Canfod llygod yng nghegin ysgol uwchradd Caernarfon

Llun stoc o lygodenFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r canfyddiad yn "amlwg yn peri pryder am iechyd a diogelwch" disgyblion a staff yr ysgol, meddai'r prifathro (llun stoc)

  • Cyhoeddwyd

Bydd disgyblion Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon yn derbyn pecynnau bwyd am gyfnod ar ôl i lygod gael eu canfod yng nghegin yr ysgol.

Mewn llythyr at rieni, dywedodd y prifathro fod yr ysgol yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd i "ddatrys y mater yn brydlon ac effeithiol".

"Ysgrifennaf atoch i roi gwybod i chi am fater diweddar yr ydym wedi dod ar ei draws yn ein cegin ysgol," meddai Clive Thomas.

"Yn anffodus, rydym wedi darganfod presenoldeb llygod, sy'n amlwg yn peri pryder am iechyd a diogelwch ein disgyblion a staff.

"Rydym am eich sicrhau ein bod yn cymryd y mater hwn o ddifrif.

"Mae’r ysgol yn gweithio’n agos gyda’r awdurdod i ddatrys y mater yn brydlon ac effeithiol.

"Yn y cyfamser, er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad at brydau iach, bydd y gwasanaeth arlwyo yn darparu pecynnau bwyd nes y bydd yr awdurdod wedi mynd i’r afael yn llawn â’r sefyllfa."

Pynciau cysylltiedig