Plismon yn ddieuog o anafu bachgen a gollodd ran o'i geilliau

Roedd Ellis Thomas wedi gwadu achosi niwed corfforol difrifol i'r bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae plismon wedi cael ei ganfod yn ddieuog o achosi niwed corfforol difrifol i fachgen 17 oed y tu allan i glwb nos ym Mangor.
Roedd y Cwnstabl Ellis Thomas, 25 oed o Ynys Môn, yn wynebu honiad ei fod wedi taro Harley Murphy - oedd yn 17 oed ar y pryd - tra'n ei arestio y tu allan i glwb Cube yn oriau mân y bore ar 29 Ionawr 2023.
Roedd Mr Murphy yn dweud fod yr ergyd honedig wedi arwain at rwygiad i un o'i geilliau, a bod 50% ohoni wedi'i thynnu'n ddiweddarach mewn llawdriniaeth.
Roedd Mr Thomas yn gwadu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Mawrth fod penderfyniad y rheithgor yn unfrydol.

Cafodd Harley Murphy ei arestio y tu allan i glwb nos Cube, sydd bellach wedi newid ei enw i Trilogy
Wrth roi tystiolaeth yn ystod yr achos, fe ddywedodd Mr Thomas fod Mr Murphy wedi mynd ato a'i sarhau ar y noson dan sylw.
"Roedd yn amlwg ei fod yn cyflawni trosedd o fod yn feddw ac afreolus mewn man cyhoeddus a throsedd trefn gyhoeddus adran pump," meddai wrth y llys.
Dywedodd ei fod wedi dweud wrtho ei fod yn troseddu, a bod Mr Murphy wedi rhegi a dweud nad oedd wedi gwneud unrhyw beth o'i le.
Wrth arestio Mr Murphy dywedodd ei fod wedi achosi iddo ddisgyn ar lawr gan wthio ei goesau oddi tano, ond gwadodd ei fod wedi rhoi ergyd iddo gyda'i ben-glin.
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Clywodd y llys fod Mr Murphy wedi cyfaddef ei fod yn feddw ar y noson, a bod y ffrae y tu allan i'r clwb wedi dechrau ar ôl i un o ffrindiau'r bachgen gael ei wthio i lawr y grisiau gan swyddog diogelwch.
Dywedodd Mr Murphy ei fod mewn "poen aruthrol" pan gafodd ei roi mewn car heddlu a'i gludo i orsaf gyfagos wedi iddo gael ei arestio.
Y diwrnod canlynol, aeth i uned frys Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac roedd 50% o gynnwys un o'i geilliau wedi "chwyddo".
Cafodd hanner y gaill ei thynnu, a daeth meddygon i'r casgliad ei bod hi'n bosib y gallai arwain at "boen hirdymor".
Yn dilyn yr achos, dywedodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu y byddai'n cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ynghylch unrhyw gamau disgyblu posib yn erbyn yr heddwas.
Dywedodd yr heddlu y byddai'n trafod gyda Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu er mwyn dod â'r ymchwiliad camymddwyn i ben.