Ysgol Syr Hugh Owen ac aelodau 'niferus' o fandiau Cymru

Beti Rhys a Rhys Mwyn
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Beti Rhys yn westai ar raglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru

  • Cyhoeddwyd

Aelodau Big Leaves, prif leisydd Bwncath, rhai o'r Bandana, Alys Williams a Sarah Louise, i enwi dim ond llond llaw o gyn-disgyblion sydd wedi mynychu'r un ysgol uwchradd ac sydd wedi serennu yn y byd cerddorol yng Nghymru.

Daeth yr enwau i'r amlwg yn ystod sgwrs ar raglen Rhys Mwyn yn ddiweddar ar BBC Radio Cymru.

Fel rhan o eitem fydd yn cael ei ddarlledu'n achlysurol ar ei raglen, gwestai cyntaf Rhys fel rhan o’r gadwyn i drafod cyn-disgyblion o ysgolion Cymru sydd wedi mynd ymlaen i ffurfio neu i fod yn rhan o fandiau poblogaidd, oedd Beti Rhys, sy'n athrawes gerdd yn Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon.

Mae Beti Rhys wedi bod yn dysgu yno ers bron i 25 mlynedd ac mae hithau yn dod o gefndir perfformio hefyd.

Yn ystod y sgwrs gyda Rhys Mwyn, daeth i'r amlwg ei bod wedi ymddangos ar raglen Top of the Pops ar y BBC gyda'r band Super Furry Animals.

"Dwi yno ers bron i chwarter canrif ac mae'n ysgol hyfryd sydd â chrochan enfawr o blant hyfryd ynddi," meddai.

'Hyder i berfformio'

Mae rhestr hirfaith o dalent yr ysgol yn cael ei arddangos ar wal y dosbarth cerdd.

"Mae 'na boster anferth o'r holl fandiau ac artistiaid sydd wedi bod ac maen nhw’n niferus ac yn amrywiol iawn," meddai Beti.

"Dwi'n cofio cychwyn nôl yn 2000 ac yn fy nosbarth cyntaf oedd Meic Parry o'r Dipsomaniacs a Sarah Louise.

"Mae gen ti ddau yn y Bandana, Creision Hud, Achlysurol yn un arall ac roedd lot ohonyn nhw yn gerddorion yn yr ysgol oedd yn cyfrannu i gorau a bandiau chwyth.

"Mae hynny'n rhoi rhyw gefndir cerddorol i chdi a dy fod yn gallu gwrando a rhoi'r hyder i ti berfformio."

Ffynhonnell y llun, Beti Rhys
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r poster sydd wedi'i greu i ddangos y talent sydd wedi mynychu'r ysgol dros y blynyddoedd

Roedd Rhodri Siôn, Meilir Gwynedd, Kevin Tame, Osian Gwynedd a Matt Hobbs yn ddisgyblion yn yr ysgol ar ddiwedd y 1980au a dechrau’r 1990au, gan ddechrau creu cerddoriaeth efo'i gilydd.

Bryd hynny Beganifs oedd enw'r band cyn newid i fod yn Big Leaves yn 1998.

Un o'r sêr eraill sydd wedi mynychu'r ysgol yw Elidyr Glyn, prif leisydd y band Bwncath.

Yn wahanol iawn i sawl disgybl arall, fe aeth Elidyr ymlaen i astudio ymarfer dysgu, ac fe weithiodd am gyfnod fel athro Gwyddoniaeth yn Ysgol Syr Hugh Owen.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd aelodau o Big Leaves (top) yn gyn ddisgyblion yn Syr Hugh Owen, ac yn ddiweddarach, Elidyr Glyn, prif leisydd y band Bwncath.

Dywedodd Beti: "Beth sy'n dda yw bod 'na lot o artistiaid wedi bod yn yr ysgol ac maen nhw'n ail-ymweld efo ni.

"Roedd Elidyr ar staff yr ysgol a jest cyn y cyfnod clo fe ddaeth Sarah Louise atom ni.

"Prosiect oedd o ar gyfer y merched, tua 20 merch, i roi blas i bobl o fyd pop; o’r marchnata, i edrych ar ôl technegau ac yn y blaen.

“Nath 'na domen o ferched elwa. Un o’r rhai oedd yno oedd Alys Glyn sydd newydd berfformio yn Tafwyl eleni," meddai.

'Alys yn gwbwl unigryw'

Wrth drafod rhai artistiaid yn unigol, daeth enw Alys Williams fyny yn y sgwrs.

Mae Alys wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel artist unigol ac fel rhan o'r band Blodau Papur.

Roedd Alys yn ddisgybl yn yr ysgol ar ddechrau'r 2000au ac wedi cymryd diddordeb mawr mewn cerddoriaeth.

"Roedd Alys yn gwbl unigryw," meddai Beti.

"Sut wyt ti'n dysgu rhywun i ganu fel 'na a phlygu nodau? Roeddet ti wastad yn gwybod pan oedd Alys yn yr ystafell.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Alys dalent 'cwbwl unigryw' yn ôl Beti Rhys

"Dwi'n cofio dysgu nhw gwers 5 a 6 ar brynhawn Mercher. Roedd Alys bob tro'n hwyr, ond unwaith oedd hi fewn, roedd hi'n mwynhau.

"Roedd hi'n perfformio drwy'r amser.

"Dwi’n cofio roedd ganddo ni four track fel tasgam pedwar trac, felly oedd hi’n cyfansoddi, dim efo nodiant neu feddalwedd fel 'na ond ar y four track 'ma ac yn haenu llais ac yn gwneud lleisiau cefndir, hyd yn oed mor fuan â 13, 14 oed.

"Roedd hi wrth ei bodd yn gwneud y math yna o beth a syniadau da ganddi," meddai.

Gyda sawl un wedi mynd ymlaen o Ysgol Syr Hugh Owen i serennu yn y byd cerddoriaeth Gymraeg, mae sawl un arall yn haeddu sylw o ysgolion eraill.

Ym mis Medi, tro Ysgol Rhydfelen fydd hi i frolio eu cyn ddisgyblion.

Pynciau cysylltiedig