Hyfforddi ffermwyr ifanc er mwyn delio â stigma iechyd meddwl

Elin Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Elin Lewis, sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant ei hun, yn dweud y byddai'n annog unrhyw un i wneud yr un fath

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen y Samariaid wedi lansio ymgyrch i hyfforddi pobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru i allu helpu ei hunain a phobl eraill wrth ddelio â phroblemau iechyd meddwl.

Pwrpas cynllun 'Ein ffermio, ein dyfodol' ydy rhannu sgiliau, gwybodaeth, a hyder gydag aelodau clybiau ffermwyr ifanc Cymru "i helpu i dorri cylch risg hunanladdiad mewn cymunedau cefn gwlad".

Mae'r Samariaid yn gobeithio hyfforddi mwy na 100 o bobl ifanc ar hyd y wlad i fod yn Hyrwyddwyr Ffermio'r Dyfodol eleni.

Dywedodd cyn-gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru fod trafodaethau ynglŷn ag iechyd meddwl yng nghefn gwlad wedi "dod yn ei flaen yn sylweddol" ond bod "dipyn o waith i'w wneud" o hyd.

Nod y cynllun, yn ôl Sian Vaughan Jones o Samaritans Cymru, yw cyrraedd pwynt lle bydd unigolion sydd wedi cael hyfforddiant ym maes iechyd meddwl mewn cymunedau ledled Cymru.

"Yn draddodiadol dydi ffermwyr ddim yn bobl sy'n estyn allan am gymorth, mae pobl ifanc dyddiau yma yn well, ond y mwya' o wybodaeth maen nhw'n ei gael a'r mwya' maen nhw'n ei wybod am y gwahanol bobl sydd o gwmpas i'r helpu nhw, y gorau," meddai.

"Mae gymaint o ffactorau [sy'n effeithio ar iechyd meddwl ffermwyr] - y tywydd, mae'n gallu bod yn fywyd eithaf unig yng nghefn gwlad... polisïau, prisiau'r farchnad.

"Mae 'na gymaint o bethau sydd wir yn cael effaith ar sut maen nhw'n teimlo, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n gallu estyn allan pan maen nhw angen yr help."

Sian Vaughan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae hyfforddiant di-dâl ar gael i aelodau Clybiau Ffermwyr Ifanc a cholegau amaethyddol, meddai Sian Vaughan Jones

Un sydd wedi derbyn yr hyfforddiant gan Samariaid Cymru yw Elin Lewis o sir Drefaldwyn.

"Ro'n i bach yn apprehensive i ddechrau y byddai'r cwrs yn rhywbeth trwm iawn, ond byddwn i'n annog unrhyw un i'w wneud e.

"Dwi yno i drio sylwi ar unrhyw arwyddion bod rhywun yn stryglo gydag iechyd meddwl, ac i gynnig cymorth os mae rhywun ei angen o."

Dywedodd y byddai'n hoffi gweld newid yn y ffordd mae ffermwyr yn trafod iechyd meddwl.

"Ma' iechyd meddwl ffermwyr yn cael mwy a mwy o sylw yn ddiweddar ac mae hynny'n ffantastig... ond dwi'n meddwl bo' ni'n siarad lot am iechyd meddwl mewn ffordd negyddol.

"Dwi'n meddwl bod angen fflipio'r sgwrs a siarad mwy am mental well-being a sut i edrych ar ôl ein hunain."

'Stigma ynglŷn â stopio'

Ychwanegodd Elin nad oes un ateb i bawb, a bod angen cynnig cymorth gwahanol yn ôl yr angen.

"Dwi'n dod i'r sgwrs fel merch, ond wyrach fod bechgyn yn gweld hi'n anoddach siarad am iechyd meddwl.

"Gyda phethau fel mynd lawr i'r pub i gael chat, a neud y pethau ma' nhw eisiau - fan yna mae dechrau efo'r bechgyn, dim gorfodi nhw i siarad am bethau.

"Dwi hefyd yn meddwl bod 'na lot o stigma yn y gymuned ffermio ynglŷn â stopio.

"Dwi'n meddwl weithiau bod nifer yn teimlo fel bod angen caniatâd i stopio a gwneud rhywbeth iddyn nhw ei hunain. Mae'n well stopio rŵan tra bod popeth yn iawn, na lawr y lein pan ma' nhw wir angen help."

Rhys Richards
Disgrifiad o’r llun,

Mae hi'n bwysig fod y cyhoedd yn gyffredinol yn deall y pwysau sy'n wynebu ffermwyr, yn ôl Rhys Richards

Mae cynnydd wedi ei wneud wrth drafod iechyd meddwl yng nghefn gwlad yn ddiweddar, yn ôl cyn-gadeirydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Rhys Richards.

"'Da ni 'di dod camau aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf, efo elusennau'n gweithion ofnadwy o galed... ond dwi'n meddwl bod 'na dal dipyn o waith i neud yn ein cymunedau ni.

"Mae angen pethau i gael ffermwyr i ddod at ei gilydd. Mae cae'r sêl yn hanfodol bwysig... Ma' 'na bethau fel merched y wawr a ffermwyr ifanc, ond pam ddim cymdeithasau ar gyfer ffermwyr bach hŷn i dynnu nhw at ei gilydd am baned a sgwrs a ballu?"

Ychwanegodd ei fod yn credu ei bod hi'n bwysig addysgu'r cyhoedd ynglŷn â natur gwaith amaethwyr, er mwyn "torri'r stigma ac adeiladu pontydd" rhwng cymunedau cefn gwlad a'r cyhoedd yn ehangach.