Mared Jarman: Drama sy'n pryfocio ablaeth
- Cyhoeddwyd
"Mae'r darn yma'n agos iawn i 'nghalon i. Mae'n pryfocio pobl ond mae hwnna yna yn bwrpasol. Fi ddim yn credu bod pwynt gwneud rhywbeth os ydi e'n saff."
Dyna obaith y dramodydd a'r actores Mared Jarman ar drothwy taith ei drama newydd sy'n gynhyrchiad gan Theatr Cymru, Byth Bythoedd Amen.
Yn ôl Mared, mae'n ddrama ddinesig a doniol "am gariad, colled a bywyd fel pobl ifanc anabl mewn byd sy'n blaenoriaethu'r brif ffrwd."
Mared sydd hefyd yn chwarae rhan prif gymeriad y ddrama sef Lottie. Ac mae Mared fel Lottie yn ddall, a'n byw gydag anabledd cudd.
'Pobl anabl yn cael eu hanwybyddu'
Yn ystod y cyfnod clo sylweddolodd Mared fod pobl anabl yn cael eu hanwybyddu, a dyna sbardunodd y syniad.
Eglura Mared: "Nath y pandemig newid y byd wrth gwrs ond oedd e hefyd yn gyfnod rhyfedd i bobl anabl.
"I fi'n bersonol o'n i'n teimlo bach o ryddhad fod pobl yn deall sut mae pobl anabl yn teimlo o'r diwedd ond oedd e hefyd yn straen - roedd population enfawr o'r bobl oedd yn marw o Covid yn anabl.
"I lot o bobl anabl ni mewn constant cyfnod clo. Hefyd oedd yna lot o straen arnon ni – roedd pobl anabl yn cael Do-Not-Resuscitate (DNR) order hyd yn oed os oedden nhw'n mynd i mewn i'r ysbyty am rywbeth ddim byd i 'neud efo Covid so oedd e'n gyfnod tywyll iawn. Oedd e'n teimlo fel esgus i bobl anghofio am bobl anabl. Oedd hynna yn 'neud i fi deimlo yn rili grac.
"O'n i hefyd yn mynd trwy gyfnod anodd, o'n i yn coleg drama ar y pryd ag oedd y coleg yn trio penderfynu os oedden ni'n gallu mynd 'nôl i weithio ai peidio.
"Bryd hynny wnes i rili teimlo'r straen rhwng y pobl abl oedd yn fwy na parod i fynd yn ôl i weithio. Dwi'n meddwl oedd hwna yn adlewyrchiad o sut oedd y gymuned, a sut mae pobl anabl yn cael eu gadael ar ôl."
Herio ablaeth
Er nad yw Byth Bythoedd Amen wedi ei hamseru yng nghyfnod y pandemig, ysgogodd y cyfnod i Mared archwilio effaith ablaeth ar gymdeithas trwy ddatblygu ei chymeriadau Lottie a Bennie.
"Rhywbeth oedd yn bwysig i fi oedd trafod internalized ableism sef pan mae person anabl yn credu pethau negyddol amdan ei hun achos ein bod ni'n byw mewn cymdeithas lle mae ableism yn bod.
"O'n i isie trio dangos hwnna mewn ffordd oedd yn teimlo yn real ar un law, ond hefyd i bobl sydd heb brofi hwnna, i geisio deall e, a gweld e.
"Mae gan Lottie anabledd cudd, mae hi'n ddall ond y cwestiwn gyda hi ydy, ydy e'n gudd neu ai hi sy'n ceisio cadw fe'n gudd. A wedyn gyda Bennie, doedd dim ots 'da fi beth oedd ei anabledd e o gwbl ond o'n i'n meddwl fod e'n bwysig fod e'n anabledd ti'n gallu gweld, felly does gan Bennie ddim llaw chwith."
Mae Mared hefyd yn pwysleisio mai rhoi llais i brofiadau dynol sy'n gyffredin i bawb y mae hi yn y ddrama:
"O'n i rili isio dangos y profiad bywyd yna a rhoi platfform i gymeriadau anabl sydd yn flêr, sydd yn rhywiol ac yn mynd trwy galar a sydd ddim yn berffaith. Ma'e en brofiad dynol. Does dim ots fod e am anabledd, fi'n gobeithio fod en rwbeth mae pawb yn gallu cydnabod a chydymdeimlo gyda a deall."
