Ffermwr ifanc yn gosod her er cof am ei fam-gu

Dewi a'i fam-gu, Myfanwy Thomas, yn Rali Ffermwyr Ifanc Ceredigion yn 2023 - pan roedd Dewi ar ei flwyddyn fel 'Ffermwr ifanc y sir'
- Cyhoeddwyd
Mae cadeirydd y Ffermwyr Ifanc yng Nghymru wedi gosod her i godi arian i elusen ac i gofio am aelod agos o'i deulu.
Ar ôl colli ei fam-gu i afiechyd ar y galon union flwyddyn yn ôl, mae Dewi Davies wedi penderfynu casglu arian ar gyfer ymchwil yn y maes.
Bob blwyddyn mae cadeirydd y mudiad yn penderfynu ar 'Her y Cadeirydd', ac eleni'r British Heart Foundation ydy'r elusen fydd yn elwa.
Wrth gofio ei fam-gu, Myfanwy Thomas o Lanrhystud, ar y Post Prynhawn dywedodd ei fod yn awyddus i dynnu sylw at waith elusen sy'n "agos iawn i 'nghalon i".
"Tua blwyddyn yn ôl mi gollon ni mam-gu o afiechyd y galon a dyna'r rheswm wnes i ddewis yr elusen – i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith ymchwil hefo afiechydon y galon a'r gwaith mae'r elusen yn ei wneud yn ehangach."
Bydd y daith gerdded noddedig o tua 20 milltir yn digwydd ar ddydd Sadwrn olaf mis Awst, gan gychwyn yn Eisteddfa Gurig i fyny am Bumlumon ac i Aberystwyth.

Dywedodd Dewi Davies fod angen cyrraedd pobl y tu hwnt i "gymuned draddodiadol" y Ffermwyr Ifanc
Mae Dewi – sy'n aelod o Glwb Llanddeiniol yng Ngheredigion - ar fin cwblhau ei flwyddyn fel cadeirydd, a bydd yn rhoi'r gorau i'r swydd yn y cyfarfod blynyddol yng Nghaerdydd ym mis Medi.
Mae'n dweud iddo gael blwyddyn o brofiadau anhygoel, a bod dal y swydd wedi bod yn fraint.
Ond mae 'na heriau yn parhau, meddai: "Yr her fwyaf bob tro yw hyrwyddo'r gwaith ni'n ei 'neud.
"Mae pobl o fewn cylch y Ffermwyr Ifanc yn gwybod am y gwaith ni yn ei 'neud, ond ni angen cael y neges 'na allan i'r gymuned yn ehangach."
'Mwynhau'r profiad a chael hwyl'
Ychwanegodd Dewi fod angen "cyrraedd pobl y tu hwnt i'r gymuned draddodiadol oherwydd ni nawr yn fudiad ar gyfer ieuenctid Cymru i gyd".
Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur, meddai Dewi, ond dywedodd bod cynrychioli'r mudiad yn "fraint" a bod gan y mudiad gymaint i'w gynnig.
"Mwynhau'r profiad, ma' fe'n gyfle unigryw - fyddwn i'n annog unrhyw un i wneud y gorau o'r cyfleoedd sy'n dod ar eu traws nhw," meddai.
Mae'n edrych ymlaen at "gael hwyl" yn ystod yr her – sef un o'r pethau mwyaf pwysig am Ffermwyr Ifanc, meddai.
Gwrandewch ar y cyfweliad llawn ar y Post Prynhawn ar BBC Radio Cymru am 17:00 ddydd Llun.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2024