Page yn cynnwys sawl wyneb newydd yng ngharfan Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae ymosodwr ifanc Lerpwl, Lewis Koumas, ymhlith tri chwaraewr ifanc sydd wedi eu cynnwys yng ngharfan Cymru am y tro cyntaf ar gyfer dwy gêm gyfeillgar fis Mehefin.
Bydd Cymru yn wynebu Gibraltar ym Mhortiwgal ar 6 Mehefin cyn teithio i Trnava i wynebu Slofacia ar 9 Mehefin.
Dyma'r tro cyntaf i Koumas, mab cyn-chwaraewr canol cae Cymru Jason Koumas, gael ei gynnwys yng ngharfan dynion Cymru.
Fe sgoriodd yn ei gêm gyntaf i'r tîm dan-21 ym mis Mawrth, tra'i fod o hefyd wedi ymddangos ac wedi sgorio i dîm cyntaf Lerpwl y tymor hwn.
Amddiffynnwr Brentford, Fin Stevens, a Charlie Crew, chwaraewr canol cae Leeds United yw'r chwaraewyr eraill sydd wedi eu cynnwys mewn carfan lawn am y tro cyntaf.
- Cyhoeddwyd24 Ebrill
- Cyhoeddwyd1 Mai
- Cyhoeddwyd28 Mawrth
Dyw capten Cymru a Chaerdydd, Aaron Ramsey, ddim wedi ei gynnwys oherwydd anaf, na chwaith amddiffynnwr Nottingham Forest Neco Williams.
Mae'r asgellwr, David Brooks hefyd yn methu allan wedi iddo gael ei anafu yn ystod buddugoliaeth Southampton yn rownd derfynol gemau ailgyfle'r Bencampwriaeth ddydd Sul.
Mae Connor Roberts, Joe Rodon, Ethan Ampadu a Daniel James - wnaeth chwarae yn y gêm honno hefyd - wedi eu cynnwys yn y garfan.
Mae Ben Davies, oedd yn gapten ar Gymru yn absenoldeb Ramsey ym mis Mawrth, wedi ei gynnwys er yr amheuon am ei ffitrwydd.
Cafodd y garfan ei chyhoeddi gan Rob Page ar faes Eisteddfod yr Urdd 2024 ym Meifod.
Dywedodd rheolwr Cymru ei fod yn awyddus i roi cyfle i chwaraewyr ifanc ddangos eu doniau yn y brif garfan.
"Mae angen i ni roi profiad iddyn nhw o'r math yma o gemau, fel wnaethon ni gyda Brennan Johnson ddwy flynedd yn ôl yn erbyn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg," meddai.
"Mae o (Johnson) yn well chwaraewr oherwydd y profiadau hynny, felly fe weithiodd y broses honno.
"Ry'n ni'n awyddus nawr i wneud yr un peth gyda rhai o'r chwaraewyr ifanc gorau sydd gennym ni."
Y garfan yn llawn
Danny Ward (Leicester City), Adam Davies (Sheffield United), Tom King (Wolves);
Connor Roberts (Burnley), Fin Stevens (Brentford), Joe Rodon (Tottenham Hotspur), Chris Mepham (Bournemouth), Ben Cabango (Abertawe), Joe Low (Wycombe Wanderers), Ben Davies (Tottenham Hotspur), Jay Dasilva (Coventry City);
Ethan Ampadu (Leeds), Josh Sheehan (Bolton Wanderers), Jordan James (Birmingham), Charlie Savage (Reading), Charlie Crew (Leeds), Wes Burns (Ipswich Town), Rubin Colwill (Caerdydd), Dan James (Leeds), Rabbi Matondo (Rangers);
Nathan Broadhead (Ipswich), Liam Cullen (Abertawe), Brennan Johnson (Tottenham Hotspur), Kieffer Moore (Bournemouth), Lewis Koumas (Lerpwl)