Protestio'n erbyn symud cyrsiau a 'chwalu' prifysgol Llambed

Ymgyrchwyr y tu allan i'r Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 80 o bobl yn y gwrthdystiad y tu allan i adeilad y Senedd ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae myfyrwyr a chyn-fyfyrwyr campws prifysgol Llanbedr Pont Steffan wedi cynnal protest ar risiau'r Senedd yn erbyn cynllun posib i ddod â chyrsiau israddedig ar y safle i ben.

Daeth tua 80 o bobl ynghyd i ddangos gwrthwynebiad i'r posibiliad y gallai Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS) symud cyrsiau dyniaethau o'r campws yn Llanbedr Pont Steffan, i Gaerfyrddin.

Yn ôl ymgyrchwyr, byddai hynny'n ergyd sylweddol nid yn unig i addysg yng Nghymru – gyda'r campws bellach yn cael ei ddefnyddio ers dros 200 mlynedd – ond i dref Llambed ei hun.

Dywedodd y brifysgol eu bod nhw'n parhau i drafod gydag amryw o sefydliadau, a bod "dyfodol ystâd campws Llambed o bwysigrwydd mawr".

Yn 2010 cafodd Prifysgol Cymru Llambed, fel oedd hi'n cael ei hadnabod gynt, ei chyfuno'n swyddogol gyda Choleg y Drindod yng Nghaerfyrddin i greu'r sefydliad presennol, PCDDS.

Bellach mae gan y brifysgol dri phrif gampws yng Nghymru – Caerfyrddin, Abertawe a Llambed – yn ogystal â lleoliadau ychwanegol yn Llundain, Birmingham a Chaerdydd.

Fis diwethaf, cafodd protest ei chynnal yn Llambed yn erbyn bwriad PCDDS i symud eu holl gyrsiau israddedig i Gaerfyrddin erbyn mis Medi.

Yn ôl ymgyrchwyr, sydd eisoes wedi casglu 5,000 o lofnodion ar ddeiseb yn gwrthwynebu'r cynlluniau, byddai'r cam yn "bradychu diwylliant Cymru".

Disgrifiad o’r llun,

Byddai cynlluniau'r brifysgol yn cael effaith ddinistriol ar y gymuned leol, meddai Esther Weller

"Byddai cau campws Llambed yn dod â 200 mlynedd o addysg uwch, yn y sefydliad hynaf o'i fath yng Nghymru, i ben," meddai Esther Weller, trefnydd yr ymgyrch.

"Gyda dim myfyrwyr ac ychydig iawn o staff ar y campws, byddai hefyd yn cael effaith ddinistriol ar y gymuned leol ac yn ehangach."

'Chwalu' hanes ac ethos

Dywedodd Aelod Senedd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price, mai'r gobaith oedd y byddai'r brifysgol yn oedi unrhyw benderfyniad am o leiaf blwyddyn arall.

"Beth ry'n ni'n gofyn yw i'r brifysgol eistedd rownd y ford gyda ni, i ddod lan gyda chynllun amgen sydd yn osgoi cau'r campws yn Llambed," meddai.

"Dy'n ni ddim yn dweud bod rhaid i bopeth aros yr un fath, ond mae 'na syniadau allen nhw roi ar y ford allai roi sylfaen hyfyw ar gyfer y dyfodol.

"Unwaith 'dych chi'n cau'r campws, mae 'di mynd, a'r holl hanes ac ethos a'r cyfle ar gyfer y dyfodol wedi ei chwalu.

"Mae 'na etholiad mewn blwyddyn – falle bydd 'na newid polisi fydd wedyn yn newid y fframwaith cyllidol ar gyfer y prifysgolion i gyd."

Disgrifiad o’r llun,

Nid mater lleol yw dyfodol y brifysgol, yn ôl Ellis Williams-Huw, mae'n "broblem i Gymru gyfan"

Roedd Ellis Williams-Huw, myfyriwr israddedig mewn Athroniaeth ar y campws, yn cydnabod ei bod hi'n anodd ar brifysgolion yn ariannol, ond yn mynnu nad oedd PCDDS wedi ystyried eu hopsiynau yn llawn.

"Mae 'na rywbeth arbennig ac unigryw am Lambed," meddai.

"Chi methu ail-greu manteision Llambed, a'i symud e mewn i dref arall.

"Dydi hwn ddim jyst yn broblem leol rhwng Llambed a Chaerfyrddin, yn fy marn i. Mae'n broblem i Gymru gyfan, ac addysg uwch yng Nghymru."

'Gwrando, deall, ystyried'

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol bod eu "deialog gyda rhanddeiliaid allweddol" yn parhau.

"Mae'r rhain yn cynnwys sgyrsiau rheolaidd gyda'n staff a'n myfyrwyr yn ogystal â chynrychiolwyr o'n hundebau llafur cydnabyddedig, undeb myfyrwyr, Cymdeithas Llambed, Cyngor Tref Llambed, Cyngor Sir Ceredigion, gwleidyddion lleol, a llywodraethau Cymru a'r DU.

"Mae'r rhain yn gyfleoedd hanfodol i wrando ar adborth, deall pryderon ac ystyried materion yn weithredol.

"Mae dyfodol ystâd campws Llambed o bwysigrwydd mawr ac os byddwn yn bwrw ymlaen â'n cynigion byddai angen ymgynghori ymhellach ag ystod o randdeiliaid o'r gymuned leol yn ogystal â'r llywodraeth ac eraill sydd â diddordeb.

"Byddem yn gobeithio cael amrywiaeth o gynigion y gellir eu gwerthuso i nodi'r rhai a fyddai'n darparu dyfodol llwyddiannus ac economaidd gynaliadwy iddo."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod bod prifysgolion Cymru dan bwysau ariannol sylweddol.

"Mae Medr yn parhau i fonitro sefyllfa ariannol ein prifysgolion yn agos, ac mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yn cyfarfod â Medr ac arweinwyr prifysgolion yn rheolaidd."