Teyrngedau gan yr Eglwys wedi gwrthdrawiad angheuol Llandudno

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Stryd Brookes yn Llandudno fore Llun
- Cyhoeddwyd
Mae Archesgob Cymru ymlith y rhai sydd wedi cydymdeimlo ag Esgob Llandaf wedi i'w mam, 89, farw ar ôl cael ei tharo gan lori yn Llandudno fore Llun.
Bu farw Daphne Stallard, mam yr esgob Mary Stallard, ar safle'r digwyddiad am tua 09:00 ar Stryd Brookes.
Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus bellach wedi cael ei ryddhau o dan ymchwiliad yr heddlu.
Yn y cyfamser mae'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau eu bod hwythau yn cynnal ymchwiliad i'r digwyddiad.

Mary Stallard yw Esgob Llandaf ers 2023
Fe gafodd Mary Stallard ei hethol yn Esgob Llandaf yn 2023.
Mewn datganiad, dywedodd Archesgob Cymru, Cherry Vann: "Gyda'r sioc a'r tristwch dwysaf y clywais am farwolaeth drasig mam yr Esgob Mary, Daphne.
"Gwn y bydd holl aelodau'r Eglwys yng Nghymru, a phawb sy'n adnabod yr Esgob Mary, yn ymuno â mi i gynnig eu cydymdeimlad diffuant a'u gweddïau drosti hi a'i theulu yn yr adeg hynod boenus hon."
'Cynorthwy-ydd rheolaidd yn yr eglwys'
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol dywedodd Eglwys Iau'r Drindod Sanctaidd yn Llandudno bod Ms Stallard yn helpu'n "rheolaidd" gyda gweithgareddau'r eglwys.
"Bydd llawer ohonoch wedi gweld yr adroddiad am farwolaeth menyw leol 89 oed a gafodd ei tharo gan lori ailgylchu.
"Mae'n ddrwg gennym nodi mai'r dioddefwr oedd Daphne Stallard, cynorthwy-ydd rheolaidd yn yr Eglwys Iau."
Mewn neges arall, fe wnaeth Eglwys yr Atgyfodiad yn Nhrelái gyhoeddi neges yn cydymdeimlo â theulu Daphne Stallard.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf â'r Esgob Mary ar farwolaeth ei mam."
- Cyhoeddwyd8 awr yn ôl
Mewn datganiad, mae Cyngor Conwy wedi cadarnhau bod cerbyd ailgylchu wedi bod yn rhan o wrthdrawiad angheuol yn Llandudno fore Llun.
Ychwanegodd y datganiad bod y cyngor yn cydymdeimlo gyda theulu a ffrindiau'r ddynes fu farw yn ystod y cyfnod anodd hwn a bod yr awdurdod yn cynorthwyo ymholiadau'r heddlu.
Wrth apelio am dystion, dywedodd y Sarjant Duncan Logan o Heddlu'r Gogledd fod perthnasau agosaf y ddynes wedi cael gwybod a'u bod yn derbyn cefnogaeth gan swyddogion.
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn fawr gyda nhw yn ystod yr amser anodd hwn," ychwanegodd.