Anelu am y brig yn y gamp pêl-gôl
- Cyhoeddwyd
Mae menyw ifanc o Gaerdydd gyda'i bryd ar gyrraedd y lefel uchaf yn y gamp pêl-gôl a chystadlu yn y Gemau Paralympaidd.
Cafodd pêl-gôl ei greu i apelio at bobl sydd â nam ar eu golwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond mae ei boblogrwydd wedi cynyddu yn ddiweddar.
Mae'r apêl honno yn sicr wedi cydio yn Catrin Young, 17 oed, sydd ar hyn o bryd yn astudio yng Ngholeg Cenedlaethol Brenhinol y Deillion yn Henffordd.
"Mae'n grêt i bob oedran, a faint bynnag chi'n gallu gweld mae e'r un lefel i bawb," meddai Catrin, sy'n ddall, ar raglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.
Beth yw pêl-gôl?
"Mae'n gyflym, a pan chi'n mynd i lefel uwch, mae e'n gyflym iawn, yn exciting a jest yn hwyl," meddai Catrin, sydd wedi bod yn chwarae pêl-gôl am tua wyth mlynedd.
"Mae tri bob ochr, sy'n chwarae gyda phêl tua seis pêl-fasged a ma' clychau ynddo fe felly chi'n gallu clywed, a chi'n rhoi mwgwd llygaid ymlaen."
Mae'r chwaraewyr yn symud o gwmpas drwy gymorth rhaff. Mae'r rhaff wedi ei dapio ar y llawr, a her arall i'r chwaraewyr, yn ogystal â dod o hyd i'r bêl, yw dod o hyd i'r rhaff.
"Mae gôl ar y ddwy ochr. Chi angen blocio pêl rhag mynd yn eich gôl," meddai Catrin.
"Chi'n teimlo ar y llawr am dâp, sydd â rhaff oddi danodd i wybod lle yda chi.
"Felly mae pawb ar yr un lefel oherwydd does neb yn gallu gweld ddim byd."
Dywed Catrin fod y gêm wedi cynyddu yn ei phoblogrwydd ar ôl cael ei derbyn yn un o gampau'r Gemau Paralympaidd yn y 1980au.
"Ni'n trio cael pawb i wybod amdano achos mae'n wahanol iawn."
Mae Catrin yn chwarae i Glwb Pêl-gôl De Cymru, ac un o reolwyr y tîm yw ei mam, Gwennan, sydd â nam ar ei golwg.
Meddai Gwennan: "O'n i erioed wedi clywed am y gamp fy hunan, nes tua wyth mlynedd yn ôl aethon ni i ddiwrnod gan Insport, lle maen nhw'n rhoi ymlaen pob math o wahanol chwaraeon sy'n arbennig o hygyrch ac yn dda i bobl anabl - a ffeindio mas amdano bryd hynny.
"Cafodd y ddwy ohonon ni ein tynnu mewn ac yn wir yn caru fe."
Ychwanegodd ei bod yn gweld fod gan Catrin ddawn o ran y gamp "felly nes i bopeth o'n i'n gallu i wneud yn siŵr bod Catrin yn cael y cyfleoedd i ddatblygu'r sgiliau."
Mae hynny yn cynnwys bod yn un o reolwyr y clwb sydd ar hyn o bryd yn chwarae yng Nghaerfyrddin yn y gorllewin, a Chaerdydd yn y de.
"Y gobaith yw ein bod yn datblygu i fod yn ddau dîm yn y dyfodol," eglurodd.
"Ac mae tîm hefyd yn trio dechau yn y gogledd - ma' nhw wedi bod yn cwrdd yn Wrecsam.
"Ond mae wastad angen gwirfoddolwyr, pobl sy'n gallu dod a chadw pethau i fynd.
"Dw i'n gwybod fod nhw wir angen hyfforddwr ar y tîm, achos ma' lot fawr o bobl eisiau chwarae."
Dywed Gwennan ei bod yn parhau i fwynhau chwarae "ond ddim ar lefel mor uchel â Catrin; yn anffodus dwi'n gwneud o am hwyl ond mae Catrin ar y trywydd o bosib i ymuno â thîm Prydain, felly croesi bysedd."
Gêm i bawb
Mae awydd Catrin i gyrraedd lefelau uchaf y gamp wedi cynyddu ar ôl iddi fynychu'r Gemau Paralympaidd diweddar ym Mharis.
"Mae yn wahanol, mae speed y bêl, ma' mor gyflym," meddai Catrin.
"Mae'n eithaf peryglus ond pan chi'n uwch yn y gamp chi'n deall sut i fod yn saff ac mae lot o trics chi'n gallu gwneud oherwydd ma' pawb â mwgwd dros eu pen."
Ond mae hi hefyd eisiau pwysleisio fod y gêm yn un i bawb, pa bynnag lefel:
"Mae pawb angen trio fo, oherwydd mae'n hollol wahanol pan chi'n chwarae i wylio."
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd27 Awst
- Cyhoeddwyd25 Awst