Cymru i herio Gibraltar ym Mhortiwgal fis Mehefin

Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru chwarae wedi siom y gemau ail gyfle ym mis Mawrth
- Cyhoeddwyd
Fe fydd Cymru yn wynebu Gibraltar mewn gêm gyfeillgar ym Mhortiwgal ym mis Mehefin.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd tîm Rob Page yn herio Gibraltar yn Estádio Algarve ar ddydd Iau, 6 Mehefin.
Dyma fydd yr eildro i'r ddwy wlad wynebu ei gilydd - wedi i Gymru ennill o 4-0 mewn gêm gyfeillgar ar y Cae Ras yn Wrecsam ym mis Hydref y llynedd.
Bydd Cymru wedyn yn teithio i Trnava ar gyfer gêm gyfeillgar arall yn erbyn Slofacia yn Stadiwm Anton Malatinkský ar ddydd Sul, 9 Mehefin.
Dywedodd CBDC y byddai gwybodaeth tocynnau ar gyfer y ddwy gêm yn cael ei gadarnhau cyn gynted â phosib.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2024
- Cyhoeddwyd9 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2023