'Camp pêl-gôl wedi newid bywyd fy mab' medd Mam o Lanelli

Llun o Helen Mainwaring (L) a'i mab Gareth.Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen Mainwaring (chwith) am godi ymwybyddiaeth o gamp Pêl-gôl sydd ar gyfer pobl â nam ar eu golwg

  • Cyhoeddwyd

Mae camp unigryw ar gyfer pobl ddall, neu bobl sydd â nam ar eu golwg, wedi newid bywyd ei mab medd un Mam o Lanelli.

Fe gafodd pêl-gôl ei chreu'n benodol ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond mae galw am godi ymwybyddiaeth o'r gamp.

Ddydd Sadwrn fe drefnodd Clwb Pêl-gôl Gwiberod Gorllewin Cymru daith gerdded noddedig rhwng Llanelli a Phorth Tywyn i godi arian a chodi ymwybyddiaeth.

Dywedodd un o'r trefnwyr, Helen Mainwaring bod y gamp wedi newid bywyd ei mab gafodd ei eni'n rhannol ddall ond "tase ni wedi clywed ynghynt bydde fe 'di 'neud gymaint o wahaniaeth".

Llun o bobl yn chwarae pêl-gôl Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gamp bellach yn cael ei chwarae yn y Gemau Paralympaidd

Mae'r gamp yn un unigyrw, gan ei bod wedi cael ei chreu'n benodol ar gyfer pobl â nam ar eu golwg neu bobl ddall - yn hytrach na gêm arall wedi ei haddasu.

Nod y gêm yw sgorio yng ngôl y gwrthwynebwyr drwy fowlio'r bêl ar draws y llawr ac osgoi'r tîm amddiffynnol.

Mae dau dîm o dri ac mae pawb yn gwisgo mwgwd "felly ma' pawb ar yr un lefel" esboniodd Helen wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Wrth gyfeirio at ei mab Gareth, gafodd ei eni'n rhannol ddall ac sydd bellach yn 18 oed, dywedodd Helen bod y gamp "wedi newid ei fywyd e".

"Fe odd yr unig ddisgybl yn yr ysgol â nam ar y golwg felly'n amlwg chi methu chware geme tîm" meddai.

"Wedyn pan ffindon ni dîm de Cymru nath e just agor gymaint o ddryse i fe – gath e ffrindie newydd.

"Nath e gwrdd â gymaint o bobl, a nath e benderfynu mynd i astudio yng Ngholeg Cenedlaethol Brenhinol y Deillion yn Henffordd oherwydd hynny" ychwanegodd.

Llun o Helen yn gwisgo mwgwd ac yn cael ei thywys gan blentynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Helen bod gwneud y daith mewn mwgwd i brofi bod yn ddall yn "brofiad arbennig"

Er bod poblogrwydd y gamp wedi cynyddu, yn enwedig ar ôl iddi gael ei chynnnwys yn y Gemau Paralympaidd, mae galw am godi ymwybyddiaeth ohoni.

"Yn anffodus natho ni ddim clywed am y gamp tan oedd e [Gareth] yn un ar bymtheg – tase ni wedi clywed ynghynt bydde fe 'di 'neud gymaint o wahaniaeth" meddai Helen.

Ddydd Sadwrn fe gynhaliodd Clwb Pêl-gôl Gwiberod Gorllewin Cymru daith gerdded noddedig i godi arian er mwyn gallu cynnal eu sesiynau hyfforddi.

Dywedodd Helen eu bod bron hanner ffordd at eu targed o £2,000 a'u bod yn "ddiolchgar iawn o bob cyfraniad".

Llun o griw yn cerddedFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Clwb Pêl-gôl Gwiberod Gorllewin Cymru am godi arian er mwyn cynnal y sesiynau hyfforddi

Yn rhan o'r daith roedd pobl sydd heb nam ar y golwg yn gwisgo mygydau ac yn cael eu tywys er mwyn profi'r heriau.

"Roedd gwneud y daith yn 'ddall' yn brofiad arbennig iawn" meddai Helen.

Dywedodd bod eu synhwyrau wedi "deffro" a'u bod yn "clywed pethau nad oedd ein tywyswyr yn eu clywed".

"Roedd hefyd yn brofiad rhyfedd gorfod ymddiried yn rhywun arall i'n cadw ni'n ddiogel" ychwanegodd.

"Ni'n gwerthfawrogi cymaint o barch sy'n ddyledus i'r rheiny sy'n mynd o le i le ar eu pennau eu hunain pan maen nhw'n hollol ddall neu ag amhariad ar y golwg" meddai.

Mae Clwb Pêl-gôl Gwiberod Gorllewin Cymru bellach yn cynnal sesiwn i blant iau.

"Mae rhai bach da ni 5/6 oed felly ni'n trio cael y neges 'na allan ynghynt fel bod y bobl ifanc 'ma sy'n ddall neu sydd ag amhariad ar y golwg yn cael gwybod am y gamp ynghynt – mae'n bwysig" meddai Helen.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig