Trafod cynlluniau am gyrsiau newydd ar gampws prifysgol yn Llambed

Mae'r cyngor sir a'r brifysgol wedi gwadu bod unrhyw fwriad i drosglwyddo'r campws yn Llambed i sefydliad arall
- Cyhoeddwyd
Gall BBC Cymru gadarnhau bod Cyngor Ceredigion a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn edrych ar gynlluniau i ddatblygu cyfleuster hyfforddiant galwedigaethol ar gampws y brifysgol yn Llambed.
Cadarnhaodd y brifysgol ym mis Ionawr y byddai 200 mlynedd o addysgu israddedig yn dod i ben yn Llanbedr Pont Steffan.
Er gwaethaf protestiadau yn y dref ac yn y Senedd, bydd y cyrsiau dyniaethau'n cael eu trosglwyddo i Gaerfyrddin ym mis Medi 2025.
Dywedodd y brifysgol nad oedd cynnal seilwaith campws y brifysgol yn "gynaliadwy" gyda dim ond 92 o fyfyrwyr israddedig.
Ond mae'r brifysgol a'r cyngor sir wedi cadarnhau eu bod nhw yng "nghamau cynnar iawn y broses o ganfod cyfleoedd" i ddatblygu sgiliau a darpariaeth galwedigaethol yn Llambed.
Nid oes unrhyw fanylion wedi cael eu darparu ynghylch pa fath o hyfforddiant fyddai'n cael ei gynnig ar y safle.
Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Geredigion, Elin Jones fod "hyn yn newyddion arbennig".
'Dim campws chweched dosbarth'
Llofnododd bron i 6,000 o bobl ddeiseb yn galw ar y brifysgol i ddarparu "dyfodol cynaliadwy i'r campws hanesyddol" ar ôl cyhoeddi'r cynlluniau i symud addysgu israddedig.
Ers mis Mawrth 2025, mae'r brifysgol wedi bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid lleol, gan gynnwys y cyngor lleol, i drafod "cynigion hyfyw" ar gyfer sicrhau dyfodol y campws.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion ac Emlyn Dole, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, bod y cyngor a'r brifysgol "yng nghamau cynnar iawn y broses o ganfod cyfleoedd i ddatblygu ymhellach ar y ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant galwedigaethol yng Ngheredigion".
"Mae'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd," medden nhw.
"Dyma gyfle cyffrous i archwilio sut y gall Campws y Brifysgol yn Llambed barhau i wneud cyfraniad sylweddol i economi'r ardal a chymuned ehangach Llambed.
"Wrth i'r gwaith hwn fynd yn ei flaen, byddwn yn sicrhau bod y syniadau hyn, yn ogystal â syniadau'r grŵp rhanddeiliaid y mae'r Brifysgol wedi'i gynnull, yn cael eu casglu ynghyd fel y gallwn ni ymgysylltu ymhellach â'r gymuned am ddyfodol campws Llambed."

Roedd protestio y tu allan i adeilad y Senedd ym mis Ionawr
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, ychwanegodd Mr Dole nad oes unrhyw fwriad i drosglwyddo'r campws i sefydliad arall.
"100%, ma' hwnna yn bendant. S'dim bwriad i drosglwyddo," meddai.
"Ni fydd yma, campws ni bydd hwn. Ond [bydd] trafodaeth ynglŷn â cyd-destun beth sy'n bosib ar y campws."
Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies hefyd na fydd y campws yn cael ei ddefnyddio fel campws chweched dosbarth, yn groes i rai o'r sïon sydd wedi bod yn yr ardal.
"Mae 'na dipyn o sylw wedi bod yn y wasg leol am hynny - dyw hwnnw ddim yn rhan o'r drafodaeth," meddai. "Sgiliau ac hyfforddiant galwedigaethol yn unig fydd hwn."

Daeth cyhoeddiad ym mis Ionawr y byddai cyrsiau'r dyniaethau ar gampws Llanbedr Pont Steffan yn cael eu trosglwyddo i Gaerfyrddin
Nid yw'r cyngor na Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi datgelu unrhyw fanylion pellach am y prosiect.
Ond gofynnwyd i aelodau cabinet Ceredigion ar 3 Mehefin i gefnogi prynu "ased strategol" drwy fenthyciad gan Lywodraeth Cymru.
Mae manylion yr ased wedi'u cadw'n gyfrinachol, ac nid yw'n glir a yw hyn yn ymwneud â'r cyhoeddiad am ddarpariaeth galwedigaethol yn Llanbedr Pont Steffan.
Dywedodd adroddiad gafodd ei gyflwyno gan y Cynghorydd Clive Davies, Aelod Cabinet ar gyfer yr Economi, Adfywio a Rheoli Carbon: "Byddai'r ased yn rhan o ddatblygiad ehangach a bydd Asesiad Effaith llawn yn cael ei lunio a'i ystyried ar ei gyfer."

Dywedodd Elin Jones fod "hyn yn newyddion arbennig"
Ar ôl i'r manylion gael eu cadw'n breifat, fe benderfynodd aelodau awdurdodi'r gwaith o brynu'r ased, a chytuno y dylid derbyn derbyn adroddiad pellach ar ôl cwblhau'r cytundeb cyfreithiol i brynu'r ased, a hynny i roi rhagor o fanylion i'r cyhoedd ynghylch y caffaeliad yma.
Dywedodd y brifysgol ym mis Tachwedd 2024 fod campws Llambed yn costio £2.7m y flwyddyn i'w redeg a bod costau cynnal a chadw oedd wedi cronni ers amser, ynghyd â chostau cydymffurfio ar gyfer y campws yn £33.5m.
Dywedodd yr Aelod Seneddol dros Geredigion, Elin Jones fod "yna bosibilrwydd real nawr y bydd addysg yn parhau ar gampws Llanbed".
"Addysg galwedigaethol a hyfforddiant i gannoedd o bobol ifanc lleol Ceredigion. Newyddion arbennig o dda i fusnesau a bywyd y dre'."
Ychwanegodd bod "tipyn o waith eto i wneud i drefnu y manylion ar hyn, ond da iawn Cyngor Sir Ceredigion a'r Brifysgol am gael y weledigaeth i gynnig hyn".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd21 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2024