Prifysgol yn bwrw 'mlaen â chynllun dadleuol i symud cyrsiau

Campws Llanbedr Pont SteffanFfynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y coleg yn Llanbedr Pont Steffan ei sefydlu yn 1822

  • Cyhoeddwyd

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi cadarnhau y byddan nhw'n dod â chyrsiau israddedig ar eu safle yn Llanbedr Pont Steffan i ben, a'u symud i Gaerfyrddin.

Ers i'r cynllun ddod i'r amlwg ym mis Tachwedd, mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr campws prifysgol Llambed wedi protestio yn erbyn hynny.

Mewn datganiad brynhawn Iau, dywedodd y brifysgol eu bod wedi cymeradwyo cynnig i adleoli eu darpariaeth Dyniaethau o Lanbedr Pont Steffan i Gaerfyrddin o fis Medi 2025.

Ychwanegodd llefarydd y bydd hynny'n "rhoi gwell mynediad i fyfyrwyr at wasanaethau a fyddai'n cefnogi eu profiad yn y brifysgol ac, yn caniatáu i'r Dyniaethau ffynnu mewn amgylchedd mwy rhyngddisgyblaethol".

Ond yn ôl yr Aelod Seneddol lleol, Ben Lake, mae'r penderfyniad yn "ergyd drom" i Lambed ac mae'r gymuned leol "yn haeddu atebion clir".

Ddydd Mawrth, daeth tua 80 o bobl ynghyd y tu allan i ddrysau'r Senedd i ddangos eu gwrthwynebiad.

Yn ôl ymgyrchwyr, byddai dod â chyrsiau israddedig i ben yn ergyd sylweddol nid yn unig i addysg yng Nghymru – gyda'r campws bellach yn cael ei ddefnyddio ers dros 200 mlynedd – ond i dref Llambed ei hun.

Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi bod yn ystyried y cynnig "o ystyried y ffaith bod nifer y myfyrwyr sy'n astudio'n llawn amser ar gampws Llambed yn lleihau".

'Bywyd newydd i'r campws'

Mewn datganiad ddydd Iau, ychwanegodd llefarydd: "Mae'r Brifysgol wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau rheolaidd â myfyrwyr a staff i wrando ar eu hymatebion i'r cynnig ac wedi cynnal ymgynghoriad ffurfiol gydag undebau llafur a staff yr effeithir arnynt.

"Cynhaliwyd trafodaethau hefyd gyda rhanddeiliaid allanol sy'n cynrychioli buddiannau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol."

Dywedodd llefarydd y byddan nhw'n "cychwyn ar y paratoadau a'r ystyriaethau ymarferol, fel y gall hwyluso'r broses bontio esmwyth fydd yn galluogi'r Dyniaethau i gychwyn y flwyddyn academaidd yn eu cartref newydd yng Nghaerfyrddin ym mis Medi 2025".

"Mae campws Llambed yn bwysig iawn i'r Brifysgol. Bydd mecanwaith yn cael ei sefydlu lle gall rhanddeiliaid fod yn rhan o gynigion ar gyfer ystod o weithgareddau economaidd, hyfyw sy'n gysylltiedig ag addysg a fydd yn dod â bywyd newydd, cynaliadwy i'r campws."

Protestwyr y tu allan o'r Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 80 o bobl yn y brotest y tu allan i adeilad y Senedd ddydd Mawrth

Yn 2010 cafodd Prifysgol Cymru Llambed, fel oedd hi'n cael ei hadnabod gynt, ei chyfuno'n swyddogol gyda Choleg y Drindod yng Nghaerfyrddin i greu'r sefydliad presennol, PCDDS.

Bellach mae gan y brifysgol dri phrif gampws yng Nghymru – Caerfyrddin, Abertawe a Llambed – yn ogystal â lleoliadau ychwanegol yn Llundain, Birmingham a Chaerdydd.

'Trist eithriadol'

Mae penderfyniad y brifysgol "yn gwbl siomedig", yn ôl Cymeithas Llambed, oedd yn gwrthwynebu'r newid.

"Rydym yn drist eithriadol ar ran myfyrwyr sydd yn Llamed ar hyn o bryd fydd nawr yn gorfod gadael Llambed a darfod eu hastudiaethau rywle arall," dywedodd.

Dywed y Gymdeithas bod "cefnogaeth enfawr" o fewn y dref i'w hymgyrch wedi eu calonogi, a'u bod yn bwriadu "parhau i weithio'n ddiflino i sicrhau dyfodol i Lambed sydd o fudd i'r Brifysgol a'r dref".

Ychwanegodd eu bod "yn barod i weithio gyda rheolwyr y Brifysgol" a chyrff eraill yn hynny o beth.

Ben Lake yn annerch Tŷ'r CyffredinFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad yn "ergyd drom" i dref Llambed, medd yr AS Plaid Cymru Ban Lake

Dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake, fod y penderfyniad yn "ergyd drom" i Lambed.

"Mae'r brifysgol wedi bod wrth galon hunaniaeth a chymuned Llambed ers dros 200 mlynedd, a bydd y newid hwn yn effeithio'n fawr ar y dref a'i phobl," meddai.

"Er fy mod yn deall y pwysau ariannol ar brifysgolion, mae gan Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ddyletswydd i egluro sut y maent yn bwriadu sicrhau dyfodol i'r campws.

"Mae'r gymuned yn haeddu atebion clir ac ymrwymiad gwirioneddol i gadw addysg uwch yn Llambed.

"Nid mater o gadw cyrsiau yn unig yw hyn, ond mater o gadw conglfaen i'n tref.

"Rwy'n annog y Brifysgol i gydweithio gyda'r gymuned i sicrhau na fydd Llambed yn cael ei gadael ar ôl."

Dadansoddiad

Mae'r brifysgol yn mynnu y bydd presenoldeb academaidd yn parhau yn Llambed ond bydd e'n wahanol iawn heb y myfyrwyr.

Dros nifer o flynyddoedd mae'r gweithgareddau craidd ar y campws – y dysgu wyneb yn wyneb – wedi crebachu a gyda hynny y nifer sy'n astudio yno.

Ac felly er bod yr ergyd olaf i gyrsiau israddedig yn dod ar adeg pan mae'r sector gyfan yn wynebu heriau ariannol, mae rhai'n cyhuddo'r brifysgol o adael i'r safle ddirywio'n araf dros ddegawdau.

Mae'r brifysgol yn sôn am brofiad gwell i fyfyrwyr a dyfodol cynaliadwy i'r safle.

Ond mewn ardaloedd eraill yng Nghymru mae yna bryder hefyd am beth allai'r rhybuddion am sefyllfa ariannol addysg uwch olygu i gymunedau.