Clybiau Cymru yn Ewrop - oes gobaith creu argraff?
- Cyhoeddwyd
Bydd pedwar o glybiau pêl-droed Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn Ewrop yr wythnos hon - gan obeithio gallu goroesi y tu hwnt i'r rownd ragbrofol gyntaf.
Mae'r Seintiau Newydd a Chei Connah yn hen gyfarwydd gyda chystadlu ar y lefel hwn, tra bod Penybont a Hwlffordd yn troedio tir newydd.
Ond pa obaith sydd gan dimau'r Cymru Premier, ac oes gobaith o weld unrhyw un ohonyn nhw'n cyrraedd grwpiau un o'r prif gystadlaethau yn fuan?
Cyn-ymosodwr Cymru a sylwebydd Sgorio, Malcolm Allen, sy'n asesu eu gobeithion.
'Wedi clywed hyn o'r blaen'
Mae'r wobr ariannol yn un sylweddol i'r clybiau, gydag o leiaf €250,000 yr un am gystadlu, ac o leiaf €300,000 yn ychwanegol am bob rownd maen nhw'n ennill.
Bydd y Seintiau Newydd yn dechrau eu hymgyrch yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fercher, tra bod y tri thîm arall yn chwarae yng Nghyngres Europa nos Iau.
Ond does dim un clwb o Uwch Gynghrair Gymru erioed wedi llwyddo i fynd drwy'r holl rowndiau rhagbrofol mewn cystadleuaeth Ewropeaidd ers iddyn nhw ddechrau cystadlu yn 1993.
Serch hynny, gyda thair haen o gystadleuaeth erbyn hyn, mae gwell siawns o wneud hynny.
A'r wythnos hon fe wnaeth rheolwr Y Seintiau Newydd, Craig Harrison, bwysleisio eto mai dyna nod y clwb o fewn y pum mlynedd nesaf.
"Mae UEFA yn trio'u gorau i'w wneud o’n realistig!" meddai Malcolm Allen, fydd yn rhan o griw darlledu Sgorio ar S4C ar gyfer rhai o'r gemau.
"Ond dwi'n cofio'r Seintiau yn d'eud hyn pum mlynedd yn ôl hefyd.
"I fi, ac i Uwch Gynghrair Cymru, be 'sa ni’n licio ydi bod y Seintiau Newydd yn creu argraff blwyddyn yma.
"Ac os nad yn y gemau cynta' 'ma, yn sicr wrth ddisgyn lawr i'r Europa, ac wedyn chwarae yn erbyn gwledydd lle mae'r timau o'r un safon â ni."
Y broblem i'r Seintiau, meddai Malcolm Allen, yw bod eu gwrthwynebwyr yn y rownd ragbrofol gyntaf yn llawer cryfach ar bapur.
"Maen nhw'n chwarae BK Häcken o Sweden, sydd 14 gêm i mewn i’r gynghrair yn barod, sydd bob tro yn anodd i ni oherwydd 'dan ni 'mond 'di cael un neu ddau o gemau cyfeillgar," meddai.
"Ond hon ydi'r linell fesur i fi.
"'Naethon ni weld beth ddigwyddodd i Anthony Limbrick [gafodd ei ddiswyddo] ar ôl iddyn nhw fynd allan yn y rownd gyntaf tymor dwytha'.
"'Di o ddim yn mynd i ddigwydd tymor hyn, oherwydd un peth mae Craig Harrison wedi dod yn ôl ydi’r meddylfryd digyfaddawd 'na i ennill gemau."
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2023
Yn wahanol i'r Seintiau, mae gan BK Häcken garfan llawn chwaraewyr rhyngwladol, ac mae eu hymosodwr Bénie Traoré wedi ei gysylltu gyda Chaerlŷr.
"Pan mae'r Seintiau Newydd 'di wynebu chwaraewyr fel hyn yn y gorffennol dydyn nhw ddim 'di 'neud yn dda iawn," meddai Allen.
"Ond un gwahaniaeth ydi Craig Harrison – mae o'n yn sicr wedi cael nhw'n barod.
"Mae o 'di cael y teimlad a'r emosiwn yna 'nôl bod nhw’n casáu colli.
"Mae ganddyn nhw chwaraewyr ac unigolion sy'n gallu ennill gêm, goliau ym mhob man, a chwaraewyr sydd efo profiad mewn gemau fel hyn.
"Fydd hon ddim mor hawdd ag y mae Häcken yn ei feddwl."
Gobaith gwirioneddol i ddau?
Yng Nghyngres Europa, y gystadleuaeth drydedd haen, fydd y tri chlwb arall yn cystadlu - ond mae hynny hefyd yn golygu gwrthwynebwyr haws.
KA Akureyri o Wlad yr Iâ fydd gwrthwynebwyr Cei Connah - tîm sydd wedi colli saith o'u 14 gêm gynghrair yn barod eleni.
"Dwi yn gweld Cei Connah yn mynd drwyddo yn hon," meddai Allen.
"Dros y ddwy gêm, dwi’n edrych ymlaen jyst i weld sut maen nhw'n mynd i chwarae dan Neil Gibson tymor hyn.
"Mae ganddyn nhw dîm cryf, chwaraewyr profiadol – ond maen nhw angen egni o rywle.
"Maen nhw’n dîm uniongyrchol, brwydro am bob bêl gyntaf, yr ail bêl, yn eu gwynebau nhw.
"Fydd KA ddim 'di dod yn erbyn tîm fel Cei Connah o'r blaen."
Mae'r sylwebydd hefyd yn hyderus fod gan Benybont obaith yn erbyn FC Santa Coloma o Andorra, er mai dyma drip cyntaf y clwb yn Ewrop.
"Fydd Rhys Griffiths [y rheolwr] yn barod am unrhyw beth sy’n dod ei ffordd o," meddai.
"Maen nhw'n dîm ffit, llawn egni. Mae o’n cael gafael ar chwaraewyr ifanc a'u mowldio nhw mewn i'w system o."
Ar ôl gorffen yn drydydd yn y Cymru Premier y tymor diwethaf - eu safle uchaf erioed - mae Malcolm Allen hefyd yn gweld Penybont fel clwb sydd "ar y ffordd i fyny".
"Dim diffyg parch i Santa Coloma, ond bydd hon yn agos," meddai.
"Ella gêm gyfartal, a Phenybont wedyn yn mynd â hi o un gôl, a bysa Rhys wrth ei fodd.
"Mwy o bres wedyn [yn y rownd nesaf], buddsoddi eto am chwaraewyr cryfach, ac ella mynd yn llawn amser a chystadlu am y gynghrair mewn rhyw flwyddyn neu ddwy."
'Wastad un yn cael crasfa'
Dros y blynyddoedd fodd bynnag, colli yw hanes clybiau Cymru yn Ewrop yn amlach na pheidio - gyda sawl un yn aml yn cael "dipyn bach o grasfa".
Mae Hwlffordd yn Ewrop eleni am y tro cyntaf mewn 19 mlynedd, ar ôl gorffen yn seithfed yn y gynghrair ac ennill y gemau ail gyfle.
Fe fydd eu gwrthwynebwyr nhw, FC Shkëndija, yn ffefrynnau clir felly.
"Gobeithio fyddan nhw ddim yn whipping boys, ond mae gen i deimlad yn erbyn y tîm 'ma o Macedonia, Shkendija, gawn nhw gweir," meddai Allen.
"Mae cadeirydd Hwlffordd efo uchelgais mawr, a lot o chwaraewyr newydd wedi dod i mewn haf yma.
"Yr ymosodwr Martell Taylor-Crossdale, Tyrese Owen lawr o Slough, Luke Tabore o Malta... mae 'na rywun o rywle yn recriwtio o bob man i Hwlffordd ar y funud.
"Mae’n grêt bod o’n dod â nhw mewn i Gymru, ond i gael nhw i setlo’n syth i mewn i Ewrop? Ella bod y gêm yma wedi dod yn rhy sydyn iddyn nhw.
"Ond bydd o’n brofiad grêt iddyn nhw, a rhoi blas iddyn nhw o fod isio mwy."