Bachgen 'wedi colli hanner un o'i geilliau ar ôl ergyd gan heddwas'

Mae Ellis Thomas yn gwadu niweidio'r bachgen
- Cyhoeddwyd
Fe gollodd bachgen yn ei arddegau hanner un o'i geilliau yn dilyn ergyd gan ben-glin heddwas y tu allan i glwb nos, mae llys wedi clywed.
Roedd Harley Murphy yn 17 oed pan gafodd ei arestio y tu allan i glwb nos Cube ym Mangor, Gwynedd, yn oriau mân y bore ar 29 Ionawr 2023.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Mawrth fod swyddog heddlu - Ellis Thomas o Ynys Môn - wedi taro Mr Murphy gyda'i ben-glin wrth iddo gael ei arestio.
Fe arweiniodd hynny at rwygiad i un o'i geilliau, gyda 50% ohoni wedi'i thynnu'n ddiweddarach mewn llawdriniaeth.
Mae Ellis Thomas yn gwadu cyhuddiad o achosi niwed corfforol difrifol.
'Mewn poen aruthrol'
Clywodd y llys fod Mr Murphy wedi cyfaddef ei fod yn feddw ar y noson, ac fe ddechreuodd ffrae y tu allan i'r clwb nos ar ôl i un o ffrindiau'r bachgen gael ei wthio i lawr y grisiau gan swyddog diogelwch.
Yn agor yr achos, dywedodd yr erlynydd Elen Owen fod Mr Murphy wedi gwneud sylwadau sarhaus am yr heddwas Ellis Thomas, a bod swyddog wedi ceisio ei gael i'r llawr.
Wrth i Mr Murphy wrthsefyll, clywodd y llys y cafodd ei daro gan ben-glin rhywun yn ei geilliau.
"Roedd y boen yn sydyn," clywodd y llys, a ddim fel unrhyw beth yr oedd Mr Murphy wedi'i deimlo erioed o'r blaen.
Dywedodd Ms Owen fod Mr Murphy mewn "poen aruthrol” pan gafodd ei roi mewn car heddlu a'i gludo i orsaf gyfagos.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig y tu allan i glwb nos Cube, sydd bellach wedi newid ei enw i Trilogy
Y diwrnod canlynol, aeth i uned frys Ysbyty Gwynedd ym Mangor, ac roedd 50% o gynnwys un o'i geilliau wedi "chwyddo".
Cafodd hanner y gaill ei thynnu, a daeth meddygon i'r casgliad ei bod hi'n bosib y gallai arwain at "boen hirdymor".
Dywedodd yr erlyniad wrth y rheithgor y byddai tystiolaeth camerâu cylch cyfyng yn cael ei ddangos maes o law, a bod y diffynnydd "i'w weld yn codi ei goes yn sydyn".
Clywodd y llys hefyd fod y swyddog wedi dweud wrth Mr Murphy yn ddiweddarach: "Ti'n galw fi'n speccy [gwneud hwyl am ei sbectol]… ac yn fy ngwthio, dyna be ti'n gael."
Clywodd y llys ei fod yn ddiweddarach wedi dweud wrth gydweithwyr: "Fi wnaeth lorio fo".
'Poen dwi erioed wedi'i deimlo o'r blaen'
Yn ddiweddarach, gwyliodd y rheithgor gyfweliad heddlu gyda'r bachgen.
Dywedodd y bachgen wrth y swyddog oedd yn cyfweld ei fod wedi ei "ypsetio" wedi i'w ffrind gael ei wthio i lawr y grisiau, a'i fod hefyd yn "eithaf meddw".
Cyfaddefodd iddo ddadlau gydag un swyddog oherwydd ei fod yn teimlo nad oedd yr heddlu'n deall beth oedd yn digwydd - a dywedodd ei fod wedi rhegi ar y swyddog oedd yn gwisgo sbectol.
"Dyna pryd y gwnaeth afael ynof a dweud fy mod i'n gwrthsefyll," meddai, a daeth swyddogion eraill.
Dywedodd Mr Murphy ei fod yn credu bod dau neu dri o swyddogion y tu ôl iddo neu wrth ei ochr.
Aeth yn ei flaen i ddweud fod un swyddog wedi rhoi pen-glin yn ei geilliau, a hynny mewn tuag at i fyny.
Ychwanegodd Mr Murphy ei fod mewn poen "yn syth" - poen nad oedd "erioed wedi'i deimlo o'r blaen".
Ar ôl cael ei roi yn y car heddlu, fe gyfaddefodd iddo geisio cicio drws y car ar agor. "Roeddwn i angen bod yn yr ysbyty," meddai.
Dywedodd Mr Murphy ei fod wedi derbyn "chwistrell bupur" yn y car heddlu, gan ychwanegu: "Dwi'n siŵr mai'r un gyda'r sbectol wnaeth."
Cafodd lluniau teledu cylch cyfyng gan Gyngor Gwynedd o'r digwyddiad honedig eu dangos i'r rheithgor hefyd.
Mae aelodau'r rheithgor wedi'u hanfon adref am y diwrnod, a bydd yr achos yn parhau ddydd Mercher.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2024