Cyfleoedd i ddramodwyr anabl
Fel dynes ifanc o Gaerdydd sy'n ddall, mae llawer o debygrwydd rhwng cymeriad Lottie a Mared er nad yw'n hunangofiant o unrhyw fath.
"Fi o hyd yn sgwennu o le amrwd, ac o le onest. Mae hynny yn bwysig i fi. Nid pawb sydd yn profi y byd yn yr un ffordd," meddai.
"Wrth gwrs fi yn sgwennu cymeriadau fi'n dwlu arno ac yn dwlu chwarae. Hefyd mae e'n ddrama ddinesig, mae Lottie'n dod o Gaerdydd. Mae e'n ffitio yn fy ngheg i. Dwi'n dwlu ar allu defnyddio Cymraeg sy'n teimlo fel fy Nghymraeg i."
Yn sgil canslo'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf y llynedd, mae llawer o drafodaethau wedi bod ynghylch cynrychiolaeth yn y theatr.
Fel un sy'n ysgrifennu o'i phrofiadau ei hun, beth yw safbwynt Mared ar gynrychioli pobl anabl mewn dramâu?
"Mae'n rili bwysig bo' ni'n clywed y llais authentic cyn bo' ni hyd yn oed yn meddwl dechre ysgrifennu ar ran pobl eraill. Fi'n meddwl bod digon o bethe i ni ysgrifennu amdano yn y byd heb orfod dwyn lleisiau pobl eraill.
"Fi'n meddwl bod y cyfleoedd i 'sgwennwyr anabl wedi gwella," meddai Mared a gafodd fwrseri gan Theatr Cymru i ddatblygu Byth Bythoedd Amen.
"Fi hefyd yn teimlo dyletswydd fel person anabl sydd yn cael y cyfleoedd yma, bo' fi'n neud yn siŵr bo' fi'n cadw'r drws ar agor i bobl eraill."
Cynhyrchiad sy'n croesawu pawb
Tra bydd Byth Bythoedd Amen yn teithio Cymru dros yr wythnosau nesaf, o Theatr y Sherman yng Nghaerdydd i'r Galeri yng Nghaernarfon, rhan fawr o weledigaeth Mared a Theatr Cymru i'r cynhyrchiad yw ei wneud yn hygyrch.
Bydd capsiynau a sain-ddisgrifiad ar gael ym mhob perfformiad, a theithiau cyffwrdd dan ofal cyn pob sioe am 18:30.
Mared sy'n egluro'r weledigaeth: "O'n i'n teimlo'n angerddol dros gael sain ddisgrifio ar gyfer pob sioe a chael touch tools ar gyfer pob sioe.
"Achos fel person dall oedd yn hoffi cael sain ddisgrifio gyda sioeau, yn aml iawn mae'r ddarpariaeth yna ddim ond ar gyfer un neu ddwy sioe a fel arfer maen nhw ar adeg lletchwith o'r dydd, felly s'dim lot o ryddid gyda ti i fynd gyda dy ffrindie neu dy deulu.
"Mae gyda ni model box hefyd lle all pobl deimlo'r set cynt. Mae touch tours yn galluogi pobl ddod i mewn i weld y llwyfan a'r set a teimlo fe, siarad gyda Eilir sy'n neud y sain ddisgrifio a chael unrhyw wybodaeth maen nhw ei angen o flaen llaw.
"Ry'n ni isie gwneud yn siŵr bo' ni'n lleihau gymaint o barriers â phosib i bobl a neud i bawb deimlo bo' nhw'n gallu dod i'r theatr.
"Nid y pwynt yw fod pawb yn cael yr un profiad, ond iddyn nhw deimlo bo nhw wedi cael profiad oedd yn llawn ac yn gyffrous a bo' nhw wedi teimlo' stori."
"Hyd yn oed os nad wyt ti'n gallu gweld y cynhyrchiad, mae'r cynhyrchiad yn sensory overload – mae lot o ddawnsio, canu, mae'n lliwgar. Mae gwaith cerddorol Eädyth Crawford yn anhygoel, mae'r set yn biwtiffwl.
"Fel cyfanwaith fi mor browd a fi methu diolch digon i'r talent sydd tu ôl iddo fe."
Cyngor
Beth yw cyngor Mared i bobl anabl eraill sydd eisiau ysgrifennu dramâu?
"Jest i ddechrau 'sgwennu a rhannu'r gwaith yna efo rywun ti'n trystio mor fuan â ti'n gallu er mwyn cael adborth. Gyda adborth, gei di dyfu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd7 Gorffennaf 2020