Cerdded ar hyd America yn 'brofiad anhygoel'
- Cyhoeddwyd
Nid oes llawer o bobl sy’n gallu dweud eu bod wedi cerdded hyd Unol Daleithiau America. Ond un sy’ wedi cwblhau her taith y Pacific Crest yn 2022 yw Celyn Kenny o Aberystwyth.
Cychwynnodd ddiddordeb Celyn mewn cerdded pan symudodd hi a’i phartner Gwion ap Dafydd i fyw yn y Rockies yng Nghanada yn 2016.
Meddai: “Gathon ni’r siawns i fyw yna am ddwy flynedd. Oedd jest bod yn y tirwedd hollol anhygoel o fynyddoedd Canada – oedden ni moyn cymryd mantais o fyw mewn gwlad anhygoel.”
Bu Celyn yn rhannu’r profiad o gerdded taith y Pacific Crest gyda Aled Hughes ar Radio Cymru – mae’r daith yn golygu cerdded 2653 o filltiroedd ar hyd arfordir gorllewinol America o Fecsico i Canada.
Meddai: “Oedd Gwion wedi cael ei ddwyn i fyny yn cerdded gyda’i deulu ac fe oedd wedi pwsho ni i fynd allan a phrofi’r tirwedd ‘ma a dringo’r mynyddoedd.
“‘Nath e ddechrau ‘da cwpl o oriau ar brynhawn Dydd Sadwrn yn troi mewn i ddiwrnod cyfan o gerdded yn troi mewn i ddau ddiwrnod, yna aros dros nos wedyn yn campio a mwynhau profi natur a bod allan yn y mynyddoedd.
“Oedd e jest yn pull bob penwythnos – oedden ni moyn mynd allan a mwynhau’r profiad yna.”
Yna clywodd Celyn am daith y Pacific Crest sy’n cychwyn ar ffin Meciso mewn tref fach o’r enw Campo ar arfordir orllewinol America ac yna’n mynd drwy Galiffornia, Oregon a Washington gan orffen ar y ffin gyda Canada.
Fe gymerodd hi bedair mis a hanner o gerdded bron bod dydd i’r ddau i gwblhau y daith.
Meddai Celyn: “Unwaith ti yn y flow o gerdded ti ddim moyn stopio.
“Oedden ni yn mynd mewn i drefi i brynu bwyd pob bedwar neu bump diwrnod ond pan oeddet ti’n mynd mewn i’r trefi a’r pentrefi ‘ma a gweld bywyd pobl yn mynd ymlaen oeddet ti moyn diflannu nôl i’r llwybr ac i natur.
“Oedden ni jest moyn cario 'mlaen i gerdded. Oedd gyda ni sialens i gyrraedd Canada ac oedden ni jest moyn mynd. Oedd e’n brofiad anhygoel.”
Tirwedd amrywiol
Gyda’r llwybr yn arwain y ddau drwy sawl talaith roedd yr amrywiaeth ar y daith yn anhygoel, meddai Celyn: “’Na beth oedd y profiad mwya’ arbennig am y llwybr yma yw bod ti’n gweld gwahanol dirweddau ac yn dod ar draws sialensau gwahanol gyda'r tywydd.
“Mae natur yn taflu popeth atat ti a ti mewn sefyllfa lle mae’n rhaid i ti jest cadw fynd ac os oes problem yn dod fyny roedd Gwion a fi yn sortio fe gyda’n gilydd.
“Os oedd diwrnod o law neu eira, beth allwn ni wneud i gadw fynd ar y llwybr?
Uchafbwynt
“Y diwrnod gorau i ni oedd cyrraedd copa fwyaf yr Unol Daleithiau dan Alaska sef Mynydd Whitney – uchder o jest dros 4000 metr. Gyrhaeddon ni’r copa erbyn y wawr – oedd e’n brofiad ‘na’i fyth anghofio.”
Ers yr antur ar y Pacific Crest mae Celyn a Gwion wedi symud yn ôl i Gymru ond dyw nhw ddim wedi bod yn segur – mae’r ddau wedi bod yn cerdded yn y Swistir, Croatia a Chymru ers 2022.
Meddai Celyn: “Ni ddim yn eistedd lawr yn hir iawn – mae’n rhywbeth pwysig i ni i gael y sialens yna. Ni’n lico cael goal am y flwyddyn a chwblhau e.
“Ni’n mwynhau beth sy’ o gwmpas ni hefyd yn Eryri a Bannau Brycheiniog.
Cyngor
“Mwynhau’r profiad – mae mor hawdd i anghofio ble wyt ti yn enwedig os mae’r tywydd yn troi ond byddwch yn y foment. Trio cymryd e mewn gymaint a ti gallu a gwerthfawrogi ble wyt ti.”
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd5 Mai 2022
- Cyhoeddwyd10 Mai 2021
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf