'Andros o bryder' am safon darllen Cymraeg disgyblion
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw am gyllid ychwanegol a mwy o staff i hybu sgiliau darllen Cymraeg, wedi i safonau lithro dros gyfnod y pandemig.
Yn ôl canlyniadau plant saith i 14 oed, mae'r bwlch cyrhaeddiad rhwng y disgyblion tlotaf a'u cyd-ddisgyblion bellach yn 31 mis ar gyfartaledd.
Mae'r data ar gyfer 2022-23 yn dangos bod y lefel yn gyffredinol yn gyfystyr â blwyddyn yn is o'i gymharu â 2020-21.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cefnogi sawl prosiect sy'n canolbwyntio ar hybu hyder disgyblion yn y Gymraeg.
Ond yn ôl undeb dysgu UCAC, mwy o gyllid sy'n hanfodol i ysgolion allu diwallu anghenion gwahanol ddisgyblion.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn Rhondda Cynon Taf wedi cael canmoliaeth gan arolygwyr addysg am y ffordd y maen nhw'n addysgu darllen.
Mae'r ysgol yn credu bod cyfnod y pandemig wedi cyfrannu at rywfaint o ddirywiad dros y blynyddoedd diwethaf "yn y diddordeb mewn llyfrau a hynny felly yn cael effaith ar gynnydd".
Yn ôl y dirprwy bennaeth Elin Llywelyn-Williams, mae darllen Cymraeg yn gallu bod yn fwy heriol "gan bod nifer o’n plant ni’n dod o deuluoedd nad sy’n siarad Cymraeg ar eu haelwydydd".
Mae cydweithio gyda rhieni yn rhan o strategaeth yr ysgol, gan gynnwys cynnig cyngor ar sut i ddarllen ar y cyd adref.
"Yn islaw yn yr ysgol mae rhai o’r athrawon yn recordio llyfrau Cymraeg darllen yn ddigidol, felly mae hynny’n amlwg o gymorth i’r rhieni hefyd," meddai Ms Llywelyn-Williams.
Mae Reuben, 11, yn hoffi darllen "pethau anturus a pethau sy’n ddoniol".
"Dwi’n darllen mwy yn yr ysgol ond dwi yn hefyd darllen tu fas i'r ysgol yn y tŷ - fel cyn mynd i'r gwely," meddai.
Mae Sadie,11, yn hoff o ddarllen yn Gymraeg a Saesneg.
"Y pethau fi'n hoffi pan fi’n darllen yw fi’n gallu dysgu pethau" a "gwybod sut i sillafu geiriau newydd", meddai.
Dangosodd ffigyrau cenedlaethol, dolen allanol am asesiadau darllen a rhifedd i blant saith i 14 oed bod safonau wedi cwympo ers 2020-21, ac roedd y gostyngiad mwyaf yn y profion darllen Cymraeg.
Ym mhob pwnc roedd bwlch rhwng cyrhaeddiad plant sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim a'u cyd-ddisgyblion, ond roedd e fwyaf llydan yn y canlyniadau darllen Cymraeg, a hynny wedi ehangu dros gyfnod y pandemig.
Yn 2022-23 ar gyfartaledd roedd e'n 31 mis o wahaniaeth, ac yn 39 mis i blant 14 oed.
'Rhaid derbyn ystadegau gwael heb fuddsoddiad'
"Mae’n andros o bryder wrth gwrs," meddai Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Ioan Rhys Jones.
"Mae 'na rai sydd angen mwy o gefnogaeth nag eraill ac os nad ydy’r cyllid yna - os nad oes modd i ni ddiwallu anghenion disgyblion unigol mewn gwahanol ffyrdd - mae am fod yn anodd iawn iawn i ni wella cyrhaeddiad.
"Hyn a hyn allith athrawon wneud ac felly, mewn ffordd, ma' rhaid derbyn ystadegau gwael cyn belled â nad oes yna fuddsoddi yn y gyfundrefn."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn ymwybodol o fylchau cyrhaeddiad ac yn ceisio canolbwyntio grantiau ar feysydd "lle gall cyllid gael yr effaith fwyaf, gan flaenoriaethu cyllid ychwanegol ar gyfer ysgolion sy'n wynebu lefelau uwch o amddifadedd".
"Mae llawer o'n dysgwyr mewn addysg Gymraeg yn dod o gartrefi lle nad yw'r Gymraeg yn cael ei siarad, ac rydym wedi gweld gostyngiad yn eu hyder wrth ddefnyddio eu Cymraeg ers dechrau'r pandemig," meddai llefarydd.
Ychwanegodd bod arolygwyr Estyn yn ymchwilio i'r sefyllfa, gan ychwanegu bod yna sawl prosiect sy'n ceisio hybu hyder disgyblion yn yr iaith.
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Cefin Campbell, fod y "loteri o sgiliau darllen ymhlith plant yng Nghymru yn annerbyniol".
"Er gwaethaf ymdrechion gorau athrawon a disgyblion, ni fydd toriadau parhaus a dwfn i addysg gan Lywodraeth Cymru yn gwneud dim i roi Cymru yn ôl ar y trywydd cywir o ran cyflawni ein huchelgais bod disgyblion yng Nghymru yn cael yr addysg orau bosibl.”
Yn Llwyncelyn, mae Elin Llywelyn-Williams yn credu mai mwy o athrawon sydd eu hangen.
"Recriwtio athrawon fydde falle’n canolbwyntio ar ddarllen yn bennaf, ac yn gweithio gyda unigolion - cau’r bwlch yna rhwng grwpiau o unigolion.
"Pobl y’n ni angen... pobl i arwain y plant a phobl i annog y plant."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd5 Rhagfyr 2023