Rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hynny yw gyrru mwy o gleifion dros y ffin i Loegr.
Ond ym Mhowys, mae trafodaethau anffurfiol eisoes ar y gweill gyda darparwyr gofal yn Lloegr i weithredu oedi.
Mae'n golygu y gallai pobl sy'n derbyn triniaeth gan ysbytai dros y ffin gael eu gwneud i ddisgwyl yn hirach am driniaeth, yn fwriadol.
Y tri phrif ddarparwr ar gyfer trigolion Powys yn Lloegr yw Ysbyty Robert Jones ac Agnes Hunt yn Gobowen, Ysbyty Amwythig a Telford, ac Ysbyty Dyffryn Gwy.

"Byddai'r newidiadau hyn yn golygu bod pobl fel fi yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach," meddai Marina Bowles
Bu Marina Bowles yn gweithio fel nyrs ym Mhowys cyn ei hymddeoliad. Mae'n dioddef gydag arthritis ac mae wedi'i chofrestru'n ddall.
Yn byw ger Rhaeadr Gwy ym Mhowys, mae hi wastad wedi teithio i Loegr i dderbyn triniaeth.
"Yn ddiweddar, dwi wedi gorfod aros dros flwyddyn am lawdriniaeth a byddai'r newidiadau hyn yn golygu bod pobl fel fi yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach am driniaeth," meddai.
"Mae'r effaith yn enfawr pan rydych chi mewn poen pob dydd.
"Maen nhw wedi dweud yn y Senedd eu bod nhw'n gobeithio cael rhestrau aros i lawr drwy anfon pobl dros y ffin i Loegr.
"Mae'r cynlluniau Powys yn mynd yn groes i hynny."
'Nid Powys yw'r lle i fynd yn hŷn'
Ychwanegodd: "Dwi'n grac iawn. Mi wnes i ddewis dod i fyw i Gymru 40 mlynedd yn ôl ac mae pethau wedi gwaethygu.
"Ydw i eisiau byw yng Nghymru os mai dyma sut maen nhw'n trin cleifion? Wrth i ni heneiddio, mae fy ngŵr a minnau yn poeni am fyw yma.
"Nid Powys yw'r lle i fynd yn hŷn.
"Mae'n sir sy'n cael ei anghofio, a gyda phoblogaeth oedrannus does dim ystyriaeth i hynny o ran ariannu."
- Cyhoeddwyd22 Awst 2024
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2024
Cafodd sawl opsiwn ei ystyried gan y bwrdd iechyd yn y cyfarfod ddydd Gwener, a allai arwain at amseroedd aros 5-11 wythnos yn hirach ar gyfer llawdriniaethau ac apwyntiadau cleifion allanol.
Ni fyddai effaith ar gleifion canser na rhai "llwybrau brys eraill", na chwaith ar bobl dan 18.
Mae gan sir Powys boblogaeth hŷn na'r cyfartaledd ledled Cymru, sy'n arwain at gostau gofal uwch, sydd hefyd ar gynnydd.
Ond mae'r arbedion sydd eu hangen ar y bwrdd iechyd ar lefel llawer uwch o gymharu â'r hyn sydd wedi gorfod cael ei gyflawni yn y gorffennol.
Wedi'r cyfarfod ddydd Gwener dywedodd cadeirydd y bwrdd iechyd, Carl Cooper, fod angen ailymgynnull cyn gynted â phosibl i wneud penderfyniad terfynol, ond ni chafodd dyddiad ei bennu ar gyfer y cyfarfod nesaf.
'Angen cymryd camau eithriadol'
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: "Trwy gydol y flwyddyn, mae timau ar draws y bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n galed iawn i fyw o fewn ein cyllideb tra hefyd yn canolbwyntio ar yr hyn sydd wrth galon popeth ni'n gwneud, sef cynnig gofal o ansawdd.
"Fodd bynnag, mae angen cymryd camau eithriadol pellach i sicrhau arbedion o £9.9m fel sydd wedi eu cytuno gyda Llywodraeth Cymru.
"Ochr yn ochr â hyn, rydym yn ystyried newidiadau i'r ffordd rydym yn comisiynu gofal wedi'i gynllunio (e.e. llawdriniaethau ac apwyntiadau cleifion allanol) o ysbytai yn Lloegr.
"Fodd bynnag, mae ein nod yn parhau i ganolbwyntio'n gadarn ar fodloni Mesur Gweinidogol Llywodraeth Cymru o sicrhau na fydd unrhyw gleifion yn aros dros 104 wythnos erbyn diwedd mis Mawrth 2025."