Safonau darllen Cymraeg 'wedi disgyn yn sylweddol'
- Cyhoeddwyd
Mae safonau darllen Cymraeg ymysg plant saith i 14 oed wedi disgyn yn sylweddol ers y pandemig, yn ôl data swyddogol.
Mae'r profion darllen Cymraeg diweddaraf yn dangos fod safonau darllen disgyblion ar ei hôl hi o 11 mis o'i gymharu â'r canlyniadau yn 2020-21, ond ar gyfer disgyblion blwyddyn naw, sy'n 13 ac 14 oed, roedden nhw bron i flwyddyn a hanner ar ei hôl hi.
Roedd safonau darllen Saesneg hefyd wedi gostwng - a hynny bedwar mis yn is na'r lefelau blaenorol, yn ôl data Llywodraeth Cymru.
Daw'r canlyniadau wrth i'r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles ddweud ei fod yn poeni bod y pandemig wedi dadwneud cynnydd mewn llythrennedd a rhifedd.
Mewn erthygl ar gyfer y Times Education Supplement dywedodd Mr Miles na ddylai'r heriau sy'n wynebu ysgolion ar hyn o bryd ddod yn "normal newydd".
"Mae gormod o athrawon yn dweud wrtha i eu bod yn gweld ymddygiad heriol, presenoldeb gwaeth a lefel is o lythrennedd a rhifedd," meddai.
Dywedodd y byddai'n "defnyddio pob dylanwad sydd gennym" i gefnogi ysgolion "yn hytrach na phapuro dros y craciau".
Ond yn ôl llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones, dylai'r Gweinidog Addysg roi'r gorau i roi bai ar y pandemig am safonau addysg, gan ychwanegu fod Llafur yn "erydu dyfodol ein plant".
"Ar ôl torri'r gyllideb addysg mewn termau real, gwastraffu adnoddau ar newid gwyliau ysgol a gollwng y bêl ar absenoldeb uchel, mae'n rhaid i'r gweinidog gymryd cyfrifoldeb am ei benderfyniadau", meddai.
Cynhelir asesiadau darllen a rhifedd ar-lein gan blant ym mlynyddoedd dau i naw bob blwyddyn, i nodi cryfderau a gwendidau disgyblion a helpu i arwain eu haddysg.
Mae dau brawf rhifedd yn ogystal â darllen Saesneg ac - ar gyfer disgyblion a sy'n derbyn addysg Gymraeg - darllen Cymraeg.
Ffigyrau 'trawiadol iawn'
Dywedodd Finola Wilson, Cyfarwyddwr Impact Wales - yr ymgynghoriaeth addysg - fod gwledydd eraill hefyd wedi gweld dirywiad mewn cyrhaeddiad mewn darllen a mathemateg o ganlyniad i'r pandemig.
Ond roedd canlyniadau profion rhyngwladol blaenorol wedi dangos fod Cymru eisoes ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU.
Dywedodd Ms Wilson y dylid edrych ar y ffordd y mae darllen yn cael ei ddysgu yng Nghymru.
"Mae yna blant y tu ôl i hyn [y data] - ac mae'r rhain yn blant a allai o bosibl ddod yn rhan o'r genhedlaeth goll", meddai.
"Os nad ydyn nhw yn yr ysgol i ddechrau, sut allwn ni eu cefnogi i wella eu dysgu mewn darllen a mathemateg. Os nad ydyn nhw'n darllen yn dda, sut gallan nhw gael mynediad i'r cwricwlwm?"
Ychwanegodd bod y ffigyrau darllen Cymraeg yn "drawiadol iawn".
Dangosodd yr asesiad rhifedd gweithdrefnol ostyngiad cyffredinol hefyd - gyda chanlyniadau 2022-23 bedwar mis ar ei hôl hi o'i gymharu â 2018-19, a hyd at wyth mis ar ei hol hi ar gyfer y plant ieuengaf ym mlynyddoedd dau a thri.
Ond, er hynny, roedd canlyniadau blwyddyn naw dri mis yn uwch.
Dim ond gwerth blwyddyn o ddata oedd ar gael ar gyfer rhesymu rhifedd, ond roedd yn dangos bod canlyniadau chwe mis yn uwch.
Dywedodd ystadegwyr fod hyn fwy na thebyg oherwydd bod disgyblion wedi dod yn gyfarwydd â phatrwm y cwestiynau, yn hytrach na'i fod yn arwydd o unrhyw batrwm ehangach.
Yn ôl y Gweinidog Addysg, mae'r data darllen a rhifedd yn cael ei gyhoeddi er mwyn rhoi cipolwg ar y sefyllfa ar lythrennedd a rhifedd.
Bydd pecyn cymorth wedi'i ddiweddaru i helpu ysgolion i gefnogi disgyblion gyda darllen a llafaredd yn cael ei gyhoeddi, meddai, ac fe addawodd gynllun mathemateg a rhifedd cyn diwedd y flwyddyn.
Bydd canlyniadau profion rhyngwladol diweddaraf PISA, sy'n mesur sgiliau darllen, mathemateg a gwyddoniaeth plant 15 oed, yn cael eu cyhoeddi ar 5 Rhagfyr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2023
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2023