Paratoi i arwain Eden a'r Gerddorfa
- Cyhoeddwyd
O Fand Pres Llareggub i arwain Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, mae Owain Roberts yn hen gyfarwydd â cherddoriaeth amrywiol, a llawer o offerynnau!
Y prosiect diweddaraf mae’n ei arwain yw cyngerdd arbennig yn Pontio, Bangor efo neb llai nag Eden ar gyfer BBC Radio Cymru. Fo sydd wedi trefnu’r gerddoriaeth i’r gerddorfa. Cafodd Cymru Fyw sgwrs efo Owain cyn y cyngerdd mawr.
Pa bryd ’nes di ddechrau ymddiddori mewn cerddoriaeth?
Dwi cofio mynd efo Dad i bigo fyny fy mrawd mawr o ymarfer band pres Porthaethwy a jyst disgyn mewn cariad gyda sain grŵp mawr o gerddorion mewn ystafell.
Fel llawer o Gymry eraill, ges i gyfleoedd cerddorol arbennig yn yr ysgol gydag eisteddfodau a ballu ond dwi’n gweld fy hun yn dipyn o late developer mewn sawl ffordd gan dim ond yn fy arddegau hwyr nes i fynd yn hollol obsessed gyda cherddoriaeth.
Beth wnaeth dy ddenu at gerddoriaeth gerddorfaol?
Mae cerddoriaeth gerddorfaol fel rhywfath o binacl cerddorol mewn sawl ffordd, ond fel bachgen ifanc mae’n siŵr mai sain ffilmiau fel Star Wars ac Indiana Jones gyda thraciau sain anhygoel John Williams ’naeth ddangos imi botensial a phŵer cerddoriaeth gerddorfaol.
Mae’r palette lliwiau y mae cerddorfa yn ei gynnig yn hynod ddeniadol a chyffrous a dwi’n credu fod gan y gerddorfa le arbennig yng nghalonnau cynulleidfaoedd.
Sut fyddi di’n mynd ati i drefnu cân gyfoes neu gân bop ar gyfer cerddorfa?
Mae trefnu unrhyw ddarn yn gofyn i mi adnabod y gerddoriaeth yn drylwyr, sy’n golygu gwrando lot ar y traciau ac yn aml mynd i’r gwely yn eu canu nhw yn fy mhen! Ond dwi bob tro yn dechrau bob prosiect gyda’r teimlad ’mod i heb ddim clem lle i ddechrau...
Oes cyfyngiadau?
Dwi wedi bod yn lwcus i gael gweithio ar amrywiaeth o brosiectau yn y gorffennol – o gerddoriaeth bop, lladin-americanaidd, roc trwm, gwerin, cerdd dant ayyb.
Mae’r arddull cerddorol, costau, maint y gerddorfa, y lleoliad, amser, a chyfyngiadau niferus eraill yn aml yn siapio project. Ond yn aml, mae cael y cyfyngiadau yma yn adio i’r elfen greadigol mewn rhyw ffordd ac yn aml gwneud y prosiect yn unigryw.
Oes yna fath penodol o gân bop sy’n gweithio’n well gyda cherddorfa?
Yn y gorffennol, dwi’n ffeindio bod cerddoriaeth syml sy’n ailadroddus yn gofyn lot mwy oddi wrtha’ i o ran fy ochr greadigol ac weithiau mae swydd felly yn troi yn fwy o job gyfansoddi yn hytrach na threfnu cerddoriaeth.
Mae cerddoriaeth pync a dawns yn aml yn gofyn i mi gyfansoddi adrannau cyfangwbl newydd er mwyn adio diddordeb i’r hyn sy’n digwydd. Dwi wrth fy modd gallu adio i ganeuon a bob tro yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol gyda’r gerddoriaeth.
Rwyt ti’n perfformio cerddoriaeth dy hun hefyd, sut mae hynny’n cymharu â threfnu cerddoriaeth ac arwain cerddorfa?
Dwi’n teimlo mymryn o bwysau arna’ i pan dwi’n trefnu cerddoriaeth pobl eraill – dwi eisiau iddynt fod yn hapus gyda sut dwi wedi siapio’u caneuon.
Mae’r gerddoriaeth yn aml yn hynod bersonol iddyn nhw felly dwi angen bod yn ofalus ’mod i ddim yn ’neud smonach o’u caneuon! Ond mae pobl hefyd yn disgwyl clywed rhywbeth newydd, felly mae angen dod o hyd i’r cydbwysedd.
Dwi fwyaf cartrefol yn creu cerddoriaeth yn hytrach na’i berfformio – mae perfformio yn ail bob tro i’r creu ac yn rhyw fath o necessary evil i fi mewn sawl ffordd.
Y mantais o gael arwain ydi mod i’n cael cyfle i siapio’r deunydd dwi wedi ei greu a dwi’n mwynhau hynny yn fawr.
Ti wedi gweithio gyda llawer o gerddorion dros y blynyddoedd, sut oedd o’n teimlo mynd i’r afael â chaneuon mor eiconig â rhai Eden?
Wel, yn gyntaf dwi’n teimlo’n hynod lwcus bob tro dwi’n cael gweithio efo’r gerddorfa!
Ond mae o’n bonws pan mae’r grŵp mor dalentog, proffesiynol a lyfli ag Eden! Ac ar ben hynny mae ganddyn nhw gatalog o ganeuon penigamp sy’n llawn amrywiaeth. Fedra’ i’m gofyn am fwy rili. Biti mai dim ond un perfformiad fydd.
Bydd cyngerdd Eden a'r Gerddorfa yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Cymru 2 am 11:00 fore dydd Gwener, 29 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2024
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019