Bywyd lliwgar artist tatŵ benywaidd cyntaf y DU
- Cyhoeddwyd
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.

Tatŵs Jessie Knight
Pan ddechreuodd Jessie Knight ddefnyddio offer tatŵio dros ganrif yn ôl, ni allai fod wedi dychmygu y byddai'n mynd ymlaen i gael lle arbennig i'w hun yn hanes y diwydiant.
O fewn ychydig flynyddoedd, yn 18 oed, fe sefydlodd Jessie Knight ei stiwdio ei hun yn Y Barri, de Cymru. Hi oedd artist tatŵ benywaidd cyntaf Prydain.
Cafodd ei geni yn 1904 a bu farw yn 1992, ac roedd yn gofalu am siop y teulu, wedi i'w thad ei ddysgu i wneud tatŵ tra fod e i ffwrdd yn gweithio fel morwr.
Teithiodd Jessie ar hyd y wlad yn lliwio croen miloedd o gwsmeriaid.
Mae ei chasgliad o ddyluniadau, offer, ffotograffau a llythyrau yn Amgueddfa Cymru.
"Roedd Modryb Jessie yn gymeriad eithaf ecsentrig," dywedodd ei gor-nai, Neil Hopkin-Thomas.
"Roedd hi'n flaengar, ymhell o flaen ei hamser ond yn llawer o hwyl i fod yn ei chwmni gyda llawer o straeon.
"Cyn tatŵio roedd hi'n styntwraig ar ben ceffyl ac yn sharpshooter.
"Roedd hi'n berson lliwgar iawn ac yn byw bywyd cyffrous."

Cafodd Jessie Knight ei dysgu i liwio'r croen gan ei thad
Parch
Roedd yna barch at ei gwaith dros y byd. Yn 1955 daeth yn ail yn y gystadleuaeth Champion Tattoo Artist of All England. Roedd yna ambell her yn ei bywyd hefyd.
"Sawl tro fe dorrwyd i mewn i'r siop a chafodd dyluniadau eu dwyn," meddai Mr Hopkin-Thomas.
"Roedd ganddi gist fawr lle roedd hi'n cadw'i holl ddyluniadau a byddai'n eistedd arni i datŵio fel bod neb yn gallu cael atyn nhw."
Roedd hi'n benderfynol, meddai, bod dim rheswm iddi beidio gwneud "y job roedd hi'n ei garu" dim ond am ei bod yn fenyw a'r diwydiant yn un llawn dynion.
"Ar ei dwylo roedd yna smotiau bach o liw ble roedd hi'n gwirio'r inc cyn tatŵio rhywun," meddai Mr Hopkin-Thomas.
"Roedd yr arfbais deuluol ar ei chefn, fel ar gefn ei thad, a gwe pry cop a chroes."
Roedd yn gweithio mewn trefi porthladd ar draws y DU fel Chatham, Aldershot a Portsmouth gan roi tatŵs i forwyr oedd yn teithio trwyddyn nhw.
Meddai Mr Hopkin-Thomas: "Roedd hi'n gweithio mewn byd ble roedd yn rhaid iddi fod yn ofalus ond ar yr un pryd fe wnaeth hi fe gyda 'chydig o panache."
Fe fyddai arwyddion yn ei siopau yn rhybuddio rhag ymddwyn yn wael, gan gynnwys un yn dweud: 'If you've had one over the eight… you are too late.'
Am flynyddoedd roedd Mr Hopkin-Thomas wedi cadw dros 1,000 o bethau i gofio bywyd Jessie gan gynnwys ei dyluniadau, lluniau teuluol a'r peiriannau a ddefnyddiodd i greu ei tatŵs trawiadol.

Un o ddyluniadau Jessie Knight
Geirfa
Offer / equipment
Canrif / century
Dychmygu / imagine
Diwydiant / industry
Sefydlodd / established
Benywaidd / female
Croen / skin
Cwsmeriaid / customers
Casgliad / collection
Dyluniadau / designs
Llythyrau / letters
Gor-nai / great-nephew
Blaengar / before their time
Styntwraig / stuntwoman
Parch / respect
Torrwyd / was broken
Dyluniadau / designs
Dwyn / steal
Penderfynol / decisive
Gwirio / check
Arfbais deuluol / family crest
Gwe pry cop / spider's web
Porthladd / port
Arwyddion / signs
Rhybuddio / warn
Peiriannau / machines
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd14 Chwefror
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd6 Chwefror